Natur am Byth! yn Llŷn ac Ynys Môn

English version available here

RSPB Cymru sy’n arwain ar y prosiect ‘Llŷn ac Ynys Môn’ o fewn rhaglen ehangach Natur am Byth. Drwy weithio gyda rheolwyr tir, cymunedau lleol a gwirfoddolwyr, byddwn ni’n gwella cynefinoedd ac yn hybu ymwybyddiaeth o 17 o rywogaethau penodol ym Mhenrhyn Llŷn ac Ynys Môn.

 Bydd y gwaith hefyd yn cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau sy’n fuddiolwyr – 67 ohonyn nhw i fod yn fanwl gywir! Byddwn ni’n canolbwyntio ar dri chynefin lle byddwn ni’n adfer rhywogaethau drwy fonitro, rheoli cynefinoedd, cynnal digwyddiadau hyfforddi a chydweithio â rheolwyr tir lleol.

Mae llawer o ddiolch am ariannu’r prosiect brys, pwysig hwn yn mynd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – sydd wedi dyfarnu dros £4.1m i bartneriaeth Natur am Byth ar ôl dwy flynedd o gynllunio manwl.


Newyddion gwych i’r Frân Groesgoch!

Mae rhostir arfordirol yn darparu cynefin pwysig i’r Frân Groesgoch gael hela am fwyd, a gallwch chi ddod o hyd i nythfeydd o gor-rosod rhuddfannog epilgar yn y cynefin hwn ar Ynys Môn. Dim ond mewn rhai lleoliadau ar arfordir gorllewinol y Deyrnas Unedig y gellir gweld y nythfeydd hyn. Mae rheolaeth yn dirywio mewn rhai ardaloedd arfordirol, ac mae hynny wedi arwain at gynnydd mewn prysg a rhedyn. Byddwn ni’n gweithio gyda ffermwyr i ailgyflwyno rheolaeth pori a phrysgwydd lle bo angen er mwyn agor ardaloedd sydd wedi gordyfu, a darparu mannau bwydo gwell ar eu cyfer. Yn dilyn rhaglen lwyddiannus yn ailgyflwyno’r Ferywen ar Ynys Lawd, byddwn ni’n gweithio gyda thirfeddianwyr i wneud yr un peth ym Mhenrhyn Llŷn ar gyfer y rhywogaeth bwysig hon.

 

Adar Cân a Thwyni Tywod

Mae twyni tywod yn dirweddau gwyllt ac unigryw. Maen nhw’n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar cân, glöynnod byw ac amrywiaeth o bryfed sydd mewn perygl. Mae’r pyllau a’r nentydd o ddŵr y tu ôl i dwyni yn darparu amodau delfrydol i lawer o blanhigion prin. Byddwn ni’n ailsefydlu’r ardaloedd gwlyb hyn o fewn systemau twyni ar hyd arfordir gorllewinol Ynys Môn er mwyn adfer cynefin ar gyfer Corfrwyn, Tafol y Traeth a Rhawn yr Ebol Baltig.

Canolbwyntio ar y Corsydd!

Mae adfer a chadw corsydd – sef gwlyptiroedd sy’n dal carbon ac yn cronni mawn – yn hanfodol er mwyn delio â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Mae’r math hwn o dir yn dal carbon yn wych, ac mae hefyd yn creu cynefinoedd sy’n ddelfrydol ar gyfer adar hirgoes. Mae corsydd yn Llŷn a Môn yn cael eu dŵr o ffynhonnau sy’n llawn calsiwm, a’r cymysgedd hwn o alcalïaidd ac asid sy’n eu gwneud mor arbennig. Yn ogystal â chefnogi amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion, mae’r corsydd yn gynefinoedd perffaith ar gyfer creaduriaid di-asgwrn-cefn hynod brin. Dim ond mewn rhai safleoedd yng Nghymru y mae modd canfod y creaduriaid hyn. Bydd clirio prysg, pori mwy a chreu pyllau yn helpu i ddarparu cynefin agored i rywogaethau fel chwilen ddaear lwydaidd. Dim ond ym Mhenrhyn Llŷn y gellir gweld y rhywogaeth hon.

 

Unwaith yn rhagor, mae prosiect Natur am Byth yn dangos y gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gydweithio â chymunedau, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid eraill. Dyma’r 10 partner craidd:

 

Cyfoeth Naturiol Cymru (prif bartner)

Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod

Buglife

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn

Cadwraeth Glöynnod Byw

Plantlife

Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

RSPB Cymru

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent

 

Mae byd natur mewn argyfwng, ond gallwn ei achub gyda’n gilydd. Ydych chi’n byw yn ardal Pen Llŷn neu Ynys Môn ac eisiau cymryd rhan? Cysylltwch â ni - cymru@rspb.org.uk