O ganu i'r garan

English version available here

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn her i ni gyd. Pan gafodd y cyfyngiadau symud eu cyhoeddi i atal Covid-19 rhag lledaenu, penderfynodd RSPB Cymru ymateb i helpu pobl eraill, yn ogystal â natur.

Mae'r sefyllfa bresennol o ganlyniad i Covid-19, lle rydyn ni gyd o dan gyfyngiadau symud, wedi golygu newidiadau mawr i’n bywydau ac wedi ein cyfyngu mewn llawer o ffyrdd. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod yn rhaid i ni golli cysylltiad â natur, ac mae RSPB Cymru yma i helpu pawb ymgysylltu â byd natur.

Nid yw’r ffaith ein bod yn gorfod cadw draw o bobl eraill yn golygu bod yn rhaid i ni gadw draw o natur. Mae digon o ffyrdd o fwynhau bywyd gwyllt o hyd, a does dim amser gwell i wneud hyn a dweud y gwir.

Ac felly ganwyd y Brecwast Gwylio Adar! Rydyn ni’n annog y cyhoedd i gysylltu â ni rhwng 8am a 9am yn ystod yr wythnos, gan ddefnyddio'r hashnod #BrecwastGwylioAdar, i roi gwybod i ni beth maen nhw’n ei weld yn eu gerddi neu eu mannau gwyrdd, os ydyn nhw wrthi’n gwneud eu hymarfer corff dyddiol. Rydyn ni wedi cael ymateb ardderchog. Mae wedi bod yn bleser clywed gan gynifer o bobl sy’n ymgysylltu â bywyd gwyllt ar garreg eu drws – a llawer ohonynt heb arfer gwneud hynny.

Mae dyfodiad y gwanwyn yn golygu cryn brysurdeb ym myd yr adar wrth iddyn nhw gymryd rhan yn nghôr y wawr, gan forio canu gyda’r wawr i ddenu cymar. O ran yr adar hynny sydd wedi dod o hyd i gymar yn barod, mae hwythau’n brysur iawn, yn mynd a dod wrth gasglu deunyddiau i adeiladu nythau er mwyn gallu dodwy wyau. Rydyn ni wedi cael nifer o fideos ar Twitter yn cofnodi’r synau anhygoel sydd i’w clywed nid yn unig yn yr ardaloedd gwledig, ond mewn ardaloedd trefol hefyd, lle mai sŵn cerbydau a diwydiant sy’n drech fel arfer. Roedden ni hefyd yn falch o glywed telor y coed yn dychwelyd. Mae ei gân unigryw yn ffefryn ymysg gwylwyr adar. Mae Ben Porter, naturiaethwr, ffotograffydd a ffrind i RSPB Cymru wedi creu casgliad o ganeuon adar yr oedd yn gallu eu clywed yn ei filltir sgwâr ym Mhenrhyn Llŷn yn y gwanwyn.

Yn ôl y disgwyl, roedd llawer o’r rhywogaethau yr oedd modd eu gweld a’u dal ar gamera yn adar yr ardd. Roedd haid o adar y to, robinod coch ifanc, titwod tomos las prysur, a chnocellod y coed swnllyd. Ond ar un bore Ebrill yn Nihewyd, Ceredigion, gwelodd Megan a Barry Brown rywbeth tra wahanol...garan!

Garan yn y gardd!

Yn wir, roedd garan – aderyn sydd dim ond wedi dechrau magu yng Nghymru eto ar ôl absenoldeb o ganrifoedd – wedi ymweld â'u gardd ac yn lwcus, roedd camera Barry Morgan wrth law er mwyn gallu cofnodi'r rhyfeddod hwn.

Mae hanes y garan yn dorcalonnus. Roedd arfer bod yn rhywogaeth a oedd i'w weld yn aml ar gorsydd, rhosydd a llynoedd yng Nghymru nes oes Elizabeth, pan wnaeth y cyfuniad o golli cynefin yn raddol a chael ei hela fel bwyd i wleddau moethus gael niwed mawr. O ganlyniad, dydyn nhw ddim yn olygfa gyfarwydd yng nghefn gwlad Cymru bellach. Mae prosiect diweddar yn ne Lloegr wedi llwyddo i ailgyflwyno'r garan ac mae’r llwyddiant hwn wedi lledaenu dros y ffin, ac maen nhw wedi dechrau magu yng Nghymru eto.


Roedd yr ymatebion ar gyfryngau cymdeithasol yn llawn cyffro, rhyfeddod a llawenydd. Roedd cannoedd wedi ymateb i’r stori ac wedi trafod yr aderyn ardderchog hwn. Roedd y stori hwn yn crynhoi hanfod #GwylioAdarAmserBrecwast i ni – cyfle i rannu, mwynhau a dysgu o brofiadau pobl eraill o natur, hyd yn oed pan ydyn ni ar wahân. Boed iddo barhau!

Am ragor o wybodaeth am gôr y bore bach, ewch i: rspb.org.uk/dawnchorus