Olrhain hynt a helynt adar yng Nghymru

English version available here

Mae Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru, yn un o olygyddion Birds of Wales/Adar Cymru - llyfr newydd sy'n dogfennu hanes yr holl adar a welwyd erioed yng Nghymru.

Mae bron i 30 mlynedd ers cyhoeddi'r unig lyfr ar adar Cymru ond mae hynny ar fin newid gyda chyhoeddi llyfr newydd sy'n olrhain hynt a helynt adar yng Nghymru, o'r oes cynhanesyddol hyd heddiw.

Mae’r llyfr newydd hwn yn cronni'r wybodaeth am bob un o’r 451 o rywogaethau o adar gwyllt a gofnodwyd yng Nghymru a mwy na 100 o rywogaethau anfrodorol a gofnodwyd yma'n byw'n wyllt. Mae hanes pob rhywogaeth yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf ac arbenigedd pobl sydd wedi astudio adar yng Nghymru, gan gynnwys nifer o staff a gwirfoddolwyr presennol RSPB Cymru a rhai sydd wedi ymddeol o'n plith hefyd.

Mae'n llyfr yn ein tywys ni nôl i'r hanes cynharaf, fel y gwyrain a fu'n nythu yn Sir Benfro cyn yr Oes Iâ ddiwethaf ac olion traed garanod o oddeutu 7,000 o flynyddoedd yn ôl a oroesodd ym mwd Aber yr Hafren. Mae Cymru o bwys am ei phoblogaethau o frain coesgoch, y gylfinbraff a gwybedogau brith, ac mae poblogaeth ein hadar drycin Manaw o bwys rhyngwladol. Mae'r arsyllfeydd adar ar Sgogwm ac Ynys Enlli wedi bod yn allweddol wrth astudio adar mudol ac mae nifer fawr o aelodau'r RSPB yn werin wyddonwyr ac yn helpu i olrhain tynged ein hadar drwy ymgymryd ag arolygon a chyfrif adar ar ein gwarchodfeydd byd natur.

Mae'r penodau agoriadol yn disgrifio, am y tro cyntaf, hanes cadwraeth yng Nghymru, gan gynnwys gweithgareddau cynnar yr RSPB: yr erlyniadau cyntaf am ddefnyddio trapiau polyn anghyfreithlon ym 1909 a'r gwylwyr cyntaf a ddiogelodd adar y môr ar Ynys Llanddwyn, Ynys Môn o 1911. Yn y 1920au, ariannodd yr RSPB brydles ynys Sgogwm yn Sir Benfro er mwyn iddi fod yn warchodfa natur ac aeth ati i warchod yr ychydig farcutiaid coch a oedd yn weddill yng nghanolbarth Cymru. Yna, yn y 1930au llwyddodd i erlyn perchennog tancer a arllwysodd olew i’r môr oddi ar Sir Benfro.

Pwysigrwydd gwarchodfeydd byd natur yr RSPB

Mae sôn am warchodfeydd byd natur yr RSPB drwyddi draw yn y llyfr, o Ynys Gwales oddi ar arfordir Sir Benfro, sef y tir cyntaf i ni ei brynu yng Nghrymu, lle mae poblogaeth huganod wedi cynyddu o 7,000 o adar ym 1948 i 36,000 ohonyn nhw yn 2015; i greu gwlyptir ar aber yr Afon Conwy yn y 1990au. Mae'n cofnodi rhai o'r brwydrau mwyaf i amddiffyn lleoedd pwysig ar gyfer byd natur a arweiniodd at warchod Aber yr Afon Ddyfrdwy sydd o bwys rhyngwladol am ei hadar, i sefydlu gwelyau cyrs a glaswelltiroedd gwlyb yng Ngwlyptiroedd Casnewydd ar Wastadeddau Gwent.

Mae llwyddiant prosiectau adfer cynefinoedd yr RSPB yn cael sylw hefyd ac fe glywn ni am hanes poblogaethau adar y gwlyptir rhyfeddol sydd i'w gweld bellach ar Gors Ddyga, Ynys Môn, a'r uchelgais ar raddfa tirwedd yn Llyn Efyrnwy ym Mhowys. Mae wardeiniaid yr RSPB yn gyfrifol am ofalu am fwy na hanner poblogaethau Cymru o nifer o adar, gan gynnwys aderyn y bwn, y pibydd coesgoch, y boda tinwyn a môr-wennol yr Arctig. Mae sôn am rai o'r adar prin annisgwyl a welwyd ar warchodfeydd yr RSPB yn cynnwys yr unig gofnod o Gymru o'r pibydd cynffonlwyd (grey-tailed tattler) yn Ynys-hir ym 1981, y pibydd hirgoes (stilt sandpiper) yng Nghonwy ym 1996 a'r ehedydd du (black lark) a welwyd ar Ynys Lawd yn 2003.

Pori trwy’r pennodau

Mae'r llyfr yn defnyddio arbenigedd yr RSPB i asesu effaith rheoli tir a newid yn yr hinsawdd ar adar: ein hymchwil wyddonol arloesol ar adar fel y frân goesgoch a'r gornchwiglen; mentrau pwysig er budd grugieir duon ac adar ein coedwigoedd derw - y coedwigoedd glaw Celtaidd - ac ymgyrchoedd i geisio dwyn perswâd ar lywodraethau i greu Cymru sy'n gyfoethocach ei byd natur. Mae hefyd yn edrych ar newidiadau sydd eto i ddod yn ystod yr unfed ganrif ar hugain; rhai a fydd yn cael eu dylanwadu gan hinsawdd ansefydlog ac eraill sy'n dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan wleidyddion am ffermio, coedwigaeth ac ynni adnewyddadwy.

Cychwynnwyd ar y gwaith o greu The Birds of Wales/Adar Cymru ddwy flynedd yn ôl a dyma'r prosiect y treuliais fy amser sbâr yn gweithio arno yn ystod cyfnodau clo 2020 - doeddwn i byth yn mynd i fod yn giamstar ar bobi bara banana. Mae’r llyfr hefyd yn rhoi llwyfan i fwy na 200 o luniau anhygoel gan rai o ffotograffwyr blaenllaw Cymru. Cyhoeddwyd yr unig lyfr cynhwysfawr blaenorol ar adar Cymru nôl ym 1994 a dwi'n cyfeirio ato yn wythnosol. R'yn ni'n gobeithio y bydd y gyfrol newydd hon yn cael ei gwerthfawrogi cymaint gan y genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf o bobl sy'n caru adar Cymru.

Cyhoeddir The Birds of Wales/Adar Cymru, yn Saesneg, gan Wasg Prifysgol Lerpwl a Chymdeithas Adaryddol Cymru ar 1af o Orffennaf 2021, pris £45. 608 tudalen. Clawr caled.
Os wnewch chi ei archebu cyn 30ain o Fehefin, mae modd ei brynu am bris o £25 + costau postio a phacio. Ewch i wefan
Gwasg Prifysgol Lerpwl a defnyddio'r côd WALES50, neu ffoniwch 07766 472078.