English version available here
Un agwedd gyffrous ar weithio i amddiffyn natur yw cydweithio â sefydliadau eraill ledled Cymru a thu hwnt, a dysgu oddi wrthynt. Yn ddiweddar, fe wahoddon ni Steve Lucas, Swyddog Cymru / Arbenigwr Polisi a Deddfwriaeth ar Rywogaethau yn yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod fel ein blogiwr gwadd, i gynnig rhai geiriau doeth am y creaduriaid asgellog rhyfeddol hyn...
Y penwythnos hwn mae hi’n Galan Gaeaf. P'un ai ydych chi'n mwynhau trick or treat ai peidio, mae’r adeg hon o'r flwyddyn yn aml yn cael ei chysylltu â delweddau o fampirod a Dracula, ysbrydion a gwrachod. Felly, nid yw'n syndod o ystyried mai dyma'r adeg pan fyddai pobl yn hanesyddol yn cynnau coelcerthi ac yn gwisgo gwisgoedd i gadw ysbrydion drwg draw. Mae'r cysylltiadau ag ystlumod yn amlwg ac yn aml mae llên gwerin ledled y byd wedi rhoi enw drwg i’r ystlum.
Mae ystlumod wedi cael eu camddeall yn aml ac mae llawer o'i ystyron symbolaidd wedi’u seilio’n gamarweiniol ar ofn. Yn y traddodiad Beiblaidd, credid bod ystlumod yn negeswyr i Satan. Credai'r Piwritaniaid, pe bai ystlum yn hedfan yn agos at rywun, fod rhywun yn ceisio eu witsio.
Mae ystlumod yn famaliaid ond nid yw mamaliaid yn hedfan, ydyn nhw? Maen nhw’n hedfan yn y nos felly dydy pobl ddim yn eu gweld yn aml, ac mae eu defnydd o ecoleoli, sy’n galluogi ystlumod i hedfan mewn niferoedd enfawr gan lwyddo i bob golwg i osgoi taro yn erbyn ei gilydd, yn ychwanegu at eu natur ddirgel.
Ac eto mewn mannau eraill maent yn fawr eu parch. Mae'r Tsieineaid yn ystyried yr ystlum fel symbol o hapusrwydd. Mae'r Tsieinëeg ar gyfer ystlum (fu 蝠) yn swnio'n union yr un fath â'r gair am lwc dda (fu 福), ac mae hefyd yn golygu hapusrwydd, cyfoeth a hirhoedledd. Mae pum ystlum gyda’i gilydd yn cynrychioli’r ‘Pum Bendith’ (wufu 五福): oes hir, cyfoeth, iechyd, cariad at rinwedd a marwolaeth heddychlon. I lwythau Indiaidd gogledd-orllewin yr Unol Daleithiau, mae ystlumod yn symbolau o ddiwydrwydd, tra yn y Gwastadeddau Mawr fe wnaethant roi doethineb i’w pobl. Mae gan y cysylltiad â thywyllwch a marwolaeth hefyd wreiddiau mewn ogofâu hefyd oherwydd mewn llawer o ddiwylliannau, ogofâu oedd y porth i wlad marwolaeth. Ac eto ym Mecsico, maent yn cynrychioli marwolaeth ac aileni - mae ystlumod yn mynd o dan y ddaear yn gynnar yn y bore, ac yna'n ymddangos eto bob nos ac felly’n cael eu haileni.
Ac yn fwy diweddar, mae pandemig Covid19 wedi rhoi ystlumod dan y chwyddwydr gyda chyhuddiadau mai ‘bai ystlumod ydyw i gyd’. Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddeall a gwerthfawrogi ein ffrindiau’r nos yn well. Yn yr un modd ag y bydd adar yn bwydo ar infertebratau yn ystod y dydd, felly mae ystlumod yn ymgymryd â rôl debyg yn y nos gan dargedu’r gwybed a'r mosgitos annifyr hynny yn aml! Mae amcangyfrif pwysigrwydd economaidd ystlumod mewn systemau amaethyddol yn heriol ond mae yna ddigon o astudiaethau i ddangos pa mor bwysig yw ystlumod yn yr ecosystem.
Mae ystlumod yn cyfrif am fwy na chwarter y rhywogaethau mamaliaid preswyl yn y DU ac mae 15 o rywogaethau wedi'u cofnodi yng Nghymru. Gyda’r gaeaf ar ein gwarthau, dim ond dau brif bwrpas sydd gan ystlumod yma yn Ewrop dymherus: magu bloneg i oroesi dros y gaeaf pan fydd bwyd yn brin, ac i genhedlu! Yr hydref yw’r amser pan fyddan nhw’n dechrau paru er y gall paru barhau drwy'r gaeaf cyfan. Mae’r gaeaf yn gyfnod hynod dyngedfennol gan fod angen i ystlumod arbed ynni i oroesi. I wneud hyn mae’n rhaid iddynt reoli tymheredd eu corff yn gritigol a all olygu symud i leoedd newydd i aeafgysgu. Os byddan nhw’n gorfod deffro a symud o gwmpas yn ormodol, byddan nhw’n defnyddio eu cronfeydd wrth gefn gwerthfawr o fraster. Wedi’r gaeaf, rhaid bwydo mwy er mwyn adennill pwysau a pharatoi i’r benywod beichiog eni eu hifanc yn eu mannau clwydo mamolaeth.
Yr haf yw’r adeg yr ydym yn tueddu i weld ystlumod yn enwedig yr ystlumod lleiaf sy'n hedfan min nos. Mae gwefr wirioneddol o wylio ystlumod yn dod allan o'u mannau clwydo ond mae clywed eu galwadau dros synhwyrydd ystlumod yn ychwanegu at y cyffro. Os nad oes gennych brofiad blaenorol o ystlumod, neu os hoffech ei ailbrofi, chwiliwch am eich grŵp ystlumod lleol. Os hoffech chi gymryd rhan mewn arolygon ystlumod, yna mae gan wefan y Bat Conservation Trust wybodaeth ddefnyddiol i ddweud wrthych sut y gallwch chi gymryd rhan.