Mae’n rhaid i ladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon yng Nghymru ddod i ben, meddai adroddiad Birdcrime

English version available here

 

  • Mae adroddiad Birdcrime yn datgelu bod 1,529 o achosion o erlid adar ysglyfaethus wedi’u cadarnhau rhwng 2009 a 2023, gyda 102 o’r rheini yng Nghymru.

  • Mae’r gweithredoedd troseddol hyn yn targedu rhywogaethau sydd dan fygythiad, gan gynnwys y Barcud Coch, Gweilch Marthin a’r Boda Tinwyn.
  • Mae RSPB Cymru unwaith eto yn galw ar Lywodraeth Cymru i drwyddedu rhyddhau adar hela, fel yr argymhellwyd gan ei chynghorydd natur ei hun dros flwyddyn yn ôl, i fynd i’r afael ag erlid adar ysglyfaethus a difrod amgylcheddol cysylltiedig arall.

 

Mae adar ysglyfaethus fel y Barcud Coch, Gwelich Marthin a’r Boda Tinwyn yn dal i gael eu lladd yn greulon ac yn anghyfreithlon yng Nghymru, a gwenwyno yw’r dull mwyaf cyffredin a ddefnyddir.

Mae adroddiad Birdcrime, a gyhoeddwyd heddiw (23 Hydref), yn datgelu bod 1,529 o achosion o erlid adar ysglyfaethus wedi’u cadarnhau rhwng 2009 a 2023, yn cynnwys 1,344 o adar ysglyfaethus unigol. Digwyddodd 102 o’r achosion hyn yng Nghymru.

Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod troseddau’n cael eu cyflawni ar raddfa sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n destun pryder mai dim ond crafu’r wyneb mae’r ffigurau hyn gan fod llawer o’r digwyddiadau yma yn digwydd mewn ardaloedd di-bobl, lle nad ydynt yn cael eu canfod a lle nad ydynt yn cael eu hadrodd.

Mae’r holl adar ysglyfaethus wedi’u gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Ac eto, yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, dim ond un person ledled y DU sydd wedi cael ei garcharu, ac nid oes neb yng Nghymru. Nid yw’r cyfreithiau presennol yn ffordd effeithiol o atal na chosbi’r troseddau hyn.

O’r 102 o achosion hysbys yng Nghymru, roedd dwy ran o dair yn ymwneud â gwenwyno. Mae gosod abwyd wedi’i wenwyno, sy’n hynod o beryglus i bobl ac anifeiliaid anwes, wedi bod yn anghyfreithlon ers dros 100 mlynedd, ond mae’n dal yn dechneg gyffredin sy’n cael ei defnyddio i ladd adar ysglyfaethus.  

Yn 2012, bu’r RSPB yn ymwneud â’r achos mwyaf arwyddocaol erioed o wenwyno bywyd gwyllt a gofnodwyd yng Nghymru pan ddaethpwyd o hyd i wyth Bwncath, pum Barcud Coch a dwy Gigfran, ynghyd â nifer o abwydau ffesantod, ar ystâd saethu ffesantod ym Mhowys. Er bod tystiolaeth glir o sawl trosedd o erlid adar ysglyfaethus, nid oedd digon o dystiolaeth i erlyn.  

O ganlyniad i ddigwyddiadau o’r fath, yn 2020, ehangodd Tîm Ymchwiliadau’r RSPB i gynnwys Swyddog Ymchwiliadau i weithio’n benodol i herio erledigaeth adar ysglyfaethus yng Nghymru, drwy ganfod a chofnodi troseddau a chynorthwyo gydag ymchwiliadau’r heddlu.

Mae’r rhan fwyaf o achosion o erlid adar ysglyfaethus yn gysylltiedig â thir sy’n cael ei reoli ar gyfer saethu adar hela, lle mae rhai unigolion yn targedu adar ysglyfaethus yn fwriadol er mwyn cynyddu nifer yr adar hela sydd ar gael i’w saethu ar gyfer difyrrwch. Mae astudiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid yn dangos bod y tebygolrwydd o ddigwyddiad erlid adar ysglyfaethus yng Nghymru dair gwaith yn uwch mewn ardaloedd lle cynhelir digwyddiadau gyrru adar hela i’r awyr i’w saethu, sydd ar gael i’w gwerthu i gleientiaid hoff o hela.

Mae’r RSPB hefyd yn defnyddio technoleg tagiau lloeren i daflu goleuni ar raddfa’r erledigaeth a wynebir gan y Boda Tinwyn. Mae’r data amser real a geir o’r tagiau hyn yn rhoi cipolwg nad oedd ar gael o’r blaen ar ble mae’r adar yn mynd ac, yn hollbwysig, pryd a ble maen nhw’n marw. Mae wedi datgelu bod mwy o’r Boda Tinwyn wedi cael eu lladd ym Mhrydain yn 2023 nag mewn unrhyw flwyddyn flaenorol.

Mae RSPB Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru, a gweinyddiaethau mewn mannau eraill yn y DU, i gyflwyno trwyddedu saethu adar hela. Cwblhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad mawr o dystiolaeth yn 2023 ac argymhellodd i Lywodraeth Cymru y dylai fod angen trwydded ar ddigwyddiadau saethu adar hela i ryddhau ffesantod a Phetris Coesgoch er mwyn lleihau amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol. Roedd o’r farn bod rheoleiddio gwirfoddol yn unig yn annigonol i fynd i’r afael â’r rhain.

Meddai Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: “Ers degawdau, mae’r RSPB wedi ymchwilio i gannoedd o achosion o erlid adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon yn y DU. Mae cyfran sylweddol o’r achosion hyn yn digwydd ar dir neu gerllaw tir sy’n gysylltiedig â saethu adar hela. Mynegodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â rheoli adar hela yn 2022 a derbyniodd argymhellion gan ei chynghorydd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Hydref 2023. Flwyddyn yn ddiweddarach, nid ydym wedi gweld dim gweithredu. Mae angen i ni weld diwedd ar ladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon.”

 

Dywedodd Mark Thomas, Pennaeth Ymchwiliadau RSPB y DU: “Mae ein hadroddiad diweddaraf yn rhoi manylion dirdynnol am yr hyn mae’r tîm yn ei weld o ddydd i ddydd: maint yr erlid ar adar ysglyfaethus, lle mae’n digwydd a phwy sy’n gyfrifol. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae o leiaf 1344 o adar anhygoel fel y Boda Tinwyn, y Barcud Coch a’r Eryr wedi cael eu lladd yn fwriadol, y mwyafrif yn gysylltiedig â saethu adar hela – mae hynny’n warth sy’n galw am weithredu brys gan y llywodraeth.

“Mae’r cynefin gwerthfawr sydd gan Gymru i’w gynnig yn golygu ei fod yn gadarnle sylweddol i lawer o adar ysglyfaethus, ond mae erledigaeth yn golygu bod bygythiad i adferiad parhaus llawer o’r rhywogaethau hyn. Drwy ymrwymo ar lawr gwlad a galw am newid deddfwriaethol, rydyn ni’n benderfynol o roi terfyn ar y troseddau barbaraidd hyn. Rhaid rhoi’r gorau i wenwyno, dal a saethu’r adar gwych hyn nawr. Mae’n amlwg nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn ddigon i achub ein bywyd gwyllt.”

 

I ddarllen yr adroddiad ar-lein, ewch i: rspb.org.uk/birdcrime