Mae Gwylio Adar yr Ardd yn ei ôl!

English version available here

Mae mis Ionawr yn gallu bod yn rhyw fis llwyd ac anodd i lawer, wrth i ni ffarwelio â holl ormodedd y Nadolig a mynd yn ôl i drefn yn y flwyddyn newydd.

Ond rydyn ni’n hoffi meddwl bod golau ar ddiwedd y mis, gan fod Penwythnos Gwylio Adar yr Ardd yn digwydd dros y penwythnos olaf, sef 27-29 Ionawr. Byddwn yn llenwi ein teclynnau bwydo ac yn rhoi’r tegell ymlaen, cyn eistedd i lawr am awr yn barod i gyfrif yr adar sy’n ymweld â’n gerddi, sy’n bownsio ar ein balconi neu sy’n chwilio am fwyd yn ein mannau gwyrdd.

Ac er bod modd meddwl am hyn fel gweithgaredd diddorol a hwyliog – y gwir amdani yw ei fod hefyd yn bwysig iawn i’n gwaith drwy gydol y flwyddyn, ac i statws cadwraethol adar yr ardd.


Gwyddoniaeth i Ddinasyddion ar ei orau


Mae’r penwythnos Gwylio Adar yr Ardd yn cael ei gynnal yng nghanol y gaeaf pan fydd adar yr ardd yn dibynnu fwyaf ar chwilota am fwyd yn ein gerddi, a dyma gyfle euraid i ni weld yn union sut maen nhw’n ymdopi. Yn wir, dyma’r prosiect gwyddoniaeth mwyaf i ddinasyddion yn y DU, pan fyddwn ni’n cymryd sampl fechan o gannoedd o filoedd o erddi, balconïau a mannau gwyrdd i weld pa adar sy’n ymdopi’n dda a pha rai fydd angen ein cymorth cadwraethol yn y dyfodol.

Dyma ffordd hawdd o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, sydd hefyd yn ffordd uniongyrchol a syml iawn o gasglu data a fydd yn ein helpu i ddeall pa adar sy’n cael trafferthion, ac i roi ein sylw iddyn nhw. Fel arfer, mae’r canlyniadau’n gymysg o ran newyddion – er ein bod yn aml yn gweld cynnydd calonogol yn niferoedd rhai adar (mae’r Nico wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod y degawd diwethaf), rydyn ni hefyd yn gweld bod adar eraill yn wynebu sefyllfa drist.

Mae niferoedd y Llinos Werdd a’r Ji-binc wedi gostwng yn ddifrifol dros y degawd diwethaf, ac mae cysylltiad cryf rhwng y dirywiad hwn â’r clefyd trichomonosis sy’n hawdd ei ddal drwy declynnau bwydo adar budr.


Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn cadw ein teclynnau bwydo’n lân, gan eu diheintio’n rheolaidd – bob wythnos os oes modd.

Mae sesiynau Gwylio Adar dros sawl degawd hefyd yn rhoi cipolwg gwych i ni ar y tueddiadau hirdymor sy’n wynebu ein hadar. Yn anffodus, rydyn ni wedi colli 38 miliwn o adar ar draws yr ynysoedd hyn yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae rhesymau amrywiol dros hyn wrth gwrs – newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd – ond er hynny mae’r niferoedd yn ddigon i’ch sobri. 

Ond dydy pethau ddim yn ddrwg i gyd. Rydyn ni wedi gweld canlyniadau calonogol i rai adar yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y llynedd, fe welsom y Nico’n hedfan i fyny ddau safle o’r degfed i’r wythfed yn y deg uchaf sydd heb newid llawer, ac sydd hefyd wedi gweld yr Ysguthan yn dychwelyd o 12 i 10. Yn 2019, cafwyd gostyngiad aruthrol yn niferoedd y Titw Cynffon Hir yn dilyn storm eira ‘Bast From the East’ 2018 – dim ond er mwyn iddo gael dychwelyd yn y digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yn 2020.


Mae’n hawdd cymryd rhan:

  1. Gwyliwch yr adar o’ch cwmpas am awr
  2. Cyfrwch faint o bob rhywogaeth o adar sy’n glanio yn eich ardal chi
  3. Ewch ar-lein i ddweud wrthym beth welsoch chi

Ar ôl gwylio'r adar am awr ac ar ôl i chi gofnodi eich canfyddiadau, beth am brynu bathodyn pin o’r aderyn mwyaf poblogaidd yn eich gardd i gofio am yr achlysur? Mae blychau gwerthu ein bathodynnau pin ar gael mewn lleoliadau ledled Cymru, o warchodfeydd yr RSPB i siopau coffi lleol, a Siop Ebay. Mae amrywiaeth o fathodynnau pin ar gael, ac maen nhw’n ffordd wych o ddangos eich bod yn cefnogi rhoi cartref i fyd natur.

Felly, ble bynnag rydych chi a phwy bynnag ydych chi, arbenigwr neu ddechreuwr – ymunwch â ni y mis Ionawr hwn a gwneud eich rhan dros natur ar garreg eich drws – cofrestrwch yma ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd 2023!