Am ferswin Saseneg o'r blog yma, cliciwch yma os gwelwch yn dda. 

Heno, yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, bydd cynrychiolwyr 19 o gyrff cadwriaethol yn dod ynghŷd i gynnal noson i gyflwyno eu hadroddiad Ymateb dros Natur: Cymru.

Mae’r Ymateb yn dilyn yr adroddiad arloesol Sefyllfa Byd Natur, a gyhoeddwyd yn 2013 gan gynghrair o brif gyrff cadwraeth ac ymchwil. Er gwaethaf llwyddiannau cadwraeth nodedig yn y blynyddoedd diwethaf, daeth yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur i’r casgliad bod bywyd gwyllt yn y DU mewn gwir argyfwng, gyda mwy nag un o bob deg o’r holl rywogaethau a aseswyd mewn perygl o ddiflannu o’r tir [nodyn 1]. Mae gan hyn oblygiadau pwysig i bob un ohonom: o’n llesiant, i atal llifogydd a pheillio ac ar ran cynaladwyedd a chynhyrchiant economi Cymru. Mae’n amlwg bod gwir angen gweithredu ar frys.

Dengys yr adroddiad Ymateb dros Natur: Cymru bod angen rhoi rhai gweithrediadau positif ar waith i warchod planhigion a bywyd gwyllt gwerthfawr Cymru fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu mwynhau. Ymysg y rhain mae darparu rhwydwaith o leoedd arbennig i natur, gweithredu deddfau cadwraeth presennol yn llawn a defnyddio Bil yr Amgylchedd – sydd wrthi’n mynd trwy’r Cynulliad – i greu mwy o ymdrech i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.

Meddai Colin Cheesman, Rheolwr Rhaglen Plantlife Cymru: “Mae Cymru’n wlad mor hardd fel ein bod ambell dro’n gallu ei chymryd yn ganiataol. Weithiau mae hi’n anodd sylwi cymaint yr ydym yn ei golli o’n byd naturiol, gan ein bod yn cymryd mwy ohono nac yr ydym yn ei roi’n ôl. Nid yw hyn yn gynaliadwy o gwbl. Fel y byddai unrhyw un sydd â cherdyn credyd yn ei ddweud wrthych, os byddwch yn dal i fenthyg mwy nag allwch chi ei fforddio, cyn bo hir byddwch wedi cyrraedd uchafswm eich cerdyn. Dyna beth ydym yn ei wneud i amgylchedd Cymru a’i bywyd gwyllt. Ond os weithredwn ni’r cynigon yn Ymateb dros Natur: Cymru nawr, gallwn sicrhau bod Cymru’n lle llawer mwy cyfoethog i fyw ynddi; i ni, i genedlaethau’r dyfodol ac i fyd natur.” 

Mae partneriaid Ymateb dros Natur, sy’n cynrychioli ystod eang o gyrff cadwriaethol, wedi nodi nifer o weithrediadau a mentrau y mae angen eu gweithredu, yn enwedig gan y Llywodraeth a’r sector cyhoeddus, er mwyn ymateb i sefyllfa byd natur. Fe fyddan nhw’n rhannu’r adroddiad gyda gwleidyddion, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau, academyddion a busnesau, ac yn galw arnyn nhw i ymrwymo i’r gweithrediadau angenrheidiol i wrthdroi tynged byd natur Cymru. Mae partneriaeth Ymateb dros Natur yn cynnal digwyddiadau tebyg yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Yn ôl Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: “Rydym yn colli natur yn hynod o gyflym, felly mae’n rhaid i ni weithredu nawr i ddod â’r colledion i ben a’u gwrthdroi cyn y bydd yn rhy hwyr - nid yn unig i fyd natur ei hun, ond i bobl hefyd. Mae 40% o goedlannau derw ucheldir y DU yng Nghymru, cynefin hardd na allwn ei golli ac sy’n bwysig yn rhyngwladol – dyma goedwiglaw Cymru. Mae un o bob chwech o blanhigion Cymru mewn perygl o ddiflannu. Mae bron i ddau draean o loÿnnod byw Cymru’n prinhau. [Nodyn 1] Mae’r rhain yn ganfyddiadau dychrynllyd. Heb weithredu, efallai na fydd teuluoedd Cymru’n gallu crwydro’r coedlannau hyn fel y gwnaeth ein cyndeidiau, na chwaith gwylio’r glöyn byw bach hardd, y trilliw bach, na chlywed galwad y frân goesgoch ar ein clogwyni arfordirol, nac arogleuo dôl sy’n llawn o flodau gwyllt.

