To read this blog in English please click here

I lawer o bobl, mae dyfodiad yr hydref yn golygu bod y dail ar y coed yn newid eu lliw cyn cwympo neu greu llwybrau newydd i fywyd gwyllt wthio’u ffordd trwyddynt. Gall eraill gysylltu’r hydref â sgrech y coed yn claddu mes neu ddraenogod yn llenwi eu boliau’n barod am y gaeaf caled sydd o’u blaen. Ond i staff RSPB Ynys Dewi, fodd bynnag, mae dyfodiad yr hydref yn golygu ei bod yn amser i’r morloi llwyd gyrraedd glannau’r ynys i eni eu lloi.

Llun gan Lisa Morgan: Morlo llwyd ar RSPB Ynys Ddewi.

Gall arfordir Sir Benfro frolio’r boblogaeth fwyaf o forloi llwyd yr Iwerydd sy’n magu ym Môr Iwerddon a De-orllewin Prydain, ac mae RSPB Ynys Dewi yn gofalu am y gyfran fwyaf o’r boblogaeth yn y rhan hon o’r wlad. Mae’r prif dymor geni ar RSPB Ynys Dewi rhwng diwedd Awst a diwedd mis Hydref, sy’n golygu bod yr hydref yn gyfle perffaith i gael gweld y digwyddiad naturiol hyfryd hwn drosoch eich hun.

Mae morloi llwyd yn geni eu lloi ar draethau agored RSPB Ynys Dewi ac yn yr ogofau niferus a geir o amgylch yr ynys, sy’n golygu y gall fod yn anodd gwybod faint yn union o loi sy’n cael eu geni bob blwyddyn. Yr hyn yr ydym yn ei wneud, fodd bynnag, yw cyfrif nifer y lloi ar y traethau mawr er mwyn rhoi syniad i ni o gyflwr y boblogaeth yn gyffredinol. Gan ddefnyddio’r dull cyfrif hwn, gellir gweld cyfartaledd o 320 o loi ar RSPB Ynys Dewi bob blwyddyn. Er hynny, rydym yn credu bod y rhain yn cyfrif am tua 50% yn unig o gyfanswm y lloi sy’n cael eu geni ar yr ynys, sy’n golygu y gallai’r ffigwr fod cymaint â 500 – 760 o loi.

Mae cymaint o forloi’n dod i RSPB Ynys Dewi bob blwyddyn i eni eu lloi fel eu bod yn eu geni yn y mannau mwyaf annhebygol ac annisgwyl. Pob blwyddyn, bydd pump neu chwech o forloi benyw yn geni eu lloi yn harbwr prysur yr ynys, heb gymryd dim sylw o gychod, pobl, cŵn defaid a beiciau modur pedair olwyn – gydag un wedi’i gweld y llynedd yn geni ei llo o flaen 40 o blant ysgol! Ar ôl storm fawr, gall morloi ddiweddu ar risiau’r harbwr a bydd yn rhaid i ymwelwyr gamu drostynt bron pan fyddant yn cyrraedd. Dyma pryd y bydd yn rhaid i staff RSPB Ynys Dewi orfod defnyddio coes brwsh weithiau i atal y mamau sy’n magu rhag brathu coesau’r ymwelwyr.

Pan gânt eu geni, bydd y lloi’n pwyso 14kg ar gyfartaledd. Ond, erbyn iddynt gael eu diddyfnu ac wedyn eu gadael gan eu mamau pan fyddant rhwng 16 a 18 diwrnod oed, bydd eu pwysau wedi codi’n gyflym i gyfartaledd o 45kg. I gyflawni’r gamp ryfeddol hon, rhaid i’r mamau gynhyrchu 2.5 litr o laeth llawn braster bob dydd i gynnal eu llo. Ac i godi eu teulu ifanc, bydd mamau’n llosgi tua 30,000 o galorïau'r dydd - mae hynny’n cyfateb i bobl yn bwyta 285 o fananas bob dydd!

Llun gan Lisa Morgan: Morlo llwyd a'i ifanc ar RSPB Ynys Ddewi.

Mae llawer o forloi RSPB Ynys Dewi yn greaduriaid deddfol iawn, gan eni eu lloi ar yr un traeth, ar yr un diwrnod, bob blwyddyn. Bydd rhai, fodd bynnag, yn penderfynu symud rhwng safleoedd, gyda rhai’n symud i’n hynys gyfagos yn Skomer. I helpu i adnabod y morloi benyw o un flwyddyn i’r llall, mae wardeniaid RSPB Ynys Dewi yn defnyddio darn clyfar o feddalwedd ‘ysbio’, lle mae lluniau’n cael eu tynnu er mwyn dadansoddi eu smotiau a’u marciau unigryw. Yna os gwelir yr un morlo llwyd eto bydd y meddalwedd yn adnabod y marciau, gan alluogi staff RSPB Ynys Dewi i ddeall symudiadau’r anifeiliaid y tu allan i’r tymor geni. Mae morloi’r ynys wedi cael eu gweld cyn belled i’r gogledd ag Ynys Môn a chyn belled i’r de â Chernyw. Fodd bynnag, hyd yn oed heb y meddalwedd, gall Warden RSPB Ynys Dewi, Lisa Morgan, adnabod dros 250 o forloi unigol, dim ond trwy edrych arnynt!

Mae tymor magu’r morloi ar yr ynys yn denu llawer o ymwelwyr undydd yn ystod yr hydref. Efallai bod ein hadar môr enwog wedi ein gadael i dreulio’r gaeaf ar y môr, ond daw’r hydref â channoedd o forloi llwyd i RSPB Ynys Dewi yn eu sgil o bob cwr o Fôr Iwerddon. A dyna pam y mae RSPB Ynys Dewi yn aros ar agor tan ddiwedd mis Hydref pob blwyddyn.

Am wybodaeth ar ymweld â’r ynys tan ddiwedd mis Hydref, e-bostiwch ramsey.island@rspb.org.uk