English version available here
Mewn eiliad o bwys mawr i Gymru, gwnaeth y Senedd ddatganiad o argyfwng natur ym mis Mehefin. Mae’n hanfodol bod Senedd Cymru’n dechrau creu’r cyfreithiau sydd eu hangen i yrru adferiad natur yn ei flaen, a hynny heb oedi.
Ym mis Mehefin eleni, gwnaeth y Senedd rywbeth tyngedfennol a fydd yn cael ei gofio mewn hanes, drwy basio cynllun yn datgan argyfwng natur yng Nghymru, a gofyn i Lywodraeth Cymru roi ei gweithrediadau i atal, a hefyd gwrthdroi’r golled i natur, ar yr un lefel a’r gweithredu i daclo newid hinsawdd.
Cefnogodd Llywodraeth Cymru’r cynllun, gan ymrwymo i ddwyn deddfwriaeth ymlaen a fydd yn gosod targedau y mae’n rhaid ymrwymo iddynt, ar gyfer adferiad natur ac i sefydlu corff annibynnol a fydd yn gyfrifol am lywodraethu amgylcheddol yng Nghymru. Ond, mewn mater sy’n achosi pryder, nid yw Llywodraeth Cymru wedi caniatáu amser ar gyfer hyn yn ei blwyddyn gyntaf o’r rhaglen ddeddfwriaethol, ac nid yw’n gwarantu’n ddi-os y bydd yn symud y mater yn ei flaen yn ei hail flwyddyn ychwaith.
Cau’r bwlch llywodraethu
Cyn Brexit, roedd y DU wedi’i gosod o fewn fframwaith lywodraethu cryf ar lefel Ewropeaidd. Roedd y Comisiwn Ewropeaidd a sefydliadau eraill yn cadw trosolwg ac yn gorfodi i’r gyfraith amgylcheddol gael ei rhoi ar waith gan yr Aelod-wladwriaethau. O dan y system hon, roedd dinasyddion yn gallu lleisio’u gofidion ynghylch methiannau’r llywodraeth i, sicrhau bod y cyfreithiau hyn yn cael eu gweithredu, neu’u cynnal, yn gywir, a gallai hyn arwain at archwiliad, gwneud yn iawn, ac o dro i dro camau gorfodi o ran gweithredu. Nawr a’r DU bellach ddim yn rhan o’r UE, mae’n rhaid i wledydd y DU greu eu trefniadau llywodraethu eu hunain, ac mae hyn eisoes ar waith yn Lloegr, yr Alban, Gogledd yr Iwerddon ac Iwerddon.
Mae Cymru ar ei hôl hi, ond cafwyd addewid i gael corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol, fel yr argymhellwyd gan randdeiliaid, a hynny er mwyn cau’r bwlch cyfredol. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen cyfraith newydd, ond nid yw rhaglen ddeddfwriaeth gyfredol Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at gynlluniau ar gyfer y corff newydd hwn, hyd yn oed. Mae Gweinidogion wedi dweud eu bod yn dymuno cyflwyno’r ddeddfwriaeth y flwyddyn nesaf ond ni allant warantu hynny’n ddi-os. Byddai oedi pellach yn golygu bod Cymru’n pendilio rhwng dau le am hyd yn oed rhagor o amser, gan olygu na all hi weithredu’r math cywir o amddiffyniad ar gyfer yr amgylchedd.
Gosod targedau i adfer natur
Mae’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i osod targedau cyfreithiol-rwymol ar gyfer adferiad natur, yn gam enfawr ymlaen, ac os caiff ei wneud yn gywir, bydd yn sicrhau bod gweithredu dros natur, yn ystyriaeth fydd yn cael blaenoriaeth ar draws holl weithgarwch Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon ni greu achos ar gyfer y targedau hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu gwireddu. Mae’r ddeddfwriaeth ar gyfer corff llywodraethu amgylcheddol newydd, yn rhoi’r cyfle perffaith i gyflwyno’r targedau hyn hefyd.
Rydym yn credu mai’r ffordd gywir o fynd o gwmpas hyn yw deddfu ynghylch yr uchelgeisiau lefel-uwch a’r fframwaith ar gyfer targedau mor fuan ȃ phosib, gan ymrwymo Llywodraeth Cymru nawr – i roi diwedd ar y colledion a dechrau adfer natur erbyn 2030, ac i gyflawni adferiad sylweddol erbyn 2050. Bydd angen is-dargedau mwy manwl er mwyn gosod targedau penodol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd, gan gynnwys targedau interim er mwyn sicrhau bod popeth yn digwydd ar amser, a gallai’r rhain gymryd ychydig ychwaneg o amser i’w datblygu – ond y cam hanfodol yw gosod uwch-dargedau mewn cyfraith er mwyn darparu ymrwymiad sy’n hafal i ‘net sero’ ar gyfer natur.
Yr angen i weithredu nawr
Mae’r datganiad o argyfwng natur yn dangos cydnabyddiaeth – sydd i’w chroesawu – gan y Senedd o’r argyfwng sy’n wynebu’n bywyd gwyllt yng Nghymru, ac mae angen i hyn gymell gweithredu nawr. Mae Cymru’n barod yn un o'r gwledydd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf eithafol i natur yn y byd, ac mae’n bosib mai’r ddegawd nesaf fydd ein cyfle olaf i achub natur. Yn ddi-os, ni allwn aros am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd, i Lywodraeth Cymru ddechrau gweithio ar y fframwaith cyfreithiol sydd ei angen i warchod ac adfer ein bywyd gwyllt – sydd mor werthfawr i ni.
Mae’r Gweinidog dros Newid Hinsawdd Julie James AS, wedi nodi ei bod am aros er mwyn gweld beth gaiff ei benderfynu yn yr Uwch-gynhadledd ar gyfer bioamrywiaeth COP15, sydd wedi’i gohirio tan Wanwyn 2022. Ond gwyddom yn barod, beth fydd yn debygol o ran y targedau byd-eang lefel-uchel, ac mae llywodraeth y DU wedi gosod prif-uchelgeisiau gan gynnwys targed i amddiffyn 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030. Dyma’r amser i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a rhoi arweiniad, i fod yn fentrus ac i osod ei huchelgeisiau ar gyfer gweithredu, ei hunan, a hynny ar y raddfa fydd ei hangen i alluogi i fywyd Gwyllt Cymreig adfer a ffynnu.
Rydym yma, yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru drwy’r broses ddeddfu, fel y gallwn sicrhau’r amddiffyniadau cryf a’r mawr uchelgeisiau y mae’n natur ei hangen – ac rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid i ni aros yn rhy hir cyn cael gwneud hyn.