English version available here.
Mae’n debyg taw’r aderyn cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth feddwl am y gaeaf yw’r robin goch – yn enwedig pan yn gwylio'r ffilm animeiddio Aardman Nadoligaidd Robin Robin ar Netflix. Ond mae yna lawer mwy i fisoedd oerach y gaeaf na hynny.
Gwelir yr asgell goch ac aderyn yr eira – dau fath o fronfraith o faint canolig sy’n perthyn i’r aderyn du – yn heidio i’n parciau a’n caeau yn y gaeaf. Ac os ydych chi’n ddigon ffodus i gael ychydig o eira, efallai y cewch ymweliad gan y ddau hyn yn yr ardd os ydyn nhw wedi mynd ar gyfeiliorn o’u caeau a’u parciau arferol.
Mae morlin ac aberoedd Cymru yn gyrchfannau i filoedd o hwyaid, gwyddau ac adar hirgoes sy’n heidio i fwydo ar y tiroedd cyfoethog hyn. Mae gwarchodfa RSPB Ynys-hir ym Machynlleth yn lle gwych i weld yr holl liwiau a synau wrth i’r chwiwell, y cornhwyaden, yr hwyaden lydanbig a hwyaden yr eithin ymgasglu. Neu beth am fynd i’n gwarchodfa yn RSPB Conwy i gael cipolwg ar yr hwyaden lygad-aur sydd wedi hedfan drosodd o Rwsia. Mae’n wefreiddiol gweld yr aderyn du a gwyn hyfryd yma gyda’i lygaid euraidd unigryw.
Chwiwell - John Bridges (rspb-images.com)
Yn ogystal â llu o adar gwyllt eraill, un olygfa gyffredin yn y gaeaf yn RSPB Cors Ddyga yw’r cannoedd o gornchwiglod – mae Cors Ddyga yn un o hoff safleoedd nythu’r adar hyn. Efallai hefyd y cewch gipolwg o foda’r gwerni wrth iddo chwilio am ysglyfaeth o’r awyr yn osgeiddig. Mae mor drawiadol!
Yn olaf, ond nid y lleiaf, un o’r golygfeydd mwyaf trawiadol a gawn gan fywyd gwyllt yng Nghymru yw haid o ddrudwy. Mae’r ddrudwen tua’r un faint â mwyalchen, gyda’i phlu tywyll, sgleiniog. Wrth iddi nosi, maent yn hel mewn heidiau enfawr i berfformio triciau awyrol trawiadol cyn noswylio.
Haid o ddrudwy - Ben Andrew (rspb-images.com)
Pam maent yn gwneud hyn? Mae llawer o resymau o bosibl, i’w hamddiffyn eu hunain rhag adar ysglyfaethus neu i gyfnewid gwybodaeth a chadw’n gynnes. Ond nid yw’n glir sut maent yn llwyddo i symud mewn cytgord mor dynn. Yr hyn wyddon ni yw bod eu symudiadau’n creu patrymau prydferth yn yr awyr, a dyma un o’r golygfeydd mwyaf rhyfeddol allwch chi eu gweld. RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd yw un o’r llefydd gorau yn y wlad i brofi hyn, ond gellir gweld heidiau ohonynt yn RSPB Conwy yn y gogledd hefyd. Mae’n werth mynd draw i un o'r gwarchodfeydd i weld y sioe anhygoel hon.