Gwylio Adar yr Ardd: Rhywbeth i edrych ymlaen ato

English version available here

I lawer ohonom, nid mis Ionawr yw’r mis mwyaf poblogaidd. Wrth i ni dynnu’r goeden a’r tinsel i lawr yn anfoddog, rydym yn teimlo fod cyffro a bywiogrwydd y Nadolig yn pylu i’r pellter, ac yn ymgyfarwyddo â threfn arferol y diwrnod gwaith eto.

Mae llawer ohonom yn gweld y bwrdd a oedd wedi’i addurno’n hardd ar gyfer cinio Nadolig ychydig ddyddiau’n ôl nawr yn dychwelyd i fod yn ddesg waith dros dro. Ychwanegwch bandemig a chyfnod clo, ac ni fyddai’n afresymol teimlo mai’r mis Ionawr hwn yw’r un mwyaf enbyd o fewn cof!

Ond er bod gobaith weithiau’n teimlo’n brin, mae’n bwysig cofio bod natur yno i ni bob amser. Ac er nad dyma’r ateb i holl broblemau bywyd, gall ein synnu, ein tawelu, ein plesio, ac fel yr ydym wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf, ein cysuro ni hefyd. Roedd nifer y bobl a droes at fyd natur ar garreg eu drws dros gyfnod pryderus 2020 yn anhygoel. A gyda chyfnod clo arall wedi dod i rym bellach, mae pob un ohonom angen rhywbeth i edrych ymlaen ato y mis hwn – a dyma lle mae’r Sesiwn Fawr Gwylio Adar yn dod i’r amlwg!

Awr i’w thrysori

Ar benwythnos Ionawr 29-31, byddwn yn dechrau ar y prosiect gwyddoniaeth i ddinasyddion mwyaf yn y DU. Rydym yn neilltuo awr o’n hamser i roi ein ffonau i lawr, rhoi’r tegell ymlaen ac edrych allan i’n gardd (neu trwy'r ffenest i'n fan gwyrdd) i nodi’r adar a welwn. Mae hyn nid yn unig yn ffordd dda o ddianc rhag normalrwydd prysur ac electronig ein bywydau bob dydd, ond hefyd yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’n ffrindiau pluog. Mae’r adar, sy’n ymweld â’n gerddi a’n mannau gwyrdd ac sy’n gallu dod â chymaint o lawenydd i ni o ddydd i ddydd, yn dibynnu’n fawr ar yr arolwg adar blynyddol hwn.

Dyma pam.

Mae cymaint o’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu drwy’r Sesiwn Fawr Gwylio Adar yn cael ei roi ar waith yn ymarferol o ran sut a lle rydyn ni’n canolbwyntio ein gwaith a’n hymdrech. Gallwn weld pa adar sy’n gwneud yn dda, pa rai sy’n ei chael hi’n anodd, ac rydym yn gweithredu’n unol â hynny i helpu’r adar sydd angen help llaw mewn Cymru sy’n newid yn gyson.

Felly beth allwch chi gadw llygad amdano yn eich gardd y mis hwn? Byddwch yn barod i weld llawer o adar arferol yr ardd - adar y to, titw tomos las, drudwen, robin, llwyd y berth, mwyalchen, neu gnocell fraith fwyaf hyd yn oed. Mae canlyniadau’r Sesiynau Mawr Gwylio Adar diweddar yn y blynyddoedd diwethaf wedi dangos cynnydd cyson yn nifer y nico a’r ditw cynffon hir, felly cadwch lygad am y rheini hefyd.


Cnoi cil

Mae bwyd yn arbennig o bwysig i adar ar yr adeg oer hon o’r flwyddyn, a gydag amrywiaeth o fwyd adar daw amrywiaeth o adar! Llenwch eich teclynnau bwydo â chalonnau blodau’r haul, sy’n ffefryn ymysg y rhan fwyaf o rywogaethau. Mae cnau daear yn wych i’r titw tomos las a’r titw mawr ac ambell delor y cnau, yn ogystal â hadau nyjer ar gyfer y nico. Mae’n well gan rai adar fel y robin goch, llwyd y berth neu’r aderyn du fwyta oddi ar y ddaear – felly taflwch nifer dda o ddanteithion siwet i lawr iddyn nhw. Mae cacennau siwet a pheli braster hefyd yn wych ar gyfer denu drudwy, a fydd yn ymgynnull yn heidiau os oes gwledd i'w chael! Os nad oes gennych chi lawer o fwyd adar, peidiwch â phoeni – bydd sbarion o’r gegin, fel briwsion cacennau a bisgedi, reis a phasta wedi’u coginio, hefyd yn cael eu gwerthfawrogi. Byddwch yn ofalus a pheidiwch â rhoi gormod allan a pheidiwch ag anghofio cadw eich teclynnau bwydo a’ch arwynebau’n lân.

Felly, os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, ewch i gofrestru ar gyfer y Sesiwn Fawr Gwylio Adar nawr – ac ymuno â ni i helpu ein natur ryfeddol a sicrhau bod rhywfaint o oleuni i’w weld ym mhen draw’r twnnel y mis Ionawr hwn!