English version available here

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn drawiadol. Pan fydd y tywydd yn cynhesu, byddwn yn gweld blodau’n blodeuo ac yn clywed yr adar yn canu’n groch – mae’n teimlo bod y ddaear o’n cwmpas yn deffro mewn seremoni lawen.

Ond nid dim ond y natur o’n cwmpas y gallwn ni ei ddathlu ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn – gallwn ni hefyd edrych ymlaen at groesawu degau o adar sy’n mudo a fydd yn ychwanegu rhagor o liw at fisoedd y gwanwyn a’r haf. Dyma bum aderyn i edrych a gwrando allan amdanyn nhw dros y misoedd nesaf!

Gwybedog brith

Mae’r gwybedog brith yn ymwelydd unigryw. Ychydig yn llai nag aderyn y to, bydd yn dal nifer o bryfed yn ei geg wrth hedfan, wrth iddo wibio drwy ein coetiroedd hynafol. Dim ond i goetiroedd aeddfed y mae’n mentro, sy’n golygu ein bod ni yng Nghymru’n ffodus iawn. Os byddwch chi’n mynd i’r coed heddiw – yn RSPB Ynys-hir neu RSPB Llyn Efyrnwy, er enghraifft – efallai y bydd cyfle arbennig i chi ei weld!

Aderyn Drycin Manaw

Rhywogaeth arall sy’n ymweld â Chymru yw aderyn drycin Manaw. Bydd yr aderyn môr hwn yn dod yr holl ffordd dros Fôr yr Iwerydd o’r Ariannin i lanio ar ein glannau. Mae Cymru’n gyfrifol am groesawu hanner adar drycin Manaw y byd yr adeg hon o’r flwyddyn – nifer enfawr! Wrth iddyn nhw lanio ar ein harfordir a nythu mewn tyllau, mae rhai’n gallu mynd yn ffwndrus a glanio ymhell o le roedden nhw’n bwriadu. Os byddwch chi’n dod ar draws un o’r rhain, cysylltwch â ni – bydd gennym rywun ar gael i ddod i’w gasglu.



Hugan

Nid aderyn drycin Manaw yw’r unig aderyn sy’n ffafrio Cymru fel cyrchfan ar gyfer y misoedd cynhesach. Yn RSPB Ynys Gwales, mae’r huganod yn dychwelyd i’w cadarnle. Gan dreulio’r gaeaf yn bwydo oddi ar arfordir gorllewinol Affrica, byddant yn dod yn ôl i fridio ar yr ynys fach garegog i’r gorllewin o RSPB Ynys Dewi. Er ei fod yn gymharol fach, bydd y darn hwn o graig yn croesawu 36,000 pâr o huganod i nythu yma bob blwyddyn. Mae gwylio’r adar hardd hyn yn pysgota, gyda’u cyrff mawr, eu gyddfau a’u pigau hir, a’u pennau melyn nodedig, yn olygfa hynod hefyd – gan blymio o uchder o 30m, gallant daro’r dŵr ar gyflymder o hyd at 60mya. Mae ganddyn nhw rwydwaith helaeth o sachau aer rhwng eu cyhyrau a’u croen i helpu i leddfu’r effaith.



Gwennol ddu

Mae taith y wennol ddu i Gymru yn un hynod ddiddorol. Bydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i siwrnai o dros 5,000 milltir o Affrica ar yr adain, yn bwyta a hyd yn oed yn cysgu tra’n hedfan! Yn anffodus mae gwenoliaid duon mewn trafferth. Y llynedd, ychwanegwyd yr aderyn hwn at restr goch y DU o Adar o Bryder Cadwraethol. Mae’r rhestr goch yn cynnwys yr adar sydd o’r flaenoriaeth cadwraeth uchaf a lle mae angen gweithredu ar frys – ac wrth i niferoedd y gwenoliaid duon ddisgyn, gyda cholledion o tua 5% y flwyddyn ar hyn o bryd, mae’n ymddangos y bydd yn anochel y bydd enw’r aderyn hwn yn cael ei ychwanegu at y rhestr, yn anffodus. Os bydd y gostyngiad hwn yn parhau, gallem golli’r wennol ddu fel rhywogaeth sy’n bridio o fewn y 30 mlynedd nesaf. Dyna pam ein bod ni wedi codi tŵr gwenoliaid duon ym Mae Caerdydd dair blynedd yn ôl, i ddarparu lloches y mae mawr ei hangen ar yr adar hardd hyn.



Y gog

Mae’r gog yn aderyn adnabyddus arall sy’n gwneud taith epig i Gymru o gyfandir Affrica, gan ein bendithio ag un o’r caneuon enwocaf a mwyaf adnabyddus. Mae’n enwog am dynnu wyau adar eraill a’u newid am ei wyau ei hun, ac mae gweld telor cyrs yn bwydo cyw gog sy’n edrych yn wahanol iawn yn un o olygfeydd mwyaf rhyfeddol a rhyfedd byd natur.

Ymweld â ni!

Does dim dwywaith mai’r tymor hwn yw’r amser delfrydol i archwilio a dysgu am y rhyfeddodau rydyn ni’n ddigon ffodus i’w croesawu – a dim ond llond llaw yw’r uchod o’r cyfoeth rydyn ni’n ddigon ffodus i’w gael. Ewch i’ch gwarchodfa RSPB agosaf a rhoi gwybod i ni beth rydych chi’n ei weld a’i glywed dros y misoedd nesaf drwy gysylltu dros y cyfryngau cymdeithasol.

Facebook, Twitter ac Instagram: @RSPBCymru