English version available here
Gyda llwybrau lle bydd gwyntoedd ffres yn chwythu unrhyw we pry’ cop i ffwrdd ac yn cynnig gweithgareddau ar gyfer y teulu, fel archwilio pyllau at heicio fel darpar ymchwilydd bywyd gwyllt – mae’n amser i wisgo’n gynnes a llwyr ymgolli mewn natur ar warchodfeydd RSPB Cymru. A chyda’r Nadolig ar y trothwy, mae ymweliad ag un o’r siopau ar ein gwarchodfeydd yn gyfle delfrydol i ddianc rhag prysurdeb y stryd fawr a llenwi eich hosanau gydag anrhegion a danteithion ar eich cyfer chi ac ar gyfer eich teulu, eich ffrindiau a’r bywyd gwyllt yn yr ardd.
Bydd ymweliad â’n siopau yn darparu’r cyfle perffaith i baratoi ar gyfer digwyddiad yn y Flwyddyn Newydd y bu disgwyl mawr amdano, sef Gwylio Adar yr Ardd. Pan ddaw 26 Ionawr, y cwbl y bydd angen i chi ei wneud yw rhoi’r tegell ymlaen, gwneud eich hun yn gyfforddus a mwynhau awr yng nghwmni byd natur, drwy gyfrif yr adar yr ydych yn eu gweld yn eich gardd neu yn eich man gwyrdd.
Ers i’r digwyddiad gwyddor y dinesydd hanfodol hwn ddigwydd pedwar deg o flynyddoedd yn ôl, mae cannoedd ar filoedd o bobl fel chi wedi cymryd rhan, gan gyfrif yr adar a dweud wrthym ni beth maen nhw wedi’u gweld – a dyma’r cyfle perffaith i’r teulu cyfan gymryd rhan. Mae gan ein siopau ddewis gwych o fwyd adar, bwydwyr, blychau nythu, cartrefi ar gyfer draenogod, baddonau adar a llawer o nwyddau eraill ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardd. Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr hefyd yn wych am roi’r cyngor gorau i chi ynglŷn â sut i ddenu a chefnogi’r bywyd gwyllt sy’n ymgartrefu yn eich gardd dros y Nadolig ac ar ôl hynny.
Os ydych chi’n bwriadu gwneud rhywfaint o siopau Nadolig yn y siopau ar ein gwarchodfeydd, yna pam na wnewch chi hefyd ymuno ag un o’n digwyddiadau? Os ydych chi’n ymweld ag RSPB Conwy rhwng mis Rhagfyr a 7fed Ionawr, ewch am dro ar y llwybr Nadolig a dewch o hyd i eiriau coll ein cân “12 Aderyn y Nadolig” wrth i chi ddysgu am yr adar sy’n ymweld yn ystod y gaeaf. Bydd hyn yn digwydd drwy gydol mis Rhagfyr (ar wahân i ddydd Nadolig) a thrwy gydol gwyliau’r ysgol. Y gost fydd £1 ar gyfer pob taflen gwis, a gallwch chi gasglu eich gwobr ar y diwedd. Ffoniwch 01492 581025 er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Yn RSPB Ynys-hir, pam na wnewch chi ymweld ar 9fed Rhagfyr a chael profiad o Saffari 4 x 4 – taith ddethol o gwmpas glaswelltiroedd gwlyb yr iseldiroedd gyda Warden RSPB Ynys-hir. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r cynefin rhyfeddol hwn yn cefnogi heidiau o adar hela ac adar dŵr sy’n gaeafu, yn cynnwys rhywogaethau fel cornchwiglod, cwtiaid aur a gwyddau talcenwyn yr Ynys Las, ynghyd ag adar ysglyfaethus fel bodaod tinwyn a hebogiaid tramor. Byddwch chi’n cael cyfle i ddarganfod sut yr ydym yn rheoli’r tir a sicrhau bod y warchodfa yn parhau i fod yn gartref iddyn nhw yn y dyfodol. Bydd y daith yn parhau am ddwy awr ac mae lle ar gyfer pedwar o unigolion ar un daith. Nodwch os gwelwch yn dda fod y digwyddiad yn dechrau am 8.30am a’r gost ar gyfer aelodau’r RSPB yw £25.00 y pen, a £35 ar gyfer unigolion nad ydyn nhw’n aelodau o’r RSPB. Yn ogystal, bydd dyddiadau ar gael ym mis Ionawr ac ym mis Chwefror 2019. Cofiwch os gwelwch yn dda fod yn rhaid archebu lle ymlaen llaw drwy ffonio 01654 700222.
Os gofynnwyd i chi ddod o hyd i bâr newydd o ysbienddrychau ar gyfer aelod o’r teulu y Nadolig hwn, pam na ddewch chi i RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd ar gyfer eu penwythnos ysbienddrychau a thelesgopau? Byddwch chi’n cael cyfle i gael edrych yn agosach ar ryfeddodau bywyd gwyllt y warchodfa, tra bydd ein tîm cyfeillgar yno i roi cyngor arbenigol i chi a’ch helpu chi i ddewis y cynnyrch cywir sy’n siwtio eich poced a’ch gofynion. Bydd y rhain yn digwydd ar y 1af, yr 2ail, y 15fed a’r 16eg o Ragfyr 2018 o 10am tan 4pm. Er mwyn cael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01633 636363.