Mae hi’n amser Gwylio Adar yr Ardd 2022

English version available here.

Mae nifer o bobl yn gweld mis Ionawr a’r Flwyddyn Newydd fel cyfle i ddechrau o’r newydd. Yn ein hachos ni, ac i filoedd o bobl eraill ledled Cymru sy’n cymryd rhan yn ymgyrch Gwylio Adar yr Ardd, mae hyn yn sicr yn wir.

Ar benwythnos olaf mis Ionawr, byddwn yn llenwi ein teclynnau bwydo ac yn rhoi’r tegell ymlaen, cyn eistedd i lawr am awr yn barod i gyfrif yr adar sy’n ymweld â’n gerddi, sy’n dod ar ein balconïau neu sy’n chwilio am fwyd yn ein mannau gwyrdd.

A pham ydyn ni’n gwneud hyn? Oherwydd ei fod yn hwyl? Ie! Oherwydd ei fod yn ddiddorol? Wrth gwrs! Ond mae hefyd yn bwysig iawn i’n gwaith ac i statws cadwraethol adar yr ardd.

Gwyddoniaeth i Ddinasyddion ar ei orau

Mae ymgyrch Gwylio Adar yr Ardd, sy’n cael ei gynnal yng nghanol y gaeaf pan fydd adar yr ardd yn dibynnu fwyaf ar chwilota am fwyd yn ein gerddi, yn gyfle euraid i ni weld yn union sut maen nhw’n ymdopi. Yn wir, hwn yw’r prosiect gwyddoniaeth mwyaf i ddinasyddion yn y DU, lle rydyn ni’n cymryd sampl fechan o gannoedd o filoedd o erddi, balconïau a mannau gwyrdd i weld pa adar sy’n gwneud yn dda a pha rai y bydd angen ein cymorth cadwraeth arnyn nhw yn y dyfodol.

Dyma ffordd hawdd o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, sydd hefyd yn ffordd uniongyrchol a syml iawn o gasglu data a fydd yn ein helpu i ddeall pa adar sy’n cael trafferthion, a rhoi ein sylw iddyn nhw. Mae’r canlyniadau fel arfer yn gymysg o ran newyddion – er ein bod yn aml yn gweld cynnydd calonogol yn niferoedd rhai adar (mae’r nico wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod y degawd diwethaf), rydyn ni hefyd yn gweld bod adar eraill yn wynebu sefyllfa drist. Mae niferoedd y llinos werdd a’r ji-binc wedi gostwng yn ddifrifol dros y degawd diwethaf, ac mae cysylltiad cryf rhwng y dirywiad hwn â’r clefyd trichomonosis sy’n cael ei ddal yn hawdd drwy declynnau bwydo adar budr.

Mae sesiynau Gwylio Adar blaenorol dros sawl degawd hefyd yn rhoi cipolwg gwych i ni ar y tueddiadau hirdymor sy’n wynebu ein hadar. Yn anffodus, rydyn ni wedi colli 38 miliwn o adar ar draws yr ynysoedd hyn yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae rhesymau amrywiol dros hyn wrth gwrs – newid yn yr hinsawdd, colli cynefin – ond er hynny mae’r niferoedd yn ddigon i’ch sobri. 

Ond dydy pethau ddim yn ddrwg i gyd. Rydyn ni wedi gweld canlyniadau calonogol ar gyfer rhai adar yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2019 gostyngodd niferoedd y titw cynffon hir yn sylweddol ar ôl storm eira fawr 2018 – dim ond i’r niferoedd wella’n rhyfeddol yn y digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yn 2020. Llwyddodd yr aderyn bach yma hyd yn oed i gadw ei le yn y deg uchaf yn ystod digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd y llynedd yn safle 9. Gwelsom gynnydd hefyd yn yr aderyn poblogaidd, y robin goch, yng nghanlyniadau’r llynedd, wrth iddo neidio tri lle i’r chweched safle.

Ar ôl i’ch awr yn gwylio adar ddod i ben ac ar ôl i chi gofnodi eich canfyddiadau, beth am brynu bathodyn pin o’r aderyn mwyaf poblogaidd yn eich gardd i gofio am yr achlysur? Mae blychau gwerthu ein bathodynnau pin ar gael mewn lleoliadau ledled Cymru, o warchodfeydd yr RSPB i siopau coffi lleol, a siop Ebay. Mae amrywiaeth o fathodynnau pin ar gael, ac maen nhw’n ffordd wych o ddangos eich bod yn cefnogi rhoi cartref i fyd natur. 

Felly, ble bynnag rydych chi a phwy bynnag ydych chi, arbenigwr neu ddechreuwr – ymunwch â ni y mis Ionawr hwn a gwneud eich rhan dros natur ar garreg eich drws – cofrestrwch yma ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd 2022!