English version available here
“From sea to summit, is something to see”, mae’r dywediad hwn a glywais yn ddiweddar yn wir ym mhob ystyr. Dychmygwch daith gerdded hir o un o leoliadau glan môr Cymru i un o’n copaon niferus. Dychmygwch y golygfeydd ar hyd y ffordd; tonnau gwyllt, caeau gwelltog, coetiroedd hudol a llynnoedd hardd. Fodd bynnag, gallai’r golygfeydd hyn fod yn llawer gwell.
Mae menter partneriaeth* newydd, O'r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea, nawr yn rhoi cyfle i ddangos bod modd creu dyfodol cynaliadwy i'r tir a'r môr yng nghanolbarth Cymru. Byddai’r dyfodol yma’n fuddiol i bobl ac i fyd natur, drwy geisio adfer ecosystemau ffyniannus ac economi leol wydn, a hynny ar raddfa sydd heb ei gweld eto yng Nghymru.
Mae hyn wedi bod yn bosibl diolch i gynnig llwyddiannus i’r rhaglen Endangered Landscapes Programme, a arweiniodd at sicrhau cyllid newydd o £3.4 miliwn i O’r Mynydd i’r Môr yn ystod y bum mlynedd nesaf. Mae hwn yn arian newydd, o’r tu allan i Gymru, a fydd yn cefnogi ymdrech sylweddol i greu cyfleoedd newydd i sicrhau newid i'r dyfodol.
Bydd un o’n safleoedd, RSPB Ynys-hir, yn ogystal ag aber afon Dyfi ar gyrion y safle, yn elwa o'r cyllid newydd. Bydd yn caniatáu i ni roi mwy o gymorth i rywogaethau fel gwybedogion brith, gwyddau talcenwyn yr Ynys Las a chornchwiglod. Bydd y fenter yn cyrraedd ymhell dros ffiniau RSPB Ynys-hir a glannau Dyfi hefyd. Diolch i O’r Mynydd i’r Môr, mae’r newid posibl hwn yn gwbl eithriadol.
Bydd y fenter yn mynd ati i adfer byd natur – y byd natur rydyn ni i gyd yn dibynnu arno. Drwy wneud hynny, bydd y fenter yn dod â chymunedau o bob cwr o ganolbarth Cymru at ei gilydd i greu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y dyfodol. Dyma ddyfodol lle bydd pobl a bywyd gwyllt yn ffynnu ar yr un pryd, drwy gefnogi'r economi leol hefyd i sicrhau ffermio cynaliadwy a mentrau newydd sy'n seiliedig ar natur.
Drwy gyflawni hyn, bydd mwy o gyfleoedd ar gael i gymunedau ac ymwelwyr canolbarth cymru, gan roi cyfle i'r cyhoedd ailgysylltu â chyfoeth treftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal. Mae O’r Mynydd i’r Môr yn gyfle i’n cymunedau ganfod ymdeimlad newydd o gydbwysedd rhwng mentrau dynol a llonyddwch byd natur.
Rwy’n siŵr eich bod chi am wybod pam ein bod ni’n sefydlu’r fenter nawr ond, os nad heddiw, yna pryd?
RSPB Ynys-hir, Jenny Hibbert rspb-images.com
Roedd yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru a gyhoeddwyd fwyaf diweddar yn nodi bod un ym mhob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu am byth. Er bod coedwigoedd yn gorchuddio 37% o’r tir yng ngweddill Ewrop ar gyfartaledd, dim ond 14% o’r tir sydd dan goedwig yng Nghymru. Nid yw’n debygol y byddwn ni’n agos at gyrraedd y targed byd-eang ar gyfer 2020, sef lleihau'r fioamrywiaeth sy'n cael ei cholli. Rhaid i ni ateb galwad natur cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Dim ond dechrau ar ei thaith mae'r fenter O'r Mynydd i’r Môr, ond drwy gydweithio mewn ffordd greadigol, bydd gwahaniaeth tymor hir yn rhoi cyfle i fyd natur ac i’r cymunedau lleol ffynnu. Gellir gwireddu’r syniad o greu Cymru sy'n fwy cyfoethog o ran byd natur a rhyfeddodau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn summit2sea.wales, neu cysylltwch ag info@summit2sea.wales.
*Mae Rewilding Britain yn arwain y gwaith o sefydlu'r prosiect gyda Coed Cadw. Mae’r partneriaid yn cynnwys: RSPB Cymru, ecodyfi, Cymdeithas Cadwraeth y Môr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ardal Cadwraeth Arbennig Forol PLAS, The Waterloo Foundation, Sefydliad Tir Gwyllt Cymru a The Whale and Dolphin Conservation. Mae'r rhaglen Endangered Landscapes Programme yn cael ei hariannu gan Arcadia, sef arian elusennol gan Lisbet Rausing a Peter Baldwin