English version available here
O gopaon mynyddoedd Eryri, i'r moroedd a'r arfordir o amgylch Sir Benfro a chymoedd coediog yr Afon Gwy, does dim modd gor-bwysleisio pwysigrwydd tirweddau dynodedig Cymru – ei Pharciau Naturiol a’i Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – ar gyfer natur a phobl. Dyna pam yr ydym mor falch bod datganiad Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr Amgylchedd – Gwerthfawr a Chydnerth – yn ceisio gwneud y mannau hyn yn well fyth, trwy greu amgylcheddau gwydn, cymunedau a ffyrdd o weithio er lles natur yn ogystal â’n lles ni.
Mae hwn yn bell iawn i ffwrdd o sefyllfa bryderus y llynedd, pan fethodd adroddiad gwahanol (a gyhoeddwyd yn dilyn proses adolygu hir y bu'r RSPB yn rhan ohoni) â phwysleisio'r rôl y mae tirweddau dynodedig yn ei chwarae mewn adferiad natur, ac a roddodd eu mecanweithiau cyfreithiol dan fygythiad. Fedrwch chi ddarllen mwy am yr adolygiad hwnnw a'n pryderon ni yma.
Diolch i'r drefn, mae'r adroddiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys yr agweddau cadarnhaol o'r adolygiad blaenorol roeddem yn eu cefnogi ac, yn hollbwysig, mae'n mynd i'r afael â'r holl ddiffygion ynddo yr oeddem yn pryderu amdanynt.
Gwell i Fioamrywiaeth
Wrth lansio'r adroddiad hwn, mae’r Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi ei wneud yn glir iawn bod tirweddau dynodedig yn chwarae rhan hanfodol wrth warchod, adfer a gwella bioamrywiaeth. Mae hyn yn hynod bwysig ac yn rhywbeth yr ydym yn gyffrous iawn amdano.
Mae tirluniau dynodedig yn ymestyn dros bron i 25% o dir Cymru, ac os yw'r ardaloedd hyn yn gallu gwireddu eu potensial ar gyfer diogelu ac adfer natur, byddai hyn yn cael effaith bositif aruthrol ar draws y 75% o dir sy'n weddill a gallai hefyd fod o fudd i ecosystemau arfordirol a morol.
Mae galw ar gyrff rheoli'r Parciau Cenedlaethol a'r AHNEau i sicrhau bod dirywiad bioamrywiaeth yn cael ei atal a'i wrthdroi am ei gwerth cynhenid, yn ogystal ag am ei rôl wrth gynnal gwytnwch ecosystemau a darparu manteision i'r cyhoedd.
Mae deddfau tirlun dynodedig yn ddiogel
Efallai mai'r ymroddiad at gadw dibenion cyfreithiol gwreiddiol y Parciau Cenedlaethol a'r AHNEau, ynghyd a'r 'Egwyddor Sandford'[1], yw'r pwyntiau mwyaf arwyddocaol i'w dathlu yn yr adroddiad newydd, yn enwedig o ystyried cynigion adroddiad llynedd i ddod o hyd i "bwrpas newydd" i dirweddau dynodedig.
Mae'r adroddiad Gwerthfawr a Chydnerth yn cymryd safbwynt llawer mwy cadarnhaol. Mae'n cydnabod ac yn parchu "gwerth parhaus diogelu ardaloedd mwyaf ysblennydd y genedl" trwy gadw'r dibenion a'r egwyddorion cyfreithiol gwreiddiol yn gyfan gwbl. Yna mae'n rhydd i fodloni'r "awydd i arloesi" a sicrhau ffocws ar nodau lles a gwydnwch ecosystemau Cymru a ddaw o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru), trwy gyflwyno dyletswydd gyfreithiol newydd i ddilyn dulliau rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol (RhCAN) ar ben y sail gyfreithiol sefydledig hon.
Nid yw'n eglur ar hyn o bryd pa wahaniaeth y byddai nod o fynd ar drywydd RhCAN yn ei wneud i swyddogaeth cyrff tirwedd dynodedig. Rydym yn gobeithio y byddai'n galluogi'r cyrff i chwarae eu rôl hanfodol i adfer natur yn ogystal â sicrhau bod datblygiadau, gweithgareddau economaidd a thwristiaeth yn briodol ac yn gyson â'r dynodiad, ac yn cyd-fynd â'r pwrpas i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol.
Sut mae'n gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad?
Mae'r adroddiad Gwerthfawr a Chydnerth yn ddogfen bolisi gadarnhaol iawn, ac mae'n cynnwys ymrwymiadau a chynigion calonogol ar gyfer dod o hyd i adnoddau ariannol i gyflawni ei uchelgeisiau ar gyfer tirweddau dynodedig. Fodd bynnag, fel y mae hi gyda dogfennau polisi, mae angen i'r theori gael ei hategu gan weithredu iddi gael unrhyw ystyr gwirioneddol.
Er enghraifft, mae'r adroddiad yn cydnabod y rôl y mae tirluniau dynodedig yn ei chwarae i helpu cynnal ein safleoedd gwarchodedig ar gyfer natur - megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGA) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Fel cam nesaf, byddem yn disgwyl i gyrff rheoli'r Parc Cenedlaethol a'r AHNEau fod yn gweithio gydag ystod o bartneriaid, ac yn enwedig Adnoddau Naturiol Cymru (CNC), hyrwyddwr bioamrywiaeth statudol y genedl, er mwyn i’r uchelgais hon gael ei gwireddu, ac i sicrhau rheolaeth briodol a chyflwr ffafriol o holl nodweddion safleoedd gwarchodedig yn yr ardaloedd hyn.
Mae CNC newydd lansio strategaeth bioamrywiaeth uchelgeisiol ei hun, Natur Hanfodol, a’r ffordd resymegol o weithredu byddai i'r cyrff sy’n rheoli tirweddau dynodedig weithio mewn partneriaeth â CNC er mwyn helpu gwireddu uchelgeisiau am natur lle bod modd iddynt wneud hynny.
Mae Gwerthfawr a Chydnerth yn weledigaeth hynod gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol ein Parciau Cenedlaethol a'r AHNEau. Yr her yn awr yw manteisio ar y geiriau calonogol hyn a sicrhau bod natur y tu mewn, a thu allan i ffiniau tirwedd dynodedig, yn cael ei hadennill.
[1] Mae Egwyddor Sandford yn mynnu os oes gwrthdaro rhwng gweithgareddau a gynlluniwyd i wella dealltwriaeth/mwynhad pobl o'r amgylchedd â gwarchod yr amgylchedd hwnnw (lle nad oes modd datrys y gwrthdaro drwy reolaeth), yna mae gwarchod yr amgylchedd yn bwysicach.