RSPB Cymru yn croesawu cynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Cymru

English version available here

Eleni, bydd Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd, a phrif destun y sgwrs fydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Cymru. Ar ôl blynyddoedd o frwydro i sicrhau bargen well i fyd natur o daliadau a chynlluniau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, sydd wedi siapio ffermio yng Nghymru, rydym yn croesawu cynigion Llywodraeth Cymru yn fawr ar gyfer y cynllun newydd. Y bwriad yw defnyddio arian trethdalwyr i helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd a Natur ac, wrth wneud hynny, adfer yr ecosystemau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.

 

Rydym yn arbennig o falch o weld y dylai lleiafswm o 10% o’r holl dir amaethyddol gael ei reoli ar gyfer natur fel gofyniad sylfaenol yn y cynllun newydd. Mae ein gwaith yn dangos mai dyma sydd ei angen i adfer llawer o natur ein tiroedd amaeth. Fodd bynnag, i fod yn effeithiol, rhaid i’r 10% gael ei reoli’n dda a chynnwys cymysgedd o’r cynefinoedd allweddol canlynol i gynnal a disodli’r rhai a gollwyd ledled Cymru:

  • Rhaid cynnal a rheoli pob cynefin lled-naturiol presennol yn dda.
  • Rhaid rheoli gwrychoedd, ymylon caeau, coridorau glannau nentydd, coed a phrysgwydd yn dda.
  • Cynefinoedd llawn blodau, gan gynnwys cynefinoedd blodeuol lled-naturiol, e.e. dolydd gwair traddodiadol a/neu laswelltiroedd llawn blodau newydd a gwndwn
  • Cynefinoedd llawn hadau i gymryd lle bonion gwellt y gaeaf, y mae llawer o’n hadar, fel y bras melyn, yn dibynnu arnynt.
  • Pyllau dŵr a nodweddion gwlyb arall.

Gyda’r gefnogaeth a’r arweiniad cywir, dylai pob fferm yng Nghymru allu rheoli o leiaf 10% o dir yn dda ar gyfer byd natur. Byddai hyn yn creu brithwaith o gynefinoedd ledled Cymru ac yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt unwaith eto.

Rydym hefyd yn croesawu’r cynnig i adfer mawndiroedd, gan fod y rhain yn gynefinoedd hynod werthfawr sydd, yn ogystal â storio dŵr a chloi carbon atmosfferig, yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt arbennig sy’n dibynnu ar yr ardaloedd eang, corsiog hyn i ffynnu. Mae hefyd yn galonogol bod y cynigion yn datgan y dylai safleoedd pwysig i natur, fel SoDdGA, ac adar prin, fel y gylfinir, elwa. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau bod y cynllun newydd yn llwyddiant i natur ledled Cymru.

Yn amlwg, rhaid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd sicrhau ein bod yn parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel. Credwn yn gryf mai talu ffermwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac adfer byd natur, gan gynnwys atgyweirio a diogelu ein hasedau naturiol o briddoedd a dŵr, yw’r ffordd orau o sicrhau y gallwn gynhyrchu bwyd yn awr ac yn y dyfodol. Bydd adfer natur yn adfer yr ecosystemau y mae natur yn eu creu a fydd, yn ei dro, yn gwneud ffermio yn fwy gwydn, gan gynnwys i bwysau amgylcheddol yn y dyfodol a achosir gan newid hinsawdd.

Sylweddolwn fod llawer o waith i'w wneud eto cyn i fanylion y cynllun newydd gael eu cwblhau, ac mae cwestiynau pwysig i'w hateb o hyd. Er enghraifft, faint o arian fydd yn cael ei dalu i ffermwyr a sut byddan nhw'n cael cyngor ac arweiniad priodol i sicrhau eu bod yn cyflawni'r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchiant a natur? Yn ogystal, ac yn hynod bwysig, sut y bydd trawsnewidiad Cymru gyfan o’r system gymorth bresennol i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei roi ar waith yn deg ac yn effeithiol?

Mae'r Llywodraeth yn amlwg yn gweld y cynllun newydd fel ffordd bwysig o gyflawni ei thargedau creu coetir i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn hanfodol, ond felly hefyd adfer natur a chynhyrchu bwyd. Felly, rydym yn awyddus i ddysgu sut y bydd y cynllun newydd yn sicrhau bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle cywir i ddiogelu cynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr a’n tir amaethyddol mwyaf cynhyrchiol.

Credwn yn gryf fod buddsoddi ym myd natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd hefyd yn fuddsoddiad mewn ffermio a lles y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Mae gennym ni un cyfle i wneud hyn yn iawn ac mae cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir.