Paratowch ar Gyfer Gwylio Adar yr Ardd!
English version available here.

Mae'r aros bron ar ben. Ar 25 - 27 Ionawr, bydd miloedd o bobl ledled y wlad yn cymryd rhan yn yr arolwg mwyaf o fywyd gwyllt yr ardd; Gwylio Adar yr Ardd!

Hwn fydd y 41fed tro i'r arolwg gael ei gynnal ac, fel arfer, byddem wrth ein bodd os allwch chi ymuno â ni am awr fach, boed hynny yn eich ystafell fyw, yn y swyddfa neu yn eich parc lleol. Ond yn gyntaf, gadewch inni edrych ar pam rydyn ni'n gwneud yr arolwg a pham ei fod mor bwysig i'n helpu ni i ddeall adar yr ardd.

Mae'n hwyl ac mae'n rhoi cartref i fyd natur 

Ers y cychwyn cyntaf, mae Gwylio Adar yr Ardd wedi'n helpu i ddeall sut mae adar ein gerddi yn dod yn eu blaen ar draws y wlad. Mae'n ffordd dda o dynnu sylw at y rheiny sydd ar eu hennill a pha rai sy'n ei chael hi'n anodd. Roedd canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd y llynedd yn gymysg, ond eto'n ddiddorol.

Yn ôl y disgwyl, aderyn y to yw’r aderyn mwyaf cyffredin o hyd gyda thua 1.2 miliwn ohonynt yn cael eu gweld - ond i sawl aderyn arall, bu dirywiadau yn eu niferoedd o’i gymharu â chanlyniadau 2018 sy'n peri gofid. Cymerwch chi'r fronfraith, y mae ei niferoedd wedi syrthio'n ofnadwy o 77% ers y Gwylio Adar yr Ardd cyntaf ym 1979, a chyrhaeddodd 'mond safle rhif 20 ar y rhestr. Ond roedd rhywfaint o newyddion calonogol hefyd - mae cynnydd dramatig y nico yn parhau a bellach ef yw'r chweched aderyn mwyaf cyffredin i'w weld yn ein gerddi. Mae hyn yn anhygoel o ystyried na wnaeth ymddangos o gwbl ar y rhestr yn ystod yr arolwg Gwylio Adar yr Ardd cyntaf.

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn bwysig i adar ein gerddi, ond mae hefyd yn bwysig i ni. Mae'n weithgaredd sy'n dod â phobl ynghyd i ymgysylltu â byd natur. Mae hefyd yn esgus perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, rhoi’r sgrin fach 'na o'r neilltu a mwynhau’r bywyd gwyllt sydd o’n cwmpas.

Sut mae’n gweithio?

 Dewiswch le da i wylio'r adar ohono am awr. Dewch â beiro a phapur i nodi'r hyn a welwch. Os ydych chi'n mynd i fod y tu allan, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n lapio'n gynnes, dewch â diod boeth ac efallai ychydig o fyrbrydau gyda chi hefyd. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi ardd eich hun - galwch heibio i'ch parc neu'ch man gwyrdd lleol a gwnewch yr arolwg yn fanno. Cofiwch - gall unrhyw un gymryd rhan!

Ar ôl i chi fod yn hapus gyda'ch lleoliad, cyfrwch uchafswm pob rhywogaeth a welwch ar unrhyw un adeg. Er enghraifft, os gwelwch grŵp o dri aderyn y to gyda'i gilydd ac, yn ddiweddarach, ddau arall, ac ar ôl hynny un arall, y nifer i'w gyfrif yw tri. Fel hynny, mae'n llai tebygol y byddwch chi'n cyfrif yr un adar ddwywaith. Cofiwch hefyd gyfrif yr adar sy'n glanio yn unig, nid y rhai sy'n hedfan drosodd.

Ar ôl i'ch awr ddod i ben, anfonwch eich canlyniadau atom - gallwch wneud hynny ar-lein yma. Cofiwch - hyd yn oed os cawsoch chi awr siomedig a welsoch chi fawr ddim o adar, rhowch wybod i ni. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig iawn i ni hefyd.

Yn ogystal ag anfon eich canlyniadau, byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed eich straeon Gwylio Adar yr Ardd trwy ddefnyddio #GwylioAdarYrArdd #BigGardenBirdWatch