Yn gynharach eleni dangosodd adroddiad cyntaf erioed Sefyllfa Byd Natur bod byd natur mewn perygl enbyd. Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn bositif i’r adroddiad ac fel rhan o hyn mae’n edrych ar hyn o bryd ar adolygu’r taliadau a wneir ganddo i ffermwyr i warchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Mae 80% o gefn gwlad Cymru yn cael ei amaethu. Dyma felly’r ffurf bwysicaf o ddefnydd tir i fywyd gwyllt. Glastir yw enw’r prif gynllun sy’n galluogi talu ffermwyr i wireddu amgylchedd naturiol iach a ffyniannus (wrth ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus). Wrth ail-archwilio’r cynllun mae gan Lywodraeth Cymru gyfle allweddol i sicrhau bod Glastir yn cael ei wella er mwyn gwarantu y bydd yn cyflawni’r hyn sydd ei angen ar fywyd gwyllt ffermdir sydd mewn perygl yng Nghymru.
Wedi ei gynllunio’n dda, fe all Glastir gyflawni mwy na dim arall i helpu i adfer ein bywyd gwyllt o dan fygythiad, ond os bydd wedi ei gynllunio’n sâl, fe all olygu prinhad mwy o’n bywyd gwyllt.
Ymunwch â ni i ddangos i Lywodraeth Cymru mor bwysig yw cefn gwlad i chi drwy e-bostio’r Gweinidog Alun Davies heddiw. Gadewch i’r Gweinidog wybod mae eich dymuniad yw gweld Llywodraeth Cymru yn cymryd y cyfle yma i ymateb i Sefyllfa Byd Natur!

Dweud eich dweud
I’ch helpu rydym wedi paratoi patrymlun o e-bost (isod) i Alun Davies, y Gweinidog sydd yng ngofal y polisi hwn – gallwch sicrhau bod prif linell y pwnc a’r neges ei hun yn fwy personol i chi er mwyn helpu i gynyddu ei effaith. Pam na wnewch chi gynnwys rhywbeth am eich atgofion a’ch profiadau o fyd natur a pham ei fod yn golygu cymaint i chi?

Gallwch rhoi'r e-bost hwn i mewn i’r ffurflen ymateb a geir ar y cyswllt hwn.

Pwnc: Buddsoddi mewn ffermio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt

Annwyl Weinidog,
Rydw i’n falch o allu cysylltu â chi cyn eich adolygiad arfaethedig o’r cynllun Glastir.
Rydw i’n bryderus bod bywyd gwyllt ffermdir Cymru mewn perygl difrifol. O ganlyniad i brinhad parhaol yn y cynefin rydym wedi colli 97% o’n dolydd llawn blodau gwyllt ac mae 20% yn llai o adar ffermdir erbyn hyn nag oedd yma 20 mlynedd yn ôl. Bellach nid yw’r durtur dorchog na’r bras yr ŷd yn nythu yng Nghymru. Fe fyddwch eisoes yn ymwybodol o’r prinhad yma ac enghreifftiau eraill o brinhad a drafodir yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur.


Mae adolygiad arfaethedig Glastir yn cyflwyno cyfle i sicrhau adferiad bywyd gwyllt ffermdir.
Pwysaf arnoch i sicrhau bod:


• Llywodraeth Cymru’n ymrwymo’r swm uchaf o arian a ganiateir i Glastir i helpu ffermwyr sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt wella ein cefn gwlad dros fyd natur
• Glastir yn gwarantu bod bywyd gwyllt ffermdir yn cael pob dim sydd ei angen arno i ffynnu
• Glastir yn dod yn rhan allweddol o gynllun ehangach i wrthdroi prinhad bywyd gwyllt erbyn 2020.
Mae 80% o dir Cymru’n cael ei ffermio. Mae Glastir felly’n angenrheidiol er mwyn arafu a gwrthdroi prinhad bywyd gwyllt Cymru. Rydw i’n ymbil arnoch i warantu gwelliannau i gynllun Glastir er mwyn gwireddu cefn gwlad lle all bywyd gwyllt adfer ei hun a ffynnu.

Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn ystyried fy sylwadau wrth i chi archwilio’r cynllun.