English version available here
Un cwestiwn cyffredin rydym yn ei glywed tra'n hyrwyddo Gwylio Adar Yr Ardd yw “pam ein bod yn gweld llai o adar yn yr awyr?”
Er bod yna amryw o resymau dros hyn, un o’r prif broblemau sy’n wynebu adar fwyfwy yw colli cynefinoedd. Yn wir, un o’n ffeithiau mwyaf difrifol wrth drafod niferoedd yw ein bod wedi colli tua 38 miliwn o adar ar draws y DU mewn 40 mlynedd.
Y cwestiwn sy’n dilyn yn aml yw, “beth allwn ni ei wneud i wyrdroi’r golled hon?” Mae wynebu’r broblem o ddinistrio a cholli cynefinoedd a cheisio gwyrdroi hynny yn gallu teimlo fel dringo mynydd anferth. Rydym yn gweld ychwanegiadau pellach i’r rhestr goch, mewn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd. Rydym hefyd yn gweld ein mannau gwyrdd lleol, sy’n boblogaidd gyda phobl a natur fel ei gilydd, yn cael eu colli drwy ddatblygiadau adeiladu a thacluso diangen mewn lleoliadau.
Pan fyddwn yn edrych ar faint y broblem hon, mae gofyn i’n hunain beth allwn ni ei wneud fel unigolion wneud i ni deimlo’n ddiymadferth. Wedi’r cyfan, oni fyddai ein hymdrechion unigol ni mewn gwirionedd yn ddim mwy na diferyn yn y môr ac felly nid yw mor bwysig â hynny? Nid o reidrwydd.
Rhoi cartref i natur
Yr wythnos hon mae’n Wythnos Bocs Nythu - a thrwy ymuno â ni a gosod bocs nythu neu ddau, gallech fod yn rhoi cartref i natur y gwanwyn hwn, wrth i’n hadar ddechrau ar eu tymor paru. Mae’n gyfnod hollbwysig o’r flwyddyn iddyn nhw, wrth iddynt floeddio canu yn chwilio am gymar. Felly, os yw’n focs teras i adar y to prysur, neu’n focs clasurol ar gyfer pâr lwcus o ditw Tomos las, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar eich darn o dir chi. Gall eiddew, llwyn neu wrych gydag ychydig o ganghennau fod yn hafan i deulu o robin goch neu ddryw gyda nythod prysgwydd priddlyd neu nythod crog artisan - sy’n berffaith ar gyfer clwydo a nythu pan ddaw’r gwanwyn. Gallai gosod cwpan nyth gwenoliaid y bondo, sydd wedi’u creu i union fesuriadau nythod sy’n cael eu creu gan wenoliaid y bondo, ddenu’r adar hardd hynny i fondo eich cartref.
Mae nifer y drudwy, er eu bod yn parhau i fod yn amlwg eu nifer yn sgorau’r arolwg Gwylio Adar yr Ardd, yn gostwng, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, sy’n golygu eu bod wedi’u rhoi ar y rhestr goch. Ond lle bynnag y byddwch chi, yng nghefn gwlad neu yn un o drefi neu ddinasoedd Cymru, gallwch ofalu am y rhyfeddodau gloyw hyn gyda bocs arbennig drudwy. Aderyn arall sydd wedi gweld ei niferoedd yn dirywio’n aruthrol ers canol y 1990au, yn bennaf o ganlyniad i golli mannau nythu yw’r wennol ddu. Gallech roi croeso delfrydol i deulu o wenoliaid duon sy’n ymfudo, drwy osod bocs gwenoliaid duon ar ochr y tŷ.
Wrth gwrs, os ydych yn berson DIY brwd, gallech bob amser greu un eich hun! Ond nid adar yr ardd yw’r unig rai a fydd yn elwa ar eich bocsys nythu.
Gallai eich gardd gael ei thrawsnewid yn ardal werdd brysur o ryfeddodau, yn llawn gweithgarwch ac adar yn canu yn y bore. Mae llawer ohonom wedi canfod cysur mewn natur yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn arbennig yn ystod y cyfnodau cyfyngiadau symud. Derbynnir ar draws y byd gwyddoniaeth bod cân yr adar, yn ogystal â bod allan mewn natur a mannau gwyrdd, yn wirioneddol llesol i’n llesiant meddyliol a chorfforol. Os ydych yn un o’r llawer a gymerodd ran yn yr arolwg Gwylio Adar yr Ardd eleni, yna gallai gosod bocs nythu neu ddau yn ogystal ag ychydig o fwyd adar wneud gwahaniaeth mawr. A beth am wneud mwy? Gallech gyfuno eich chwyldro bocsys nythu a chyflwyno cornel wyllt, gwely blodau neu ddau a hyd yn oed pwll bychan os oes gennych le ar ei gyfer, a gallai eich gardd fod yn ganolbwynt gwych i fyd natur o fewn blwyddyn.
Gallai eich gwaith chi yn eich rhan fach chi o Gymru wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fioamrywiaeth eich ardal leol. Oherwydd weithiau, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y pethau bychain er mwyn anelu’n uchel.
Am ragor o wybodaeth am sut i helpu’r byd natur ar garreg eich drws, ewch i'r wefan a rhannwch eich straeon boc adar ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnod #WythnosBocsAdar