English version available here.
Mae mis Ionawr yn amser gwych i fynd allan i’r ardd ac i’r pridd er lles eich bywyd gwyllt lleol ac iechyd eich planhigion a’ch blodau. Er bod gerddi rhai ohonoch yn debygol o fod ar eu gorau ac yn barod am y digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd, efallai y bydd eraill ohonoch chi eisiau gwneud eich gardd neu’ch balconi’n fwy croesawgar i’ch adar lleol – ac mae nifer o bethau hawdd y gallwch eu gwneud.
Bwyd yn yr ardd Un ffordd amlwg o groesawu adar i’ch gardd yw cyflwyno amrywiaeth o declynnau bwydo. Yn ystod yr adeg oer hon o’r flwyddyn, mae angen i adar storio digon o fraster wrth gefn. Mae rhoi ychydig bach o gnau daear allan yn siŵr o blesio – bydd y titw tomos las a’r titw mawr yn enwedig wrth eu boddau’n gwledda ar eu cynnwys braster uchel. Efallai y gwelwch chi delor y cnau yn dod heibio i lenwi ei fol hefyd! Yn gyffredinol, mae holl adar yr ardd yn bwyta calonnau blodau’r haul, felly peidiwch â synnu o weld haid (neu ‘griw cwerylgar’ yn ôl Tony Soper!) o adar y to yn gwledda. Aderyn arall sy’n symud mewn heidiau yw’r drudwy. Rhowch floc siwet allan ac mae’n ddigon posib y gwelwch chi nhw’n claddu iddo gyda’u pigau hir! Ond dydy pob aderyn gardd ddim yn cael ei ddenu gan y teclynnau bwydo. Mae’n well gan y robin goch, y fwyalchen (aderyn du), y fronfraith a llwyd y berth fwydo oddi ar y ddaear, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwasgaru digon o fwyd ar wahanol diroedd yn eich gardd.
Y peth pwysig i’w wneud wrth fwydo adar yn yr ardd yw rhoi swm cymedrol o fwyd o ansawdd da. Er ein bod yn ceisio helpu ein cyfeillion pluog, rhaid i ni gofio mai dim ond rhan o’u ffynhonnell fwyd yw ein cyfraniad ni. Dydyn ni ddim eisiau gormod o fwyd adar yn yr ardd i ddenu llygod mawr chwaith.
Y rheol aur wrth fwydo adar yn yr ardd yw – cadwch eich teclynnau bwydo'n lân. Mae dirywiad y llinos werdd wedi cael eu cysylltu â chlefyd bacteriol o’r enw trichinomosis, sy’n cael ei drosglwyddo drwy declynnau bwydo. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn glanhau’ch teclynnau bwydo bob wythnos gyda diheintydd ysgafn fel Ark-Klens a’ch bod yn newid y dŵr bob dydd. Mae gennym ni’r set berffaith o gynnyrch glanhau ar gael yn ein siop.
Rydyn ni i gyd wrth ein boddau’n bwydo adar ein gerddi – i’w gwylio mewn rhyfeddod gan wybod ein bod ni’n eu helpu nhw – ond bydd ein hymdrechion i gyd yn ofer os na fyddwn ni’n gwneud hynny’n ddiogel. Ga-dail i natur wneud y gwaith Ffordd hawdd o helpu blodau a ffawna yw gwneud pentyrrau o ddail. Drwy gasglu dail a’u rhoi ar eich gwelyau blodau neu wneud cawell dail, gallwch warchod eich planhigion rhag barrug yn ogystal â chreu cynefin gwych i bryfed. Mae hyn, wrth gwrs, yn creu ffynhonnell fwyd wych i adar sy’n bwydo ar y ddaear fel y fwyalchen neu’r fronfraith.
Mae rhai ffyrdd eraill o addasu’r ardd yn gallu cymryd ychydig mwy o amser i ddwyn ffrwyth ond maent yr un mor effeithiol yn y tymor hir. Mae cyflwyno pentwr compost i’ch gardd yn ffordd wych arall o gyfoethogi eich pridd a ffrwythloni eich gardd. Mae deunydd compostio yn darparu bwyd ar gyfer dadelfenyddion fel ffyngau a chreaduriaid di-asgwrn-cefn yn y pridd sy’n arbenigo mewn dadelfennu deunydd planhigion. Yn ei dro, mae hyn yn cynyddu amrywiaeth bywyd gwyllt yn eich gardd ac yn denu adar. Gallwch adeiladu tomen gompost o baledau, prynu un barod neu gael tomen agored hen-ffasiwn. Mae’r adeg hon o’r flwyddyn gystal ag unrhyw un i blannu coeden neu lwyn ar gyfer adar eich gardd. Mae planhigion gwreiddiau moel ar gael yn eang yr adeg hon o’r flwyddyn ac maen nhw’n rhatach na phlanhigion sy’n cael eu tyfu mewn potiau. Mae plannu yn ystod y tymor segur hefyd yn rhoi amser i’r planhigion ymsefydlu cyn y gwanwyn. Ac mae digonedd o ddewis! Bydd coed celyn, criafol ac afalau surion i gyd yn cynhyrchu aeron y bydd yr adar wrth eu boddau â nhw.
Tasg arall y gallwch ei gwneud yn yr ardd ym mis Ionawr yw rhoi trefn ar y sefyllfa o ran tai adar! Os oes gennych chi dai adar wedi’u gosod yn barod, mis Ionawr yw’r amser perffaith i’w clirio a’u diheintio â rhywfaint o ddŵr berwedig. Os nad ydych chi wedi gosod rhai eto, ewch amdani! Mae nifer o wahanol o dai ar gael, sy’n amrywio o ran siâp a maint ac yn addas ar gyfer gwahanol fathau o adar. Gallech hyd yn oed ymweld â’n siop os hoffech chi – neu adeiladu un eich hun! Dydy’r holl baratoadau ddim yn cynnwys eich gardd! Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut mae adar yr ardd yn ffynnu ledled y DU, ond mae hefyd yn gyfle i ddod i adnabod eich cyfeillion pluog ar garreg eich drws. Gadewch i ni eu dathlu!