Pum uchafbwynt bywyd gwyllt yr hydref i gadw llygad amdanynt

English version available here

Mae’r hydref yn gyfnod diddorol iawn i wylio bywyd gwyllt. O goetiroedd hudolus i gymylau godidog o ddrudwyod, mae wastad rhywbeth i’w weld. Dyma bum uchafbwynt tymhorol ysblennydd y gallwch eu gweld yng Nghymru yn ystod yr hydref. 


Heidiau o’r drudwy
 

Wrth i’r misoedd oer agosáu, bydd y drudwyod yn dechrau clwydo, a bydd heidiau enfawr ohonynt yn ymgynnull yn y cyfnos i ffurfio arddangosfeydd syfrdanol yn yr awyr. Weithiau, mae cymaint â 50,000 yn gwibio ac yn hedfan mewn haid, yn trydar yn swnllyd cyn disgyn yn drawiadol i ddiogelwch gwelyau cyrs neu’r coed i noswylio. Ychydig cyn y cyfnos yw’r amser gorau i’w gweld. Edrychwch fry i’r awyr a mwynhewch yr arddangosfa syfrdanol. Mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy a Gwlyptiroedd Casnewydd yn fannau da i weld yr olygfa hon.  


Croesawu mudwyr y gaeaf
 

Yn ystod yr hydref, mae Cymru’n denu llu o adar sy’n mudo. Wrth i ymwelwyr yr haf ddechrau diflannu, mae adar o wledydd mwy gogleddol yn galw heibio ar eu ffordd i’r de. Gellir gweld adar fel cochion yr adain a’r socanod eira mewn heidiau mawr swnllyd, wrth iddynt fwynhau’r cyfoeth o aeron tymhorol sydd ar gael. Daw hwyaid mudol, gwyddau ac adar hirgoes fel gylfinirod a phiod môr i fwydo ar bryfed genwair a chynrhon mewn aberoedd. Mae RSPB Cors Ddyga a Gwlyptiroedd Casnewydd yn llefydd perffaith i weld yr ymwelwyr hyfryd hyn. 



Gweld y morloi
 

Yr hydref yw tymor lloia y morloi, wrth i forloi llwyd benyw ddod ar y lan gyda’u lloi gwyn blewog a chaiff eu geni rhwng mis Medi a mis Tachwedd. Mae llawer o ynysoedd ar arfordir Cymru yn feithrinfeydd pwysig ar gyfer morloi llwyd, yn ogystal â rhannau o arfordir y tir mawr. Bydd y morloi’n defnyddio traethau cysgodol, cildraethau ac ogofâu i fagu eu lloi gwyn.  

Cofiwch, mae’n bwysig bod yn ofalus os ydych chi’n gweld morloi ar arfordir Cymru. Peidiwch byth â mynd at forloi, gan y gallai hyn achosi i’r rhai benyw droi’n ymosodol neu adael eu lloi. Yn hytrach, cadwch eich pellter, gan fod mor dawel a llonydd â phosibl. Mae digon o ffyrdd i wylio’r morloi yn ddiogel ar ben y clogwyn, ac efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus o weld llo bach yn cael ei eni. 


Eog yn silio
 

Un o olygfeydd gorau byd natur yw gwylio eogiaid yn neidio i fyny afonydd a rhaeadrau yn ystod yr hydref wrth i’r pysgod ddychwelyd i’w mannau magu i silio. Mae eogiaid yn dychwelyd i’r afonydd y cawsant eu geni ynddynt ac yn teithio i fyny’r afon i silio. Erbyn diwedd mis Tachwedd mae’r cyfnod silio yn dod i ben ac mae’r oedolion yn dychwelyd i’r môr. Gellir dod o hyd i eogiaid mewn sawl afon ledled Cymru, gan gynnwys afon Gwy ac afon Tywi. 



Coetiroedd Syfrdanol
 

Mae coetiroedd yn trawsnewid wrth i’r hydref afael, gan achosi’r golygfeydd gwyrdd newid eu lliwiau i rai oren, melyn a choch. Mae aeron lliwgar yn gorchuddio’r coed, ac mae cnau a mes yn denu gwiwerod coch a sgrech y coed.  Does dim yn cymharu â cherdded drwy goedwig neu goetir. Mae’n brofiad ysgubol sy’n dod â chi’n agosach i’r byd naturiol.  

Mae gan ein holl warchodfeydd natur rywbeth i’w gynnig. Ewch i’n tudalen gwarchodfa i ddod o hyd i’r un agosaf ac ewch allan i fwynhau’r golygfeydd gwych sydd gan yr hydref i’w gynnig! 

Morlo Ynys Ddewi - Ben Hall (rspb-images.com)

Coedwig Llyn Efyrnwy - Ben Hall (rspb-images.com)