Saith ffaith ddiddorol am fras yr eira

English version available here 

Gyda'r Nadolig yn prysur agosáu mae nifer o adar y gallech eu gweld tra byddwch yn cerdded sydd wedi mudo i Gymru ar gyfer y gaeaf.

Un o'r rheini yw bras yr eira. Mae bras yr eira yn aelodau o deulu’r Emberizidiae neu’r breision ac mae modd eu hadnabod oddi wrth eu plu gwyn trawiadol.

Gan amlaf, gellir dod o hyd i fras yr eira yn bridio o amgylch yr arctig o Sgandinafia yr holl ffordd i Alasga, Canada a’r Ynys Las. Ond tua diwedd pob mis Medi, maen nhw'n mudo i'r de gyda nifer ohonyn nhw'n mudo i Gymru a rhannau eraill o'r DU.

Eu cynefin naturiol yw tir fferm, ucheldir neu wrth ymyl y môr a dyna pam y byddwch yn dod o hyd i'r rhan fwyaf o fras yr eira sy'n mudo i'r DU o amgylch yr arfordir. Rydych yn fwyaf tebygol o ddod o hyd iddynt yn ystod misoedd y gaeaf ar safleoedd arfordirol yn yr Alban a'r holl ffordd i lawr arfordir dwyreiniol Lloegr mor bell i'r de â Chaint. Fel arfer gellir gweld bras yr eira hyd at tua mis Chwefror a mis Mawrth, pan fyddant yn mynd i'r gogledd i fridio.

Dyma rai ffeithiau am Fras yr Eira rhag ofn y gwelwch un ar eich teithiau cerdded yn y gaeaf.

  1. Gan eu bod yn rhywogaeth fridio brin yn y DU, maen nhw’n rhywogaeth sydd ar y rhestr ambr ac fe'u rhestrir o dan atolden un o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Yr enw gwyddonol ar gyfer bras yr eira yw’r Plectrophenax nivalis. Daw'r gair Plectrophenax o'r Hen Roeg "Plektron" sy'n golygu sbardun ceiliog, ystyr "ffenax"  yw twyllwr a daw "nivalis" o’r Lladin a’i ystyr yw eira.

  2. Ar hyn o bryd, mae tua 60 o barau bras yr eira sy’n bridio yn y DU, yn yr Alban yn bennaf, ond yn ystod y gaeaf mae rhwng 10,000 a 15,000 o fras yr eira yn mudo i'r DU.

  3. Yn yr haf, bydd gan y gwryw ben a bol gwyn sy'n gwrthgyferbynnu â’i gefn a blaen ei adenydd sy’n ddu. Mae’r fenyw yn edrych yn fwy brith o’i chymharu â’r gwryw.

  4. Yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf, bydd ychydig o liw llwydfrown a llwydfelyn i’w gweld ar blu bras yr eira a bydd y plu ar gefn y gwryw’n mynd yn fwy brith.

  5. Nid lliw plu'r gwryw a’r fenyw yw’r unig wahaniaeth ond hefyd eu pig. Tra bod gan y gwryw bwt o big du, byr, mae gan y fenyw hefyd bwt o big byr hefyd ond mae ei phig hi’n gymysgedd o frown du a melyn mewn lliw.

  6. Mae bras yr eira yn mesur rhwng 16cm a 17cm, mae lled eu hadenydd hyd at 38cm a gallant bwyso hyd at 50g sy'n cyfateb yn fras i ddeg darn 20c.

  7. Yn ystod amser bwydo byddwch yn debygol o weld bras yr eira yn mwynhau naill ai hadau neu rai pryfed.

I gael gwybod mwy am fras yr eira ac adar eraill sy'n mudo i Gymru am y gaeaf cliciwch yma.