Pam mae angen Rheoli Tir yn Gynaliadwy?

English version available here.

Mae natur yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd a’n lles. Mae’n rhoi gwasanaethau hanfodol inni fel dŵr ag aer glân, meddyginiaeth ac wrth gwrs ein gallu i gynhyrchu bwyd. 

Fodd bynnag, mae ein perthynas â natur wedi’i difrodi. Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cysylltu ecosystemau’n chwalu gyda phellafoedd byd fel datgoedwigo’r Amazon. Yn anffodus, mae dirywiad byd natur hefyd yn digwydd yma. Mae Adroddiad Sefyllfa Byd Natur yng Nghymru yn dweud wrthym fod un o bob chwech o rywogaethau bywyd gwyllt mewn perygl o ddifodiant (yng Nghymru), a’r colli byd natur hwn yw’r rheswm pam fod Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlygu nad yw unrhyw un o’n hecosystemau, sef y rhai rydym yn dibynnu arnynt, yn wydn. 

Mae’r adroddiadau hyn, ynghyd â nifer o rai eraill, gan gynnwys yn fwyaf diweddar y Special Report on Global Warming of 1.5°C a’r Global Assessment Report on Biodiversity and Ecosystem Services gan y Cenhedloedd Unedig, yn nodi mai defnydd tir a dulliau amaethyddol anghynaladwy yw un o brif ysgogwyr dirywiad amgylcheddol, nid dim ond yng Nghymru ond ledled y byd. Ond gadewch i ni wneud un peth yn glir - dydyn ni ddim yn pwyntio bys at ffermwyr am y dirywiad hwn yng Nghymru. Polisïau amaethyddol gwael sy’n gyfrifol am hyn ynghyd â marchnadoedd bwyd nad ydynt yn gwobrwyo cynhyrchu cynaliadwy. Mae Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE wedi dylanwadu ar ffermio yng Nghymru dros y 50 blynedd ddiwethaf. Mae’r polisi hwn wedi canolbwyntio ar gynyddu cynhyrchiant a chnwd, ond nid yw wedi gwarchod natur a’r amgylchedd. Cost gudd ein diwylliant bwyd rhad yw bod natur yn aml yn dioddef wrth i ffermwyr geisio gwneud bywoliaeth mewn cyfnod economaidd sy’n mynd yn fwyfwy anodd. Ar y cyd, mae hyn wedi arwain at ddulliau ffermio mwy dwys, sydd wedi arwain at golli cynefinoedd ar raddfa fawr, ac mae hynny wedi achosi dirywiad natur tir amaethyddol a’r buddion amgylcheddol ehangach y mae natur yn eu rhoi i gymdeithas.    

Pam mae angen diwygiad amaethyddol?

Oni fyddwn yn cymryd camau i adfer byd natur nawr, mae’n debygol y bydd argyfwng cyfredol Covid-19 yn dod o flaen rhagor o argyfyngau hirdymor yn gysylltiedig â dirywiad ecolegol a hinsoddol. Bydd colli rhagor o adnoddau naturiol, fel priddoedd iach, dŵr glân a phryfed peillio, yn lleihau ein gallu i gynhyrchu bwyd yn fawr. Dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn manteisio ar y cyfle a gyflwynwyd yn sgil gadael yr UE i ddatblygu polisïau rheoli tir amaethyddol a chynaliadwy newydd a blaengar i Gymru sy'n helpu i annog y broses o adfer byd natur, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo system fwyd cynaliadwy.

Mae ffermio er lles natur yn darparu buddion i gymdeithas. Er enghraifft, trwy adfer ardaloedd o fawn, rydym yn cloi carbon yn y tir, sy'n ein helpu i ymladd effeithiau newid hinsawdd. Image: Nicholas Rodd (rspb-images.com)

Y llynedd, roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar system cymorth newydd, Ffermio Cynaliadwy a’n Tir, yn cynnwys y cynnig i symud i ffwrdd o ddefnyddio arian trethdalwyr i dalu ffermwyr am faint o dir maen nhw’n berchen arno tuag at system daliadau sy'n seiliedig ar ‘arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus’. Golyga hyn y byddai arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i wobrwyo ffermwyr am sicrhau gwasanaethau amgylcheddol angenrheidiol fel storio carbon yn y tir, gwella ansawdd dŵr, adfer a chynnal byd natur, rhoi hwb i niferoedd pryfed sy’n peillio a gwella iechyd pridd. Byddai pob un o’r gwasanaethau hyn hefyd yn cefnogi’r broses o gynhyrchu bwyd.

Gwerth am arian

Yn fuan iawn cyfrifoldeb llywodraethau’r DU fydd yr arian a oedd unwaith yn dod o’r UE, fel y gyllideb ffermio, gan gynnwys ei harchwilio i weld faint o werth mae’n ei rhoi i’r trethdalwr. Mae arian cyhoeddus yn debygol o fod yn eithriadol o dynn dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, a bydd galw amlwg a chynyddol am gymorth o’r system iechyd a’r economi ehangach. Felly, nawr yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod cymorth cyhoeddus i ffermio a dulliau rheoli tir ehangach yn dod â buddion gwirioneddol i’r cyhoedd. Mae defnyddio arian gwerthfawr trethdalwyr i helpu’r byd ffermio i adfer byd natur a dod yn fwy proffidiol yn cynrychioli defnydd teg a chyfiawn o adnodd gwerthfawr ar adeg pan fo pob ceiniog yn cyfri. Yn ffodus, mae llawer o ffermwyr fel Gethin Owen a Sorcha Lewis yn dangos bod y dull hwn yn bosibl, ac maen nhw’n gwneud gwaith ardderchog o gynhyrchu bwyd i gyd-fynd â natur. 

Mae RSPB Cymru yn parhau i hyrwyddo’r trosglwyddiad i ddulliau amaethyddol a rheoli tir cynaliadwy. Gydag effeithiau parhaus Covid-19, Cyfnod Pontio Brexit a’n hetholiadau Senedd Cymru yn 2021, bydd angen eich cefnogaeth i roi pwysau ar yr adeg gywir i sicrhau’r newid angenrheidiol.

Gyda’r polisïau, mecanweithiau a chymhellion cywir ar waith, gall ffermio a’r system fwyd fod yr ateb i adfer byd natur a mynd i’r afael â’r amrywiol argyfyngau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein blog misol wrth i ni ddatblygu’r stori a rhannu’r camau y gallwn ni eu cymryd i fynnu newid.