Mae lleoliadau gorau Cymru ar gyfer natur hefyd yn dal symiau enfawr o garbon - dyma reswm arall dros eu gwarchod

English version available here

Blog gwadd gan Julian Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus RSPB Cymru

Yn gynharach y mis hwn, ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, trefnodd RSPB Cymru a WWF Cymru ddigwyddiad yn y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i dynnu sylw at yr angen dybryd i weithredu i sicrhau bod natur yn gallu cael ei hadfer a ffynnu unwaith eto. Roedd yn achlysur i godi'r galon gan fod yna deimlad gwirioneddol bod gwleidyddion wedi bod yn gwrando ar bryder y cyhoedd am yr argyfwng yn yr hinsawdd a'r angen am adferiad natur.

Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd gwyddonwyr yr RSPB “fap hanes carbon”, sy'n dangos bod y lleoliadau gorau ar gyfer natur yn y DU hefyd yn dal symiau enfawr o garbon. Pe bai'r carbon hwn yn cael ei golli i'r atmosffer, byddai'n cyfateb (yn geidwadol iawn) i ddau gigaton o CO2, sef yr un faint â phedair blynedd o allyriadau CO2 y DU.

Mae'r map dangosol yn dangos ble mae'r prif leoliadau hyn. Mae ein mawndiroedd, ein coetiroedd sy'n gyfoeth o fyd natur, ein glaswelltir helaeth a'n gwastadeddau llaid arfordirol a'n morfeydd heli ar frig y cynefinoedd hynny sydd orau am natur a dal carbon. Yng Nghymru, mae ardaloedd mawr fel ucheldiroedd Eryri, Mynydd Hiraethog, Elenydd-Mallaen a Bannau Brycheiniog, a gwlypdiroedd arfordirol fel Cilfach Tywyn ac aber yr Afon Dyfrdwy i'w gweld ar y map. Ond wrth i chi chwyddo'r map, mae yna lu o leoliadau llai sy'n bwysig ar gyfer natur a charbon, rhywle sy'n agos i'ch cartref chi ble bynnag yng Nghymru rydych chi'n byw.

Ar lefel y DU, mae ein mapio yn dangos bod dwy ran o dair o'r carbon hwn i’w ganfod y tu allan i'n safleoedd natur gwarchodedig. Hyd yn oed ar y safleoedd hyn, mae cyflwr cynefin gwael yn aml yn golygu bod carbon wedi'i storio yn cael ei golli i'r atmosffer - ffaith sydd wedi cael sylw manwl yng nghyd-destun mawndiroedd. Yng Nghymru, mae Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol 2016 yn dangos bod 63% -73% o fynydd-dir, rhostir a gweundir mewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) mewn cyflwr anffafriol - a dyma'r lleoliadau sy'n cael eu cydnabod fel y rhai pwysicaf ar gyfer natur.

Mae ein mapiau'n nodi'n glir yr hyn sydd angen ei wneud, ond hefyd yn darparu enghreifftiau gwych o sut mae rheoli tir ar gyfer natur eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, mae RSPB Cors Ddyga, un o'n gwarchodfeydd natur ar Ynys Môn, yn SoDdGA ac mae rhan helaeth ohono dan reolaeth amaethyddol. Mae hynny'n helpu i sicrhau ac i atgynhyrchu prosesau naturiol sy'n hanfodol ar gyfer carbon a bywyd gwyllt fel cornicyllod, adar y bwn, bodaod y wern, dyfrgwn a llygod y dŵr.

Mae ein mapiau'n defnyddio data sydd ar gael i'r cyhoedd ac sy'n ddangosol. Mae modd eu gwella i ddiffinio'n fwy cywir yr ardaloedd hynny sydd bwysicaf ar gyfer natur a charbon ar lawr gwlad, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cofleidio'r dull hwn. Yn wir, hoffem iddo gael ei ymestyn i gynnwys ardaloedd 'carbon glas' yn yr amgylchedd morol, fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo iddo. Gyda mapio gwell, gallwn nodi a diogelu ein holl leoliadau sy'n dal carbon a natur gyfoethog, eu hintegreiddio i mewn i waith cynllunio a diogelu'r tir a'r môr, a rhoi blaenoriaeth iddynt ar gyfer adfer cynefinoedd.

Mae angen ariannu adferiad cynefinoedd yn iawn ac mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru am ei bwriad i greu cynllun ffermio cynaliadwy ar ôl Brexit yn rhoi cyfle sylweddol ar gyfer dod o hyd i gyfalaf a'r gwaith rheoli parhaus sydd eu hangen yn y dyfodol. Mae'n achos amlwg o arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus. Dylai ffermwyr sy'n rheoli eu tir mewn ffyrdd sy'n gynaliadwy i fyd natur gael eu cydnabod a'u talu am hynny. Bydd angen arian newydd yn lle cyllid LIFE yr UE hefyd er mwyn parhau â phrosiectau arloesol sy’n adfer ac yn addasu cynefinoedd.

Mae angen i ni fonitro cyflwr ac adferiad cynefinoedd yng Nghymru yn briodol fel y gallwn fesur y manteision ar gyfer natur a dal carbon a datblygu a rhannu arferion gorau. Ac mae yna bethau y dylem eu gwneud ar unwaith, gan weithredu yn syth lle rydym eisoes yn gwybod sut gallem elwa, fel atal llosgi ar mawndiroedd.

Mae'r argyfwng hinsawdd yn real ac yn heriol i bobl a bywyd gwyllt. Felly, mae datblygu dulliau o reoli tir sy'n dal carbon a lle mae byd natur ar ei ennill yn rhywbeth cwbl amlwg i'w wneud. Mae ein mapiau yn cynnig dadl rymus bod yn rhaid i ni ofalu am y lleoliadau gwerthfawr hynny sy'n hanfodol ar gyfer diogelu ac adfer natur ac ar gyfer ymladd newid yn yr hinsawdd.

Awgrymwn yn gryf eich bod yn cymryd golwg ar y map er mwyn darganfod mwy am garbon mewn ardaloedd sy'n gyfoeth o fywyd gwyllt, ac i chwyddo'r map o amgylch y lleoliadau hynny sy'n bwysig i chi - ac yn bwysig i fyd natur yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth am y ‘map hanes carbon’ ym Mhrydain, cysylltwch ag Olly.Watts@rspb.org.uk