O ble maen nhw’n dod ac i ble maen nhw’n mynd?

English version available here

Wrth i'r atgofion melys o wenoliaid yn hedfan ar awel gynnes yr haf gilio, ac wrth i’r hydref a’i foreau rhewllyd nesáu, rydyn ni’n paratoi i groesawu'r adar sy’n dod yma dros y gaeaf.

Efallai ein bod ni wedi ffarwelio â nifer o rywogaethau lliwgar ym mis Awst a mis Medi, byddwn yn ymgyfarwyddo o'r newydd â’n hen ffrindiau sy’n dychwelyd i Gymru dros y gaeaf. Dyma lond llaw o adar i gadw llygad amdanynt ...

Gellir gweld coch yr adain ar draws Cymru yn ystod y misoedd oerach hyn. Mae’n dod yma o Sgandinafia ac mae'r llinell lliw hufen uwch ei llygaid a’r patshys orengoch ar ei hochrau’n gwneud y fronfraith hon yn nodweddiadol, ac yn rhoi ei henw iddi wrth gwrs. Bydd yr adar hyn yn crwydro cefn gwlad Cymru yn bennaf ac anaml y byddant yn ymweld â gerddi – ond pan fydd eira trwm yn gorchuddio’r tir, byddant yn crwydro i ardaloedd trefol. Pan gafwyd y stormydd mawr o'r Dwyrain yn 2018, fe wnaeth llawer ohonynt ymweld ag ardaloedd trefol a oedd dan garped o eira. Pan ddaw’r gwanwyn, fe wnân nhw adael Cymru a nythu’n isel yng nghoetiroedd corsiog a choedwigoedd bedw Sgandinafia a gogledd Ewrop.

Bronfraith arall a fydd yn dod i gefn gwlad Cymru yn ystod misoedd y gaeaf yw’r socan eira. Mae’n debyg o ran ei maint i frych y coed ac mae’n aderyn cymdeithasol iawn – bydd socanod eira’n ymgasglu mewn heidiau sy’n amrywio o ddwsin i gannoedd mewn niferoedd. Maen nhw’n sboncian o gwmpas yn dalsyth iawn – efallai y gwelwch chi'r adar hardd hyn ar y glaswellt yn chwilio am lyngyr ac aeron mewn caeau, neu hyd yn oed yn eich parc lleol neu’ch gardd chi o bryd i'w gilydd. Maen nhw’n tueddu i nythu mewn nythfeydd llac, ac maen nhw’n ffafrio coed bedw neu binwydd tal fel y rhai a geir mewn parciau. Mae’r socanod hefyd yn dychwelyd i Sgandinafia a gogledd Ewrop tua mis Mawrth.



Pan ddaw’r gaeaf, bydd hwyaid llygad-aur yn hedfan i mewn o Rwsia a gogledd Ewrop i ymuno â’n hwyaid cynhenid ar ein pyllau dŵr a’n llynnoedd (mae rhai hwyaid llygad-aur yn nythu yn y DU, ond yn Ucheldiroedd yr Alban yn unig fel arfer). Mae gan y gwrywod blu du, gwyn a gwyrdd cyfoethog ac mae’r benywod yn frown – ond mae gan y ddau lygaid aur nodweddiadol sy’n rhoi eu henw iddynt. Byddant yn aros yma yng Nghymru, yn bwyta cregyn gleision, larfâu pryfed, pysgod bach a phlanhigion, nes bydd yn amser iddynt ddychwelyd i ddwyrain neu ogledd Ewrop tua mis Chwefror.



Ar ôl cael egwyl sydyn yng Ngwlad yr Iâ ar eu taith hir, bydd gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yn cyrraedd Cymru yn fuan. Bydd y rhan fwyaf yn mynd i Aberdyfi yng Ngheredigion, ond mae’n werth nodi bod rhai gwyddau’n mynd i Ynys Môn. Dydy stori gwyddau talcenwyn yr Ynys Las ddim yn un hapus – yn dilyn blynyddoedd o gael eu saethu, mae eu niferoedd wedi lleihau’n ddifrifol. O ganlyniad i hyn, mae’r niferoedd sy’n gaeafu yng Nghymru wedi lleihau’n ddramatig yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Ond, yn dilyn deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i warchod y rhywogaeth hon rhag cael ei hela, rydyn ni’n obeithiol y bydd y niferoedd hyn yn adfer dros amser.



Wrth gwrs, dim ond llond llaw o rywogaethau sy’n gaeafu yma yng Nghymru yw’r rhain a nodir uchod – mae llawer mwy. Er efallai y bydd y gaeaf hwn yn unigryw o ran lle gallwch deithio iddo, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am wahanol gymeriadau yn eich gardd a’ch mannau gwyrdd lleol!