To read this in English please click here.
Mae'r cynefinoedd cyfoethog ac amrywiol o amgylch arfordiroedd Cymru yn eithriadol o bwysig i'r bywyd gwyllt a’r bobl sy’n byw yno. Mae yma balod fel y rhai a welwch mewn llyfrau, adar drycin Manaw gosgeiddig a môr-wenoliaid sy’n gwibio ac yn plymio; a dim ond rhai o'r cymeriadau sy’n rhoi bywyd i’n harfordir gwyntog yw'r rhain. Ond, fel llawer o nodweddion ein hamgylchedd, mae ein moroedd o dan bwysau cynyddol gan weithgareddau dyn, fel pysgota, twristiaeth a newid hinsawdd. Mae’n hollbwysig ein bod yn diogelu ardaloedd er mwyn gwarchod ein bywyd gwyllt, ac mae dynodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn un ffordd o wneud hyn. (Edrychwch ar ein blog diweddar i gael rhagor o wybodaeth.)
Ed Marshall, rspb-images.com
Felly, rydyn ni’n falch iawn bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y byddant yn dynodi chwech o Ardaloedd Morol Gwarchodedig newydd yng Nghymru, a fydd yn gerrig milltir hollbwysig yn y gwaith o greu rhwydwaith o ardaloedd gwarchodedig ar gyfer bywyd morol. Bydd y rhwydwaith hwn yn sicrhau bod rhai o’n rhywogaethau anwylaf sydd dan fygythiad, uwchben ac o dan y dŵr, yn goroesi.
Mae’r safleoedd newydd hyn yn cydnabod bod angen gwarchod bywyd gwyllt prin ar y tir lle maen nhw’n bridio, yn ogystal ag yn y mannau môr lle maen nhw’n bridio ac yn byw. Maen nhw’n gam pwysig tuag at sicrhau bod ein rhywogaethau a’n cynefinoedd morol yn cael eu diogelu’n gywir drwy rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Oeddech chi’n gwybod bod pâl yr Iwerydd o dan gymaint o fygythiad â’r eliffant Affricanaidd, a bod ynysoedd Sir Benfro yn un o’r ardaloedd yn y DU lle mae’r boblogaeth yn cynyddu? Er mwyn gwarchod yr adar nodweddiadol hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn gwarchod eu prif ardaloedd bwydo a bridio ledled Cymru. Bydd yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn ein helpu ni i wneud hyn.
Beth yw Ardaloedd Morol Gwarchodedig?
Mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn adnoddau y gallwn eu defnyddio i warchod yr amgylchedd morol ac i’n helpu ni i’w ddefnyddio mewn modd cynaliadwy. Mae dau fath o Ardal Forol Warchodedig wedi’u neilltuo yng Nghymru, sy’n cael eu cydnabod fel rhai o'r safleoedd pwysicaf yn Ewrop: Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar gyfer nifer o rywogaethau o adar môr, ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer llamhidyddion yr harbwr, sy’n gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd morol.
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer llamhidyddion yr harbwr
Llamhidyddion yr harbwr yw'r unig lamhidyddion sydd i’w gweld yn nyfroedd Ewrop, a nhw yw'r lleiaf yn eu teulu. Maen nhw’n hoffi dyfroedd arfordirol bas ac maen nhw’n gyfrin iawn, ond mae modd eu hadnabod yn hawdd oherwydd y sŵn tisian maen nhw’n ei wneud pan maen nhw’n chwythu dŵr allan. Ar ôl cynnal ymgynghoriad ledled y DU, mae pump o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig wedi’u neilltuo ar gyfer yr anifeiliaid hyn yn y DU, ac maen nhw wedi cael eu cyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd i gael eu cymeradwyo. Dyma’r tri sydd wedi’u lleoli yn Nyfroedd Cymru:
Hawlfraint y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur http://jncc.defra.gov.uk/default.aspx?page=7059
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer adar y môr yng Nghymru
AGA Môr-wenoliaid Ynys Môn
Mae'r dyfroedd o amgylch Ynys Môn yn ardal borthi bwysig ar gyfer môr-wenoliaid. Mae’r Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) bresennol, sy’n cynnwys safleoedd nythu ar gyfer môr-wenoliaid pigddu, môr-wenoliaid gwridog, môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid yr Arctig, wedi’i hehangu er mwyn gwarchod eu hardaloedd porthi. Mae’r ardaloedd hyn yn hanfodol ar gyfer y môr-wenoliaid yn ystod y tymor bridio, felly mae’n fanteisiol iawn i'r boblogaeth eu bod bellach yn cael eu gwarchod. Mae’r safle hwn hefyd yn gorgyffwrdd ag Ardal Cadwraeth Arbennig Gogledd Môn Forol ar gyfer llamhidyddion yr harbwr.
AGA Gogledd Bae Ceredigion
Mae hwn yn safle newydd sbon sydd wedi'i neilltuo ar gyfer niferoedd mawr o drochwyr gyddfgoch sy’n gaeafu yno. Mae trochwyr gyddfgoch yn bridio ym mannau eithafol gogledd yr Alban ac yn treulio'r gaeaf yng nghynhesrwydd cymharol bae Ceredigion. Mae'r safle hefyd yn gorgyffwrdd ag ACA Gorllewin Cymru Forol ar gyfer llamhidyddion yr harbwr.
AGA Sgomer, Sgogwm a Moroedd Penfro
Mae ynysoedd Sgomer a Sgogwm oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro, ac mae dros 50% o boblogaeth adar drycin Manaw’r byd yn trigo yno, sy’n golygu mai’r rhain yw’r safleoedd pwysicaf a'r gorau ar gyfer y rhywogaeth yn rhyngwladol. Mae AGA bresennol Sgomer a Sgogwm wedi’i hehangu er mwyn cyrraedd y dyfroedd pellach allan ar y môr er mwyn gwarchod ardaloedd sy’n cael eu defnyddio’n aml gan adar drycin Manaw a phalod yn ystod y tymor bridio. Mae hyn yn bwysig ar gyfer adar drycin Manaw yn enwedig, gan eu bod yn treulio eu horiau yn ystod y dydd yn y dyfroedd wrth ymyl eu nythfa, a dydyn nhw ddim ond yn dychwelyd i’w nythod pan mae’n tywyllu. Mae'r gwaith ehangu hwn yn dyblu maint yr AGA, ac mae’r safle’n ymestyn i'r de i ddyfroedd Lloegr – sy’n llwyddiant mawr i’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arni.
Gwarchod mannau arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Mae'r môr yn lle arbennig iawn. Mae pobl yn dibynnu arno i gael bwyd ar y bwrdd, ocsigen i’w anadlu, a dŵr i'w yfed, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chynhyrchu pŵer i oleuo ein hadeiladau. Hefyd, mae llawer o fywyd gwyllt yn dibynnu arno i gael cartref, bwyd ac ocsigen, ac i oroesi. Efallai nad yw pawb yn byw’n agos i’r môr, ond mae’n hanfodol ein bod yn gwarchod y llefydd arbennig hyn er mwyn galluogi bydd cenedlaethau’r dyfodol ac bywyd gwyllt yn manteisio ar bopeth mae’n ei gynnig.