Pennod newydd gyffrous yn RSPB Ynys Lawd

English version available here

Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i ni sôn am y tro cyntaf y byddem yn ailadeiladu’r Ganolfan Ymwelwyr yn RSPB Ynys Lawd. Roedden ni’n gwybod y byddai’n gyfnod o gyfleoedd a heriau – a dweud y lleiaf. Ychydig a wyddom am yr heriau gwirioneddol roedd ein cymunedau, ein hymwelwyr a’r byd ar fin eu hwynebu.

Ond, ar ôl cyfnod hir o aros, rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod ein canolfan ymwelwyr newydd ar agor nawr!

Mae’n gyfnod cyffrous o’r flwyddyn yn Ynys Lawd, wrth i ni gael ein croesawu gan wylogod a llursod yn eu miloedd ar glogwyni’r môr. Mae hefyd yn adeg lle rydyn ni’n ystyried ein hunain yn ffodus ac yn ddiolchgar iawn ein bod yn gallu agor ein drysau i Ganolfan Ymwelwyr newydd sbon y gobeithiwn y bydd ymwelwyr a phobl leol Ynys Môn yn ei mwynhau.

Mae ailddatblygu’r Ganolfan Ymwelwyr yn cynnwys gwella'r cyfleusterau i raddau helaeth, ar gyfer ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff. Rydyn ni hefyd wedi creu ardal eistedd newydd ar gyfer y caffi a fydd yn agor allan i ardal decin gyda golygfeydd godidog o Fôr Iwerddon.


Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi manteisio ar y cyfle hwn i wneud rhai gwelliannau amgylcheddol. Rydyn ni wedi gwneud gwelliannau bach i arbed arian a lleihau carbon, fel inswleiddio toeau a waliau a gosod ffenestri gwydr dwbl. Rydyn ni hefyd wedi gosod pwmp gwres ffynhonnell aer, paneli solar a system trin dŵr naturiol sy’n defnyddio  pŵer natur i lanhau’r dŵr gwastraff o’n Canolfan Ymwelwyr.

Yn ogystal â’n cyfraniad ni ein hunain, mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl drwy gymorth gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni hefyd wedi cael cyllid hael gan Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones ar gyfer gosod cerfluniau pren wedi’u creu gan Duncan Kitson, cerflunydd o Ynys Môn, sy’n dathlu bywyd gwyllt Ynys Lawd. Mae disgyblion o Ysgol Cybi hefyd wedi bod yn greadigol, yn arddangos eu talentau artistig drwy greu gwaith celf sy’n darlunio harddwch a bywyd gwyllt Ynys Lawd.


Ers 1977, pan gymerodd RSPB Cymru y brydles ar gyfer Ynys Lawd drosodd gan Gyngor Sir Ynys Môn, rydyn ni wedi rheoli’r cynefin arfordirol anhygoel hwn ar gyfer bywyd gwyllt ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae ein gwaith wedi cael cefnogaeth hael gan nifer o unigolion, grwpiau, cynhyrchwyr bwyd lleol, busnesau a sefydliadau, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt.

Hoffem ddiolch hefyd i bawb sy’n ymweld ag Ynys Lawd bob blwyddyn. Eich haelioni chi a’ch cred yn ein cenhadaeth sy’n ein galluogi i barhau â’n gwaith o warchod bywyd gwyllt a gwneud RSPB Ynys Lawd yn lle arbennig i natur a phobl.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu!

Darllenwch ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Covid-19 cyn teithio.