Parchu bywyd gwyllt ar eich gwyliau

English version avaliable here.

Mae’r moroedd o amgylch arfordir Cymru yn brysurach nag erioed eleni, gyda miloedd o bobl yn dewis mynd ar wyliau yn y wlad hon yn hytrach na gwyliau tramor. 

Mae diwedd yr haf a dechrau’r hydref hefyd yn gyfnod prysur i fywyd gwyllt y môr yng Nghymru. Felly, mae’n hanfodol bod pobl sy’n mynd ar wyliau ar lan y môr yn ymwybodol o’r ffordd gywir o ymddwyn, er mwyn sicrhau bod ein mamaliaid morol ac anifeiliaid eraill yn aros yn ddiogel ac nad yw pobl yn torri’r gyfraith.

 Mae cynnydd wedi bod yn y defnydd o gychod modur personol (PWC neu ‘jet sgïs’) ar draws dyfroedd Cymru. Mae gan y cerbydau hyn sy’n symud yn gyflym y potensial i achosi problemau mewn eiliad; codi braw ar adar y môr, gwahanu dolffiniaid ifanc oddi wrth eu mamau neu achosi i forloi llwyd golli eu lloi. Yn wir, cofnodwyd digwyddiadau o darfu ar fywyd gwyllt gan RSPB Ynys Lawd ar Ynys Môn yng ngogledd Cymru i lawr i RSPB Ynys Dewi yn Sir Benfro. Gall materion tebyg gael eu hachosi gan gychod RIB a moduron pleser eraill. Ar ben hynny, nid cychod sy’n symud yn gyflym ac yn swnllyd yn unig sydd â’r potensial i achosi problemau; gall caiacwyr a rhwyf-fyrddwyr achosi cymaint o aflonyddwch os nad yw teithiau’n cael eu cynllunio’n ofalus. 

Cadw ein pellter

 Bydd tymor lloia y morloi llwyd yn dechrau yn Sir Benfro cyn bo hir. Ynys Dewi sydd â’r gytref fwyaf yn Sir Benfro, sy’n cyfrif am oddeutu 600 o loi bach sy’n cael eu geni bob blwyddyn. Mae llawer o forloi yn cael eu geni o gwmpas gweddill Cymru hefyd. Mae’n hanfodol osgoi’r traethau bach lle caiff y lloi eu geni a’r dyfroedd cyfagos yn ystod y cyfnod hwn. Gall aflonyddu arnynt achosi’r fam fynd a gadael ei lloi; gan adael iddynt lwgu.  

Ymhellach allan i’r môr, bydd dolffiniaid a llamhidyddion yn bwydo ac yn mudo drwy foroedd Cymru, yn aml gyda lloi ifanc yn eu dilyn. Os dewch ar draws yr anifeiliaid hyn, cadwch eich pellter, peidiwch â dod rhwng y fam a’r lloi a pheidiwch byth â mynd ar ôl anifeiliaid. 

Rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y cod morol lleol ar gyfer yr ardal o arfordir rydych chi’n ymweld â hi i gael gwybod mwy:

Mae gwefan Moroedd Gwyllt Cymru hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth am fywyd gwyllt yng Nghymru, ble i ddod o hyd i anifeiliaid morol a chanllawiau ar sut i sicrhau bod eich gweithgareddau gwyliau yn ystyriol o fyd natur.

Eisiau gwybod mwy am ein gwaith bywyd gwyllt morol yng Nghymru?

Edrychwch ar ein blogiau diweddaraf.

Lluniau:

Wylwyr adar yn Ynys Lawd- Ben Hall (rspb-images.com)

Morlo llwyd Ynys Dewi- Ben Hall (rspb-images.com)