English version available here
Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd a byd natur. Gyda 663 o rywogaethau – 1 o bob 6 – mewn perygl o ddiflannu o Gymru, a chyda’r adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 yn tynnu sylw at y patrwm parhaus o fyd natur yn dirywio mewn mwy a mwy o leoedd, mae wir angen i ni wneud mwy dros fyd natur.
Er mai’r Senedd sy’n arwain y rhan fwyaf o bolisïau amgylcheddol, mae Aelodau Seneddol yn dal i allu helpu.
Mae RSPB Cymru, wrth gwrs, yn parhau i fod yn wleidyddol niwtral. Yr hyn sy’n bwysig yw gweithredu dros fyd natur. Yma, rydyn ni’n amlinellu’r hyn y gall Aelodau Seneddol ei wneud i warchod ac i adfer ein byd naturiol. Ac os ydych chi, fel ninnau, eisiau gweld y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn San Steffan yn cyflawni er budd byd natur, mae’n bosibl y gallwch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn cwestiynau i’r darpar ymgeiswyr seneddol.
Rhaid cynyddu’r cyllid ar gyfer y diwydiant amaeth, a gwneud mwy dros fyd naturBob blwyddyn, mae Llywodraeth y DU yn neilltuo £35 biliwn i’r diwydiant amaeth, gyda 9% (neu oddeutu £314 miliwn) yn mynd i Gymru, gan adlewyrchu patrymau gwario’r gorffennol. Fodd bynnag, dim ond tan yr Etholiad Cyffredinol y mae’r cyllid hwn wedi cael ei warantu, a Llywodraeth nesaf y DU fydd yn penderfynu ar faint o gyllid fydd ar gael i ddiwydiant amaeth y DU yn y dyfodol.
Credwn y dylid cynyddu cyllideb amaethyddol y DU er mwyn galluogi ffermio i ymateb yn effeithiol i’r argyfwng hinsawdd a byd natur ac i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Dylid hefyd adolygu sut mae cyllideb ffermio’r DU yn cael ei rhannu rhwng y pedair gwlad i adlewyrchu lefel y cyllid sydd ei angen i ymateb i'r her hon ym mhob gwlad. Mae ymchwil yn dangos bod angen o leiaf £500 miliwn y flwyddyn ar Lywodraeth Cymru, a mwy mae’n debyg, i gyflawni Cynllun Ffermio Cynaliadwy i alluogi’r diwydiant ffermio i newid i ddyfodol cynaliadwy sy’n fuddiol i ffermwyr, byd natur, yr hinsawdd a chymdeithas.
Rhaid i ynni adnewyddadwy fod yn ‘natur bositif’Mae’r ffaith bod y gwaith o chwilio am olew a nwy wedi dod i ben, a bod mwy a mwy o ynni adnewyddadwy’n cael ei gynhyrchu, yn hanfodol ar gyfer cynnal ein planed, ond ni all y newid hwn ddigwydd ar draul byd natur. Mae datblygiadau’n dal i gael eu cynnig mewn lleoliadau sy’n peri risg uchel i rywogaethau o adar, a bywyd gwyllt arall, sydd eisoes dan bwysau. Mewn argyfwng hinsawdd a byd natur, mae angen i ni ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y tir a’r môr mewn cytgord â byd natur.
Fel rhan o’r mecanweithiau cymorth ar gyfer ynni adnewyddadwy, ni ddylai isafswm pris gwarantedig fod ar gael i ddatblygwyr oni bai eu bod yn ymrwymo i ddatblygiadau sy’n gadarnhaol o ran byd natur, h.y. nid yn unig lleihau eu heffeithiau negyddol ond helpu i adfer bioamrywiaeth hefyd. Yn ogystal â chael dim olew na nwy newydd, byddem eisiau i unrhyw hydrogen gael ei ddatblygu’n wyrdd, h.y. o ffynonellau adnewyddadwy.
Bydd gwariant cyhoeddus a chyllid preifat yn hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd naturMae angen i lawer mwy o arian gael ei neilltuo ar gyfer gwarchod ac adfer byd natur er mwyn ymateb i’r her anferthol i wrthdroi’r argyfwng byd natur. Dylai Llywodraeth nesaf y DU gynyddu lefel gyffredinol y buddsoddiad cyhoeddus mewn byd natur a sicrhau ei fod yn treiddio i bob rhan o’r DU. O ystyried y brys a maint y broblem, bydd hefyd angen buddsoddiad preifat cyfrifol mewn gwarchod ac adfer byd natur. Rhaid gwneud hyn yng nghyd-destun amgylchedd rheoleiddio effeithiol a sicrhau safonau uchel ac arferion gorau.
Adolygu’r Ddeddf Marchnadoedd MewnolRydyn ni’n poeni y gallai polisïau amgylcheddol sy’n cael eu cefnogi’n eang mewn un wlad yn y DU gael eu tanseilio gan y Ddeddf hon. Er enghraifft, mae risg y bydd y Ddeddf yn cael ei defnyddio i danseilio uchelgeisiau Cymru ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes.
Gallai Aelodau Seneddol bwyso am ddiwygio’r ffordd y mae’r Ddeddf yn gweithio’n ymarferol, gan sicrhau ei bod yn annog gwledydd y DU i wella eu safonau amgylcheddol yn barhaus, ac i ‘gystadlu’ gyda’i gilydd mewn ras am y gorau yn hytrach nag annog gwledydd unigol i beidio â symud ymlaen.
Dangos Arweinyddiaeth Fyd-eangBydd Llywodraeth nesaf y DU yn cynrychioli’r pedair gwlad ar y llwyfan rhyngwladol. Rhaid iddi sbarduno camau gweithredu byd-eang ac uchelgeisiol dros fioamrywiaeth, yr hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol ar yr adeg dyngedfennol hon. Mae’r RSPB yn falch o fod yn bartner i BirdLife International – y bartneriaeth fyd-eang o sefydliadau cadwraeth cenedlaethol. Rhaid i Lywodraeth nesaf y DU arwain drwy esiampl gyda’i hagenda ddomestig, a chefnogi camau ymarferol ledled y byd i sicrhau dyfodol cadarnhaol i fyd natur.
Gweithredwch. Codwch eich llais dros fyd natur ac anfon e-bost at y darpar ymgeiswyr seneddol yn eich etholaeth gan ddefnyddio’r templedi yn ein gweithredu ar lein.