Please click here to read this blog in English.Mae RSPB Ynys Lawd yn galw arnoch chi, a phobl Ynys Môn, i bicio draw i archfarchnad TESCO Extra yng Nghaergybi neu i siop TESCO ym Menllech rhwng 27 Chwefror a 6 Mawrth i bleidleisio dros y warchodfa arfordirol eiconig i ennill ymgyrch ‘Bags of Help’ TESCO. Bydd eich pleidlais yn golygu y bydd RSPB Ynys Lawd yn gallu creu parc chwarae bywyd gwyllt cyffrous a gardd natur fendigedig ar gyfer eich plant, er mwyn iddyn nhw allu mwynhau oriau di-ben-draw o hwyl yng nghanol byd natur.
Mae TESCO wedi ymuno â'r elusen gymunedol, Groundwork, i lansio'r fenter ‘Bags of Help’ mewn cannoedd o ardaloedd ledled Cymru a Lloegr. O dan y cynllun hwn, bydd tri o brosiectau a grwpiau cymunedol ym mhob un o'r ardaloedd hyn yn cael grantiau gwerth £12,000, £10,000 ac £8,000 - pob ceiniog yn deillio o'r tâl pump ceiniog am fagiau. Os ydyn ni’n llwyddo, bydd y cyfraniad yn golygu y byddwn yn gallu creu parc antur am ddim ar gyfer plant sy’n ymweld âg RSPB Ynys Lawd - o siglen nyth aderyn i bwll tywod, llwybr boncyffion a mwy. Nid yn unig y bydd y parc chwarae yn lle diogel i blant ifanc redeg yn wyllt, bydd hefyd yn gyfle i rieni a gwarcheidwaid gael ychydig bach o amser iddyn nhw eu hunain wrth ryfeddu at y golygfeydd arfordirol bendigedig. Byddai cyfraniad o'r maint hwn hefyd yn golygu y bydd yn bosib troi darn o laswelltir yn y warchodfa yn ardd natur hygyrch a rhyngweithiol y gall pobl ei defnyddio yn rhad ac am ddim ac a fydd yn cynnwys blodau, llwyni a choed brodorol yn ogystal â phwll naturiol a chartref i ddraenogod, adar a bwystfilod bach.
Mae’r golygfeydd godidog, goleudy eiconig, a nythfeydd anhygoel o adar y môr yn denu ymwelwyr wrth eu miloedd i Ynys Lawd. Mae gennym gaffi gwych sy’n agored drwy gydol y flwyddyn a llwybrau cerdded hyfryd gyda golygfeydd bendigedig, ond rydym yn awyddus iawn i gynnig mwy. Dim ond ychydig funudau sydd ei angen i fwrw eich pleidlais ac rydym yn dibynnu’n drwm ar y gymuned leol i’n helpu i wireddu'r weledigaeth hon er mwyn i blant lleol ei mwynhau am flynyddoedd i ddod.
Byddai’r cyfraniad hwn yn golygu y byddem yn gallu creu parc chwarae mewn rhan o'r warchodfa sydd ddim yn cael ei defnyddio ddigon ar hyn o bryd. Po fwyaf o bleidleisiau rydym yn eu cael, y gorau fydd y parc chwarae. Bydd hefyd yn gyfle i blant chwarae allan yn yr awyr agored, gan fwynhau eu hunain yn neidio, dringo a siglo wrth werthfawrogi ein bywyd gwyllt gwerthfawr. Ar ben hynny, tra bo'r plant yn cael amser gwych yn chwarae, bydd rhieni yn gallu ymlacio, cael paned a mwynhau darn o deisen flasus yn y caffi!
Felly be amdani? I fwrw eich pleidlais dros RSPB Ynys Lawd, piciwch i mewn i archfarchnad TESCO Extra yng Nghaergybi neu i siop TESCO ym Menllech rhwng 27 Chwefror a 6 Mawrth i annog mwy o blant i fwynhau'r bywyd gwyllt sydd ar stepen eu drws. Am wybodaeth bellach ebostiwch eleri.wynne@rspb.org.uk