“Mae’n amlwg bellach bod byd natur Cymru mewn perygl mawr. Ond mae’n amlwg hefyd bod modd i ni wneud rhywbeth i wrthdroi hyn. Os bydd ein llywodraeth a ninnau fel cymuned yn gweithredu nawr, gallwn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i elwa a mwynhau’r byd natur rhyfeddol sydd ar riniog eu drws.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys gofynion allweddol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru:

  • Sefydlu gweledigaeth ysbrydoledig dros fyd natur
  • Gweithredu’n llawn ac amddiffyn y deddfau sy’n gwarchod byd natur
  • Gwireddu rhwydwaith o leoedd arbennig i fyd natur
  • Adfer rhywogaethau mewn perygl
  • Gwella cysylltiad pobl ifanc â byd natur
  • Defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer hybu byd natur
  • Sicrhau bywyd newydd i’n hamcanion llesiant
  • Cefnogi pobl sy’n cydweithio dros fyd natur

Meddai Rachel Sharpe, Prif Weithredwr Cymdeithasau Byd Natur Cymru: “Rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym rhai o’r llefydd awyr agored gorau yn y byd. Ond, yn rhyfeddol, nid yw un o bob pedwar plentyn byth yn chwarae yn yr awyr agored. Hefyd, plant Cymru sydd â’r cysylltiad lleiaf â byd natur yn y DU; does gan ychydig o dan 90% ddim cysylltiad â’r byd naturiol [nodyn 2]. Rydym yn gwybod bod plant yn elwa o ran eu hiechyd a’u llesiant o fod ym myd natur ac yn rhan ohono, yn ogystal ag oedolion [nodyn 3]. Dyna pam mai un o argymhellion yr adroddiad yw y dylid buddsoddi o leiaf 1% o gyllideb iechyd y cyhoedd mewn sicrhau, erbyn 2018, bod gan bob un ohonom fynediad rhwydd i amgylcheddau iach a bywiog.

Meddai Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth y corff Cadwraeth Gloÿnnod Byw Cymru: “Mae’n amlwg bod pobl yn gwerthfawrogi byd natur, ac mae 94% o boblogaeth y DU yn cytuno bod rhaid i ni ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben [nodyn 4]. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn y daith hon. Wrth gydweithio mewn partneriaeth gallwn ddarparu cartref i fyd natur, a chreu cysylltiad â bywyd gwyllt Cymru fydd yn parhau.”

Meddai Steve Lucas, Swyddog Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod Cymru: “Mae byd natur yn bwysig ac rydym yn freintiedig ein bod yn gallu mwynhau ein bywyd gwyllt rhyfeddol ac unigryw yma yng Nghymru. Mae pobl yn teithio o bob cwr o’r byd i fwynhau’r byd natur trawiadol sydd gennym yma, gan gyfrannu miliynau i economi Cymru. Mae angen i ni gydweithio i sefydlu gweledigaeth sy’n ysbrydoli er mwyn sicrhau y gallwn barhau i fwynhau ac elwa o bob dim y mae byd natur yn ei roi i ni, yn awr ac yn y dyfodol.”

Steve Lucas, Swyddog Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod Cymru, fydd yn agor y digwyddiad, ac yn dilyn bydd areithiau gan Peter Davies, Comisiynydd cyntaf Cymru dros Ddyfodol Cynaliadwy, Matthew Quinn, Cyfarwyddwr Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru, a Caty Antunes, sy’n 15 oed, a fydd yn cyflwyno ei syniadau ei hun ynglŷn â beth mae byd natur yn ei olygu iddi hi.

Yn olaf, dywed Steve Lucas: “Mae partneriaid Ymateb dros Natur: Cymru yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bywyd newydd i’n byd naturiol.”

 

Cynhyrchwyd yr adroddiad Ymateb dros Natur: Cymru mewn cydweithrediad gan y 19 o gyrff a restrir isod:

  • Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid
  • Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod
  • Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon
  • Buglife
  • Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn
  • Cadwraeth Gloÿnnod Byw
  • Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol
  • Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw
  • Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ffwng
  • Canolfannau Cofnodion Lleol Cymru
  • Cymdeithas Mamolion
  • Cymdeithas Cadwraeth y Môr
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau Mewn Perygl
  • Plantlife Cymru
  • Y Gymdeithas Frenhinol dros Warchod Adar (RSPB) Cymru
  • Ymddiriedolaeth Morfilod a Dolffiniaid
  • Ymddiriedolaeth Adar Dŵr a Gwlyptiroedd
  • Cymdeithasau Bywyd Gwyllt Cymru 

Mae croeso ichi gysylltu gyda ni os hoffech chi fwy o wyboadaeth am yr adroddiad, drwy ebostio cymru@rspb.org.uk. Neu dilynnwch ni ar Facebook RSPB Cymru neu Twitter @RSPBCymru