English version available here
Yn ddiweddar, fe ges i a Rhys Evans, Swyddog Polisi RSPB Cymru, y pleser o fynd i sgwrsio ag oddeutu 20 o ffermwyr ifanc o ardal Trawsfynydd. Dyma'r tro cyntaf i RSPB Cymru gael ei wahodd i siarad ag unrhyw Glwb Ffermwyr Ifanc, a gobeithio mai dyma'r cyntaf o nifer o achlysuron tebyg yn y dyfodol!
Rhoddodd Clwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden groeso cynnes iawn i ni, a'r aelod Glain Williams oedd yn gyfrifol am drefnu'r sgwrs. Cynwyd diddordeb Glain yng ngwaith RSPB Cymru gan ei Thaid a enillodd wobr fawr Natur Ffermio'r RSPB yn 2004 am ei waith yn gwarchod cornchwiglod ar ei fferm, Hafodty Gwyn.
Cyflwynodd Rhys waith RSPB Cymru i'r grŵp cyn eu goleuo am ein mentrau ffermio niferus ar draws y wlad, o RSPB Ynys Lawd, RSPB Ynys Dewi a RSPB Llyn Efyrnwy - yr ystâd organig fwyaf yn y DU.
Fe wnaethom ni wedyn eu herio gyda chwis adnabod adar, gydag adar yn amrywio o'r titw Tomos las i'r boda tinwyn. Ar ôl gadael iddyn nhw grafu eu pennau am bum munud, rhoddais gopi o'n Canllawiau Cab Tractor i bob aelod o'r clwb. Mae'r llyfrynnau bach gwych gwrth-ddŵr hyn yn cynnwys gwybodaeth am adar mwyaf cyffredin tir fferm, gwybodaeth am eu gofynion cynefin a syniadau am sut y gallwch chi fynd ati i'w helpu. Yn fuan iawn, fe daniwyd ochr gystadleuol y ffermwyr ifanc gyda'r tîm ar y brig yn sgorio 12 allan o 14! Roedd nifer ohonynt wedi gweld adar fel y gylfinir, y barcud coch a'r boda ar eu ffermydd ond heb fod yn sicr am eu henwau.
Yna cawsom gwis arall yn canolbwyntio ar ble oedd modd dod o hyd i bob un o'r 14 aderyn yn y cwis – ar ffridd (cymysgedd o brysgwydd a glaswelltir), copaon mynyddoedd a chaeau gwlyb. Tynnais sylw at ba mor bwysig oedd pori a ffermio i lawer o'n hoff adar amaethyddol; fe wnaethon ni drafod pam fod y gylfinir a'r gornchwiglen yn hoff o bridd gwlyb gan ei fod yn haws iddyn nhw gyrraedd pryfed genwair yn ddwfn yn y ddaear; pam fod y bras melyn yn hoff o eithin a ffridd gan eu bod yn cynnig blodau sy'n llawn paill ac infertebratau iddynt; a pham y mae'r frân goesgoch a mwyalchen y mynydd yn hoffi bwydo mewn glaswellt byr gan ei fod yn haws iddyn nhw gyrraedd chwilod a blagur i fwydo arnynt.
Holais sawl un ohonyn nhw a oedd y gylfinir yn nythu ar ei fferm. Fe ges i ‘nghalonogi o weld pum llaw yn codi yn yr awyr. Fe wnes i bwysleisio pa mor lwcus ydyn nhw i gael yr aderyn hyfryd yma ar eu tir gan ystyried bod gostyngiad o 80% wedi bod yn ei niferoedd ers y 1990au. Yna, cafwyd trafodaeth am yr hyn oedd modd iddyn nhw ei wneud i gadw'r gylfinir ar eu tir, pethau fel rheoli ysglyfaethu a phori cymysg priodol.
I gloi'r noson, fe wnaethom ni wahodd y clwb i ymweld â gwarchodfa RSPB Llyn Efyrnwy unwaith iddi ddechrau goleuo gyda'r hwyr i weld y math o ffermio a gwaith yr ydym yn ei wneud yno. Mae'n hanfodol creu partneriaethau lleol gyda grwpiau fel Clwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden oherwydd mae ganddyn nhw'r gallu i helpu i arbed bywyd gwyllt ar dir amaethyddol heddiw ac yn y dyfodol.
Lluniau yn y drefn maen nhw'n ymddangos: Rhian Pierce yn siarad gyda Clwb Ffermwyr Ifanc; Cornchwiglen gyda'i ifanc gan Amy Millard; Y gylfinir gan Andy Hay.