“Pam fy mod yn cefnogi Ffermio Organig” Blog Gwadd gan Natasha Simmonds, Gwirfoddolwr Dug Caeredin RSPB
English version available here.

Mae RSPB Cymru yn gweithio gyda llawer o ffermwyr ledled Cymru, rhai organig a rhai confensiynol. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ar eu ffermydd ar ran bywyd gwyllt ac maen nhw'n chwarae rhan bwysig wrth roi cartref i fyd natur. Dyma flog gan Natasha Simmonds, un o wirfoddolwyr Dug Caeredin RSPB, yn esbonio pam ei bod hi'n cefnogi ffermio organig yn benodol.

Wrth i'r wythnos ddirwyn i ben, byddaf wastad yn dechrau meddwl am ginio dydd Sul. Fel aelod o'r RSPB, rwy'n hoffi gwybod o ble daw fy mwyd, sut mae'n fy nghyrraedd a pha effaith mae'n ei gael ar fywyd gwyllt. Ers sawl blwyddyn, rwyf wedi ceisio bwyta llai o gig ac ar adegau rwy'n llwyddo i fynd heb gig o gwbl, er bod hynny'n gallu bod yn anodd. Pan fyddaf yn bwyta cig, byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn organig, sy'n bwysig i mi oherwydd y safonau lles uchel. 

Un peth sy'n bwysig i fy nheulu yw'r hyn y mae ffermio organig yn ei gynnig o ran iechyd a'r tawelwch meddwl sydd i'w gael o wybod ei fod o fudd i'r blaned, yn enwedig i fioamrywiaeth. Pam? Gan fod tystiolaeth dda bod ffermio organig o fudd i fywyd gwyllt (fel yn Tuck et al 2014). Mae natur gylchol ffermio organig a'r ffaith nad ydyn nhw'n defnyddio plaladdwyr artiffisial o fudd mawr i fywyd gwyllt.  

Fel teulu, rydym ni wedi bod yn prynu cynnyrch organig ers blynyddoedd, a hynny ar ôl treulio amser yn darllen blogiau ac erthyglau ar y we oedd yn disgrifio'r ffyrdd y mae ffermio organig yn helpu i dyfu llysiau blasus, magu anifeiliaid iach a hybu bioamrywiaeth ffermydd organig.  Mae'r erthygl isod yn esbonio pwysigrwydd bioamrywiaeth ar fferm organig a sut maen nhw'n croesawu hynny.  Mae hefyd yn dweud bod yr RSPB wedi bod yn ymweld â ffermydd organig fel Riverford, a hynny er mwyn cynnal arolwg o'r bywyd gwyllt sy'n ffynnu yno, fel Bras yr ŷd, Cornchwiglen, Golfan y mynydd a Bras melyn.

Mae cynyddu bioamrywiaeth o amgylch ffermydd hefyd yn helpu'r ffermwyr, os oes mwy o ysglyfaethwyr yn byw ym mherthi'r fferm, bydd llai o broblemau gyda phryfaid dinistriol gan fod yr adar yn eu bwyta. Mae Cymdeithas y Pridd yn dweud fod gan ffermydd organig 50% yn fwy o fywyd gwyllt ar gyfartaledd, a pe bai pob fferm yn y DU yn newid i ddulliau organig byddai'r defnydd o blaleiddiaid yn lleihau 98%. 

I mi, un o'r prif resymau pam fod ffermio organig yn bwysig yw ei fod yn tueddu i fod yn fwy amrywiol a'i fod yn defnyddio dull systemig i ailgylchu maethynnau a rheoli plâu. Efallai fod ffermio dwys confensiynol yn arwain at foron neu ieir rhatach ond yn fy marn i mae'n cynhyrchu moron llai blasus ac ieir (fferm gorddwys) sydd ddim mor iach.  Mae ffermio gorddwys yn ddrwg i iechyd yr ieir ac i'n hiechyd ni gan ei fod yn ddibynnol ar wrthfiotigau. Ond yn bwysicach, mae ffermio dwys iawn yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth fel mae'r erthygl hon o 2015 ar wefan y BBC yn ei ddangos.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi'n bwyta cinio dydd Sul, boed yn dwrci anferth neu yn tatin gwreiddlysiau, os yw'r cynnyrch yn organig mwynhewch y ffaith bod yr hyn rydych chi'n ei fwyta yn dda i chi ac yn dda i'r blaned. Os nad ydyw, byddwn i'n eich annog i ystyried ym mhle a sut y cafodd eich bwyd ei gynhyrchu, a chwilio am ardystiadau fel Fair to Nature neu Pasture Fed. Neu beth am brynu'n lleol? Mae llawer o ffermydd, fel Slade Farm, sy'n cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, a chyfeillgar i fywyd gwyllt yn darparu i gwsmeriaid lleol.