To read this in English, please click here.

Mae Cymru wedi’i bendithio ag amrywiaeth o fywyd gwyllt a thirweddau trawiadol. O Eryri i Fannau Brycheiniog, Ynys Môn i Arfordir Penfro, mae’n fraint byw mewn gwlad gyda chymaint o olygfeydd mor odidog. Ond yn aml, ni fyddwn yn oedi a gofyn pwy sy’n gofalu amdani - pwy sy’n gofalu am yr olygfa o gymoedd dramatig, traethau eang a gwrychoedd llawn bywyd gwyllt sy’n nodweddu cymaint o’n hoff atgofion? Mae elusennau amgylcheddol fel y RSPB a chyrff cyhoeddus fel Cyfoeth Naturiol Cymru’n chwarae rhan fawr, ond gyda dros 80% o dir Cymru’n cael ei ffermio; rhaid i ni gofio mai’r bobl sy’n cael yr effaith fwyaf ac sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith yw ein ffermwyr.

Eleanor Bentall, rspb-images.com

Yn adroddiad diweddar Sefyllfa Byd Natur 2016, dywedwyd bod amaethyddiaeth anghynaladwy, ynghyd â newid hinsawdd, yn un o’r prif ffactorau sy’n effeithio ar golled bywyd gwyllt. Yn anffodus, mae mwy na hanner rhywogaethau’r Deyrnas Unedig wedi gostwng mewn niferoedd ers 1970, ac mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu -  tra bod 12% o holl rywogaethau tir ffermio’r DU hefyd mewn perygl. Ond sut gyrrhaeddodd amaethyddiaeth y pwynt o gyfrannu at y gostyngiad yma? Hyd yma, mae’r ffordd yr ydym yn ffermio a rheoli ein tir wedi’i lywodraethu gan Bolisi Amaeth Cyffredin Ewrop (PAC). Gwaetha’r modd, mae wedi methu â diogelu natur, yr amgylchedd nac adeiladu amaethyddiaeth gadarn. Yn hytrach, mae wedi annog arferion ffermio sydd at ei gilydd yn aneconomaidd ac anghynaladwy, sydd wedi arwain at golli cymaint o’n bywyd gwyllt a difrodi cefn gwlad.

Ac rwan gan y byddwn bellach yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae cyfle i ni greu polisi newydd sydd er budd natur, pobl a ffermwyr fel ei gilydd. Mae'n glir fod gan ffermio botensial enfawr i ddiogelu’r amgylchedd, gwarchod natur a chynhyrchu ein bwyd, ond yr unig ffordd i gyflawni’r potensial hwn yw drwy sefydlu’r polisi a’r gefnogaeth briodol i ffermwyr a rheolwyr tir eraill gyrraedd y nod hwn. 

Gyda dyfodiad Brexit ac yn sgil llawer iawn o ansicrwydd i’n cymunedau ucheldir yng nghefn gwlad, yr unig ffordd i gyflawni polisi sydd er budd pobl, natur a ffermwyr yw trwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. Os na weithiwn ni gyda’n gilydd, mae cefn gwlad Cymru, y bywyd gwyllt arbennig sy’n byw ynddo a’r ffermwyr sy’n gweithio ynddo, oll mewn perygl.

Felly gyda Gŵyl y Gelli’n dathlu 30 mlynedd eleni, bydd RSPB Cymru’n cynnal digwyddiad arbennig ar 31 Mai i ystyried y 30 mlynedd nesaf pe bai’r amgylchedd naturiol yn cael ei osod wrth graidd polisïau ffermio ôl-Brexit. Mae gwestai arbennig yn cynnwys Cyfarwyddwr RSPB Cymru Katie-jo Luxton; y newyddiadurwr a’r awdur Louise Gray; y bardd Martin Daws; ffermwyr defaid o Gymru a chynrychiolydd Tegwch i’r Ucheldir, Tony Davies’ Cadeirydd Amaeth Cymru, Kevin Roberts, a Chadeirydd RSPB, yr Athro Steve Ormerod. Hefyd bydd nifer o weithgareddau ar ein stondin yn ogystal â digwyddiadau sy’n addas i deuluoedd yn ei gardd wyllt. Felly os ydych eisiau diwrnod hwyliog gyda’r teulu a chyfle i gael dweud eich dweud ynglŷn â dyfodol ucheldiroedd Cymru ar ôl Brexit, gallwch archebu tocynnau yma.

Credwn fod gennym gyfle unwaith mewn oes i symud tuag at bolisi rheoli tir cynaliadwy a fydd yn helpu ffermwyr Cymru i adfer a diogelu natur a’r amgylchedd ehangach, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd o’r safon uchaf a nwyddau eraill. 

Fel rhan o’r broses yn ol ym mis Mawrth, cynhaliodd RSPB Cymru, Prifysgol Bangor a Cynidr Consulting ddigwyddiad arloesol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar ‘ddyfodol ffermio mynydd yng Nghymru’ yng Nghanolfan Fusnes a Chynadleddau Glastir yn Llanrwst. Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru a denwyd dros 150 o gynrychiolwyr yno; yn cynnwys ffermwyr, eu cynrychiolwyr, arbenigwyr polisi, academyddion a swyddogion y Llywodraeth. Daeth y rhai i gyd ynghyd i ystyried ffordd newydd o weithio a fydd yn llywio dyfodol polisi rheoli tir yng Nghymru.

Rydym eisoes wedi dechrau rhoi ein harferion ar waith yn ein gwarchodfeydd. Y llynedd bu RSPB Ynys Dewi a bwyty lleol daro bargen o'r 'fferm i'r fforc', yn amlygu elfennau positif i ffermio sy’n gydnaws â’r amgylchedd. Gwerthodd RSPB Ynys Dewi bob un o’r 66 ŵyn i’r bwyty, St Davids Kitchen, ynghyd ag wyth carw coch. Yn fwy diweddar, mae RSPB Llyn Efyrnwy wedi bod yn cynnal digwyddiadau wyna byw sy’n cynnig diwrnod allan unigryw i deuluoedd. Pan ydym yn gweld o ble daw ein bwyd, rydym hefyd yn sylweddol effaith mor fawr y mae'n ei chael ar natur. Felly, mae digwyddiadau RSPB Llyn Efyrnwy nid yn unig yn brofiad unigryw i deuluoedd, ond hefyd yn ffordd berffaith i ddarganfod y cysylltiadau rhwng bwyd, ffermio a  drostynt eu hunain.

Efallai bod dyfodol ffermio tir mynydd yn heriol, ond mae digon o gyfleoedd ar gael. Mae’r ucheldiroedd yn adnodd gwerthfawr, sy’n cynnig manteision cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Os gweithiwn ni gyda’n gilydd i gryfhau gwytnwch y lleoedd sy’n annwyl i ni, mae’r posibiliadau i natur a'r posibiliadau i ni’n ddiddiwedd.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein digwyddiad yn Gŵyl y Gelli, ewch i https://www.hayfestival.com/p-12336-louise-gray-steve-ormerod-and-tony-davies-talk-with-katie-jo-luxton. Neu i ddarganfod mwy am waith RSPB Cymru gyda ffermwyr drwy Gymru, ewch i https://www.rspb.org.uk/farming