Sgroliwch lawr am y fersiwn Saesneg / Scroll down for the English version
Sesiynau Gwylio Adar yr Ysgol am ddim i ysgolion cynradd Caerdydd
Gwylio Adar yr Ysgol yr RSPB yw digwyddiad gwylio adar MWYAF y byd! Y mis Ionawr hwn fe all fod yn brofiad dysgu mwy fyth i’ch disgyblion.
Mae’r RSPB yn cynnig sesiwn allgymorth Gwylio Adar yr Ysgol am ddim i holl ysgolion cynradd Caerdydd.
Dyma gyfle gwych i’ch ysgol gymryd rhan mewn gwir broject gwyddoniaeth gan ddinasyddion; mae’r cynnig ar gael rhwng 5 Ionawr a 13 Chwefror 2015.
Wrth ddefnyddio ysbienddrych ac arweinlyfrau adnabod bydd yr RSPB yn helpu eich disgyblion i adnabod a chofnodi’r holl adar o gwmpas yr ysgol. Byddwn yn eich helpu i fewnbynnu eich canlyniadau i wefan Gwylio Adar yr Ysgol ac yn cymharu’r adar a welir yn eich ysgol chi gyda’r rhai a welir mewn ysgolion eraill ledled Caerdydd, i helpu i adnabod yr adar y bydd eich disgyblion yn gallu eu denu yn y dyfodol.
I archebu’r profiad hwn yn rhad ac am ddim cysylltwch â sarah.mitchell@rspb.org.uk
Am wybodaeth ynglŷn â’n sesiynau allgymorth eraill am ddim, sydd ar gael drwy gyfrwng Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, cliciwch yma
English
Free Big Schools’ Birdwatch sessions for Cardiff primary schools
The RSPB's Big Schools' Birdwatch is the World’s BIGGEST birdwatch! This January it could be an even bigger learning experience for your pupils.
The RSPB is offering a free Big Schools’ Birdwatch outreach session for all primary schools in Cardiff.
A fantastic chance for your school to take part in a real citizen science project; this offer is available from 5 January to 13 February 2015.
Using binoculars and ID guides the RSPB will help your pupils identify and record all the birds around your school. We’ll help you upload your results to the Big Schools' Birdwatch website and compare the birds found in your school to those spotted in other schools across Cardiff, to help identify the birds your pupils could attract in future.
To book this free experience please contact sarah.mitchell@rspb.org.uk
For information about our other free outreach sessions, available through Giving Nature a Home in Cardiff, please click here