English version available here
Mae wedi bod yn aeaf anodd, yn tydi? Er ein bod wrth ein bodd efo boreau oer y gaeaf, byddai’n deg dweud bod y rhan fwyaf ohonon ni erbyn hyn yn edrych ymlaen at weld y gwanwyn cynhesach ar y gorwel, gweld byd natur yn deffro a ninnau’n teimlo’n hapusach ein byd.
Pan fyddwn yn meddwl am y gwanwyn, mae cymaint i’w weld, i’w arogli, a’i deimlo. Mae cymaint yn digwydd yn ein byd naturiol, sydd yn gwneud ein byd yn llon – a bydd cymaint ohono’n digwydd ar garreg ein drws. Dyma rai pethau i chi gadw llygad amdanyn nhw yn ystod y misoedd nesaf.
Beth am i ni ddechrau gydag un amlwg – cân yr adar. Mae côr y wawr yn arwydd clir o’r tymor bridio ar ei anterth, wrth i lawer o’n hadar ni ddechrau canu er mwyn denu cymar. Fel yr awgryma’r enw, mae côr y wawr yn dechrau gyda thoriad y wawr, ac mae’r ymadrodd adnabyddus ‘y cyntaf i’r felin’ yn berthnasol yma. Mewn maes cystadleuol, bydd y gwryw yn ceisio cael sylw’r fenyw cyn gynted ag y bo modd. Wrth i’r bore fynd yn ei flaen, bydd mwy a mwy o leisiau’n ymuno, gan wneud côr llawen o gân yr adar. Yn yr un modd, fe glywch fod corau'r wawr yn mynd yn uwch ac yn uwch wrth i’r gwanwyn fynd yn ei flaen - gan gyrraedd uchafbwynt swynol tua mis Mai.
Mae’r lliw sy’n dod gyda’r amrywiaeth enfawr o flodau yn syfrdanol – o’r cennin pedr (ein ffefryn yma yng Nghymru wrth gwrs!), i’r llygaid y dydd yn y cae; o’r pabi yn y dolydd i’r blodyn menyn sydd fel carped melyn ar hyd ein lawntiau – mae’r olygfa flodeuog hon yn hyfryd. Ac nid yn unig rydyn ni’n cael pleser o liwiau’r blodau hyn, ond hefyd o sut maen nhw’n helpu ein pryfed peillio, fel gwenyn a gloÿnnod byw. Does dim ots ym mhle yng Nghymru rydych chi’n byw, mewn ardal wledig neu ardal drefol – gallwch helpu peillwyr drwy blannu blodau gwyllt eich hun, a pheidio â thorri’r gwair am ychydig fisoedd. Drwy hau hadau a gadael i bethau dyfu’n wyllt, gallwch wneud eich rhan dros natur gydag ychydig iawn o ymdrech – a mwynhau’r canlyniad lliwgar!
Nid oes llawer o olygfeydd sy'n fwy tebyg i'r gwanwyn na gweld gwenyn (ynghyd â phryfed troellog ac wrth gwrs y gwenynbry ) yn bownsio o un blodyn i'r llall. Ydych chi erioed wedi meddwl am fynd i fyd lletygarwch? Gallwch ofalu am ein pryfed peillio drwy wneud eich ‘llety cwch gwenyn’ eich hun.
Rydyn ni hefyd yn gallu edrych ymlaen at fwrlwm o loÿnnod byw yn ystod y gwanwyn. Maen nhw’n dawnsio o amgylch ein blodau a’n planhigion (a rhai llysiau - dydy hyn ddim yn gwneud tyfwyr yn hapus iawn!) Mae gloÿnnod byw sy’n peillio hefyd yn cyfrannu’n fawr at ein hecosystemau. Mae sawl amrywiad yng Nghymru, tua 42, a bydd gwahanol fathau ar gael mewn gwahanol fannau – beth am grwydro i wahanol gynefinoedd i weld faint allwch chi eu gweld dros y misoedd sych.
Mae gweld adar yn mynd hwnt ac yma, o chwilio am safleoedd nythu i gasglu deunyddiau nythu, yn brofiad rhyfeddol. Ond er y dylen ni bob amser barchu natur drwy roi pellter dyladwy iddo, mae’n iawn i ni roi ychydig o help llaw i’n ffrindiau pluog yn y broses nythu drwy adael deunyddiau addas iddyn nhw. Mae ffibrau naturiol, fel cotwm, gwlân, cywarch neu lin, yn berffaith. Mae’n well gan rai adar, fel drudwy, ddail, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r sbarion gardd iddyn nhw eu defnyddio. Peidiwch â rhoi blew anifeiliaid allan – na’ch blew eich hun chwaith – oherwydd gall fod cemegau arnyn nhw sy’n niweidiol i adar.
Dim ond llond llaw o bethau i gadw llygad amdanyn nhw yw’r uchod – ac yn y tymor hwn o ryfeddodau di-ri, mae cymaint mwy hefyd. Cliciwch yma i gael rhagor o awgrymiadau ac ysbrydoliaeth am sut gallwch chi helpu byd natur ar garreg eich drws.