Myfyrio ar COP26

English version available here

Ddechrau mis Tachwedd, roedd llawer o’n cyd-weithwyr yn cymryd rhan weithredol yn COP26 yn Glasgow – gan gynnal digwyddiadau a chwrdd â chynadleddwyr o wledydd eraill, a hynny rhwng mynychu cyfarfodydd ffurfiol a thrafodaethau i godi proffil byd natur a dangos ei rôl bwysig o ran mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Aeth Prif Swyddog Polisi Newid Hinsawdd yr RSPB, sef Melanie Coath, ati i rannu ei hargraffiadau ar ôl y digwyddiad, a oedd yn cynnwys rhai uchafbwyntiau yn ogystal â rhai siomedigaethau (sy’n adlewyrchu’r ymdeimlad cryf ehangach nad oedd cynnydd wedi’i wneud yn ystod digwyddiad COP26).

Cynrychiolaeth o Gymru yn COP26

Bu Prif Weinidog Cymru, y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd hefyd yn cymryd rhan, ac mae myfyrdodau Steffan Messenger o BBC Cymru Wales ar COP26 yn werth eu darllen. Un o’i sylwadau oedd

roedd edrych i fyw llygaid pobl yn cael effaith amlwg ar weinidogion Llywodraeth Cymru. Buom yn cyfweld â’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ychydig funudau ar ôl iddi gynnal cyfarfod gyda phobl frodorol Wampis, Periw. Roedd hi wedi ei syfrdanu cymaint gan yr hyn a glywodd am effaith cwympo coed ar gymuned coedwig law’r Wampis fel ei bod hi wedi addo newid rheolau caffael cyhoeddus – fel bod rhaid i ysgolion ac ysbytai, er enghraifft, wneud yn siŵr bod y nwyddau maen nhw’n eu prynu ddim o ganlyniad i ddadgoedwigo.

Mae adroddiad ar y cyd RSPB Cymru gyda WWF Cymru a Maint Cymru yn dangos bod angen ardal dramor sydd 40% o faint Cymru i dyfu llond llaw o nwyddau amaethyddol allweddol i fodloni ein gofynion yng Nghymru. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfrifoldeb byd-eang ac ystyried cadwyni cyflenwi wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur fyd-eang.

Beth nesaf i Gymru?

Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun Sero Net  newydd, sy’n cynnwys cydnabod yr argyfwng natur, ynghyd â chydnabod ei gysylltiad â newid yn yr hinsawdd. Er hynny, mae llawer o waith ar ôl i’w wneud i sicrhau buddsoddiad digonol yn adferiad natur trwy ein rhwydweithiau o safleoedd gwarchodedig; atebion sy’n seiliedig ar natur wedi’u cynllunio’n dda; diwygiadau i daliadau amaethyddol i wobrwyo darparu nwyddau cyhoeddus; rheolaeth forol gynaliadwy; a chynllunio da i alluogi’r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy mewn cytgord â natur.

Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at COP15 a’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD), a gafodd ei ohirio’n sylweddol oherwydd yr argyfwng iechyd byd-eang, ac mae’n ymddangos y gallai gael ei ohirio ymhellach ar ôl i amrywiolyn Omicron ddod i’r amlwg. Fodd bynnag, mae’r nod yr un fath o hyd – cytuno ar gyfres newydd o dargedau bioamrywiaeth byd-eang. Mae RSPB Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd trwy ymrwymo i fframwaith cyfreithiol o dargedau ar gyfer natur (sy’n cyfateb i’r terfyn 1.5 gradd sydd gennym ar gyfer yr hinsawdd), i ddangos uchelgais domestig ar atal a dechrau gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030, a sicrhau adferiad sylweddol erbyn 2050 fel ein bod yn gwireddu gweledigaeth y CBD o fyw mewn cytgord â natur.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Annie Smith – annie.smith@rspb.org.uk