Mae’n bryd ffarwelio!

English version available here

Gwyddom ein bod yn croesawu adar mudol yma yng Nghymru, sy’n ymweld â ni am rai misoedd o’r flwyddyn. Ond ydych chi erioed wedi meddwl i ble mae'r adar hynny’n mynd pan fyddan nhw’n ein gadael ni am borfeydd brasach? Gadewch i ni edrych yn agosach ar y lleoliadau y mae rhai o’n ffrindiau pluog yn hedfan iddynt...

Yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, mae llursod yn ymweld â chreigiau Ynys Lawd yr RSPB. Mae llursod, ynghyd â gwylogod a phalod, yn denu tua 250,000 o ymwelwyr i’r warchodfa bob blwyddyn. Pwrpas eu hymweliad ag Ynys Lawd yw nythu a magu eu cywion, cyn mentro i foroedd oer gogledd yr Iwerydd dros fisoedd y gaeaf. Byddan nhw’n treulio'r rhan fwyaf o’r amser hwnnw ar wyneb y dŵr, yn deifio am fwyd.



Nid yn unig mae llurs yn rhywogaeth gyfarwydd a phoblogaidd ar arfordir Môn, mae cysylltiad hefyd rhwng dyfodol llursod ac iechyd ein hamgylchedd morol. Byddai asesiadau risg diweddar ar gyfer Morlais, prosiect ynni'r llanw i'r gorllewin o Ynys Môn, yn gallu llwyr ddinistrio'r boblogaeth llursod ar Ynys Lawd – gallai’r niferoedd ostwng 97%.

Mae Telor yr hesg yn ymweld ag RSPB Conwy ers amser maith. Mae Telor yr hesg yn aderyn bach a llond ei groen, gyda streipen lydan amlwg mewn lliw hufen uwchben ei lygad a choesau llwydfrown. Mae’n cyrraedd ym mis Ebrill ar ôl teithio o Affrica, ac yn nythu yng nghaeau Conwy tan fis Awst, cyn ein gadael unwaith eto am wres y gwledydd i'r de o Anialwch y Sahara.

Mae Gwybedogion brith yn bridio yng nghoedwigoedd derw RSPB Ynys Hir, ac yn cyrraedd Cymru tua mis Ebrill. Du yw lliw’r got ar rannau uchaf y gwryw, gyda’r rhannau oddi tanodd yn wyn, a darn gwyn amlwg ar yr adenydd. Mae’r benywod yn fwy brown, ond mae’r ddau ychydig yn llai nag aderyn y to. Ar ôl treulio misoedd cynnes yr haf yma yn Ynys Hir, byddan nhw’n mentro i arfordiroedd dwyreiniol Prydain. Dyma fydd eu lleoliad olaf, cyn cychwyn ar eu taith arwrol i Orllewin Affrica.



Yng nghoetiroedd RSPB Llyn Efyrnwy tua mis Ebrill, rydym yn croesawu telor y coed, sy’n aderyn trawiadol. Bydd yn treulio misoedd yr haf mewn coetiroedd cymysg, agored a thal, cyn ein gadael tua diwedd mis Awst neu fis Medi. Bydd yn hedfan i wledydd i’r de o’r Sahara, fel Ghana. Yn ddiddorol iawn, mae telor y coed yn chwilio am fathau gwahanol o gynefin yn y fan honno, o’i gymharu â’i gyfnod yng Nghymru. Gallwch ddarllen mwy yn y fan yma am sut mae telor y coed yn treulio ail hanner y flwyddyn yn Affrica. 

Bydd Pedrynnod Drycin yn hedfan ar draws y moroedd, yn dilyn llongau dreillio wrth iddyn nhw deithio’n ôl ac ymlaen i RSPB Ynys Dewi, sy’n lleoliad bridio i rai tua mis Mai. Pan fydd eu cywion wedi gadael y nyth, bydd y pedrynnod drycin yn gadael yr ynys tua mis Medi ac yn cychwyn ar daith i’r de, nes cyrraedd y dyfroedd oddi ar arfordir De Affrica. 



Y llynedd, roedd RSPB Cymru yn falch o gydweithio â Chymdeithas Adar Morgannwg i godi Tŵr Gwenoliaid, er mwyn ceisio atal y gostyngiad yn nifer y gwenoliaid sy’n ymweld â’n prifddinas ac yn nythu yno. Mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers 1995, a gan mai mewn hen adeiladau neu eglwysi mae gwenoliaid yn dewis nythu, maen nhw’n dod yn llai amlwg mewn dinas fodern fel Caerdydd sy’n newid yn gyson. A dyna pam mae’r tŵr ym Mae Caerdydd wedi bod yn hafan i’r gwenoliaid rhag realiti’r ddinas sy’n newid o hyd.