To read this blog in English please click here
Mae ein gwarchodfa natur dawel ar Ynys Môn, a oedd yn arfer cael ei galw’n Malltraeth Marsh, wedi mynd drwy gyfnod o newid eleni. Mae’r warchodfa wedi derbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones yn ddiweddar er mwyn gwella a chynnal cynefinoedd a rhywogaethau prin y safle. Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, un o fentrau Llywodraeth Cymru yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, wedi cefnogi’r prosiect hefyd.
Llun gan Laura Kudelska: RSPB Cors Ddyga Pam newid yr enw?
Mae’r enw Cors Ddyga yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif, pan oedd yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn llenyddiaeth Gymraeg. Roedd Tygai’n alltud o Lydaw a ddaeth i Ynys Môn i sefydlu eglwys Gristnogol yn ystod y 6ed ganrif. Sefydlwyd nifer o eglwysi gan Gristnogion cynnar eraill, fel rheol mewn lleoliadau anghysbell - a bryd hynny roedd natur lanwol i'r gors; anghysbell ac anodd ei chroesi.
Mae’r warchodfa ar safle hen Bwll Glo Berw ar Ynys Môn. Er bod yr enw Cors Malltraeth yn ddisgrifiad da o’r tir yn yr ardal, nid oeddem yn teimlo ei fod yn cyfleu’r nodweddion hanesyddol a diwylliannol hyn yn dda iawn, nac yn nodi ei union leoliad yn ddaearyddol chwaith. Felly, fe wnaethom benderfynu enwi’r warchodfa’n RSPB Cors Ddyga, gan ddathlu ei threftadaeth ddiwylliannol a’i gwreiddiau hanesyddol.
Llun gan Laura Kudelska: Simnai glofa Berw yn RSPB Cors Ddyga
Un o ryfeddodau cudd Môn
Gwlyptiroedd yw un o’n cynefinoedd cyfoethocaf, ac mae RSPB Cors Ddyga yn un o’r gwlyptiroedd tir isel mwyaf yng Nghymru. Mae’r llynnoedd, y pyllau a’r ffosydd ymhlith rhai o’r pwysicaf yn y DU ac maent yn cynnwys dros 30 o blanhigion gwlyptir prin. Mae’r glaswelltir hefyd yn cynnal un o’r ychydig nythfeydd cornchwiglod yng Nghymru ac mae cân yr ehedydd yn atseinio yno. Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cors Ddyga yn un o dri safle yn unig yng Nghymru i gael ei ddynodi am gyfoeth ei anifeiliaid di-asgwrn-cefn dyfrol, fel gwas y neidr a’r chwilen ddŵr. Mae’r corslwyni’n gartref i ddyfrgwn, llygod y dŵr ac adar gwlyptir gan gynnwys boda’r gwerni. Yn y gwanwyn maen nhw’n atseinio i sŵn y teloriaid sydd newydd gyrraedd o Affrica, yng nghanol blodau hyfryd y gwlyptir. Wrth i ni nesáu at yr haf, gallwch weld cywion hwyaid, cywion gwyddau a phlanhigion dŵr, fel pluddail y dŵr prin. Yn yr hydref, mae’n bosib y gwelwch chi dwnnel dyfrgi neu rywfaint o’i ysgarthion. Wrth iddi oeri yn y gaeaf, fe allech chi fod yn ddigon lwcus i weld aderyn y bwn yn codi ei ben o ganol y llystyfiant, haid o ddrudwy yn symud wrth iddi nosi neu glywed gwich fain rhegen ddŵr.
Llun gan Andy Hay, rspb-images: Aderyn y bwn
Cerflun a chân
Er mwyn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog y warchodfa, mae Duncan Kitson, wedi creu cerflun o aderyn y bwn yn y warchodfa, sy’n cynnwys geiriau’r gân werin adnabyddus, Deryn y Bwn o’r Banna. Mae hyn, yn ogystal â paneli dehongli newydd a llwybr cerdded 1.25 milltir sydd wedi’i chreu drwy’r gwlyptiroedd, yn darparu’r lle perffaith i ddianc a rheswm da dros aros am ychydig i gael seibiant - yn arbennig os ydych chi wedi cyrraedd y warchodfa ar ôl beicio ar hyd Lôn Las Cefni. Mae’r cyllid hael rydym wedi’i dderbyn wedi’i gwneud yn bosib i RSPB Cors Ddyga gychwyn ar bennod newydd yn ei hanes. Mae’r cyllid wedi helpu i ddatblygu’r lle’n barhaus yn gorslwyn neu’n gymhlethfa ffyniannus, glaswelltir gwlyb, ffen a dŵr agored, sy’n sicrhau bod y planhigion a’r bywyd gwyllt yn parhau i gael ardaloedd newydd i gytrefu. Mae'r warchodfa yn cynnig profiadau gwirfoddoli newydd gwych ar gyfer y gymuned leol hefyd, yn ogystal â chyfle i ddysgu am dreftadaeth leol y safle; drwy gyfrwng gwaith ymarferol, sgiliau treftadaeth a chyfleoedd ymchwil.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, cysylltwch â Swyddog Datblygu Cymunedol a Gwirfoddolwyr RSPB Cymru, Eva Vazquez-Garcia, ar 01248 672850 / eva.vazquezgarcia@rspb.org.uk.