“Pam mae angen i Wastadeddau Gwent gael eu hachub” - blog gwadd gan Billie-Jade, Swyddog Ymgyrchu RSPB Cymru
English version available here

Wrth i ni ddisgwyl am y benderfyniad hollbwysig gan Prif Weinidog Cymru, dwi'n teimlo ei fod e'n amserol i roi sylw unwaith eto i'r dadleuon yn erbyn adeiladu Llwybr Du'r M4 ac i gyflwyno fy hun ar yr un pryd.

Fy enw i yw Billie-Jade Thomas a fi yw Swyddog Ymgyrchoedd Gwleidyddol newydd yma yn RSPB Cymru. Wedi dechrau yn fy rôl newydd ym mis Ionawr, dwi bellach wedi cael fy nghyflwyno i bob un o'r meysydd hynny fyddai'n gweithio arnynt dros y misoedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys ein hymdrechion i achub Gwastadeddau Gwent rhag cael eu dinistrio gan gynllun ffordd liniaru'r M4.

Mae'r cynllun arfaethedig hwn wedi wynebu blynyddoedd o wrthwynebiad diflino gan filoedd o unigolion a llawer o sefydliadau sy'n pryderu am y difrod y bydd yn ei achosi i fyd natur. Ar y llaw arall, mae cefnogwyr y cynllun yn dadlau y byddai'r ffordd newydd yn lleihau traffig a thagfeydd yn ardal Casnewydd ac yn trawsnewid yr economi leol.

Byddai'r cynllun yn torri trwy gymaint â phedwar safle natur gwarchodedig sydd o bwys cenedlaethol. Mae'r safleoedd hyn yn gartref i greaduriaid anhygoel gan gynnwys dyfrgwn, llygod y dŵr, ystlumod, pathewod ac un o wenyn prinnaf Prydain - y gardwenynen fain. Byddai hefyd yn dinistrio cynefin y pâr cyntaf o aranod i nythu yng Nghymru ers dros 400 o flynyddoedd.

Mae gan y gardwenynen fain 'mond pump o gadarnleoedd ar ôl ledled y DU ac mae'r un ar Wastadeddau Gwent gyda'r cryfa' yn eu plith. Mae'r gardwenynen fain hefyd yn ymddangos ar restr rhywogaethau â blaenoriaeth o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Yn gynharach yr wythnos hon, cefais gyfle i ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd a gweld i fi fy hun pam fod Gwastadeddau Gwent mor bwysig i gymaint o bobl. Mae meddwl am draffordd arall, a fydd yn un dagfa draffig fawr yn y pen draw, yn rhwygo trwy ardal sydd mor bwysig i gymaint o bobl, yn torri 'nghalon.

Un rheswm pam y mae cynigion ffyrdd lliniaru'r M4 a phenderfyniad Mark Drakeford yn mynnu sylw yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae'r ddeddfwriaeth ddiweddar hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau a'r pethau hynny sy'n cyfrannu at ein lles mewn modd integredig.

Mae'r Ddeddf yn nodi yn amlwg mai un agwedd allweddol ar lesiant yw cynnal a gwella ein hamgylchedd naturiol bioamrywiol. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, wedi dadlau nad yw'r cynllun ffordd liniaru hwn yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; a ni'n cytuno'n llwyr â hi!

Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd hefyd yn dangos sut y gallai Cymru drawsnewid ei system drafnidiaeth drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a sicrhau cyflwyniad o bob cam o Metro De Cymru gyda’r £1.4bn sydd wedi ei glustnodi ar hyn o bryd i Ffordd Ddu’r M4.

 Mae'n bwysig cofio mai natur sy'n ein cyflenwi â'n bwyd, dŵr ac aer a bod ei chyflwr yn dirywio'n gyflym ar hyn o bryd gydag un ymhob pedair ar ddeg o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu'n llwyr. Mae gennym gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd i newid hyn fel bod natur yn gallu parhau i ofalu amdanom ni a chenedlaethau'r dyfodol.

Does dim rheswm bellach y dylem ni aberthu ein bywyd gwyllt arbennig  am enillion economaidd tybiedig. Os yw ein plant, a phlant ein plant, i gael y profiad dwi 'di bod yn ffodus i'w gael o fwynhau harddwch ardaloedd fel Gwastadeddau Gwent, yna mae'n rhaid i'r cynlluniau i adeiladu'r ffordd hon ddod i stop yn sydyn.

Lluniau yn y drefn maen nhw'n ymddangos: Gardwenynen fain, garanod gan Nick Upton a llygoden bengron y dŵr gan Ben Andrew.