English version available here
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (DLlCD) yn ddeddfwriaeth arloesol sy'n rhoi sail bwerus i ni ar gyfer diogelu ein hamgylchedd ac adfer byd natur.
Y cyntaf o'i bath yn y byd i greu cyfrifoldeb cyfreithiol i weithio tuag at lesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, mae'r Ddeddf yn nodi saith nod y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i'w cyflawni.
Mae statws amrywiaeth fiolegol - hynny yw, yr amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid - yn ddangosydd sydd ynghlwm â Nod Llesiant ‘Cymru Gydnerth’. Mae hyn yn cynnwys Cymru sy'n 'cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol'.
Yn fyr, mae hyn yn golygu bod Cymru gydnerth yn cyfateb i Gymru sy’n fwy cyfoethog o ran natur!
Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Gerrig Milltir Cenedlaethol - gofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Yn yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried creu ‘cerrig milltir’ ar gyfer set fechan o'r dangosyddion cenedlaethol cyfredol - h.y. y ffordd y caiff llwyddiant y saith nod eu mesur.
Yn y set hon mae dangosydd o statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru. Y dangosydd hwn sy'n creu mesur sylfaenol o gyflwr byd natur gan ei fod yn mesur dirywiad rhywogaethau i brofi a oes digon yn cael ei wneud i adfer natur.
Mae statws presennol bioamrywiaeth yng Nghymru yn frawychus. Mae'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 yn dangos bod niferoedd 40% o'r rhywogaethau adar a aseswyd yn dirywio a bod rhai rhywogaethau fel y gylfinir, y gornchwiglen a'r cwtiad aur wedi gostwng 80% yng Nghymru yn y degawdau diwethaf.
Yn ogystal â darparu'r bwyd, yr aer a'r dŵr sydd eu hangen arnom i fyw, mae byd natur hefyd yn sylfaen i lawer o weithgarwch economaidd yng Nghymru. Mae gan natur hefyd lawer o fanteision profedig o ran ein hiechyd meddyliol a chorfforol, yn ogystal â dysgu a datblygiad plant.
Yn fyr, bydd gwella statws ein bioamrywiaeth yn darparu ystod eang o fanteision, a bydd yn cyfrannu hefyd at gyflawni'r gyfres o Nodau Llesiant.
Mae DLlCD yn cael ei ategu gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) sy'n gosod fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn ein barn ni, dylai hi yn ei thro gael ei gwella trwy greu targedau a cherrig milltir tymor hir i sicrhau bod gan bolisïau a chamau gweithredol y gallu i fynd i’r afael â’r her sylweddol o adfer byd natur.
Os yw byd natur i barhau i ofalu amdanom ni a chenedlaethau'r dyfodol, yna mae'n rhaid i'r cynnydd o ran gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth fod yn rhan o sut rydym yn mesur effaith y Ddeddf - gan gynnwys graddfa a chyflymder y newid. Felly rydym yn croesawu cynnig Llywodraeth Cymru i ddatblygu Carreg Filltir Genedlaethol ar statws bioamrywiaeth ac edrychwn ymlaen at gefnogi ei datblygiad. Am fwy o wybodaeth, anfonwch ebost at tabea.wilkes@rspb.org.uk