Mae eich Grŵp RSPB lleol eich angen!

English version available here

Yn y blog gwestai hwn, mae Maggie, arweinydd grŵp lleol yr RSPB yng Ngorllewin Morgannwg, yn trafod pam yr ymunodd hi â’i grŵp RSPB lleol, a’r holl fuddion a ddaeth gyda hynny.

Roedd gennyf i ddiddordeb mewn natur erioed.  Fodd bynnag, fel plentyn, nid oeddwn yn gallu adnabod llawer o’r rhywogaethau na deall eu harferion a’u hanghenion.  Yn dilyn fy ysgariad, cefais fy rhoi mewn cysylltiad â’r grŵp RSPB lleol a datblygodd pethau o’r fan honno.  Mae’n anodd ymuno â phethau newydd fel dynes sengl, ond derbyniais groeso mawr ac ymunais â’r grŵp ar deithiau cerdded a sgyrsiau.  Yna, dechreuais gynorthwyo mewn digwyddiadau, cyn ymuno â’r pwyllgor yn 2001.

Rydym yn parhau i gynnal cyfarfodydd pwyllgor, teithiau cerdded, sgyrsiau a thripiau, er bod ein cyfarfodydd yn awr yn cael eu cynnal drwy Zoom ac mae ein teithiau cerdded yn rhai unigol ac yn cael eu hadrodd ar WhatsApp.  Rydym yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau’r grŵp drwy e-bost bob mis a gobeithio y bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu codi ac y gallwn ni ddychwelyd at normalrwydd.

Rydw i’n ffodus iawn gyda fy mhwyllgor.  Rydym yn gweithio’n dda gyda’n gilydd, ac mae’r aelodau eraill yn fy nghefnogi i gyda’r holl newidiadau cyfrifiadurol ac maen nhw’n barod i newid a rhoi tro ar bethau newydd pan maen nhw’n cael eu hawgrymu.  Mae’u gwybodaeth am adar a’r ardal yn rhyfeddol, ac felly mae ein teithiau cerdded bob amser yn rhai dymunol a llawn gwybodaeth.  Mae fy ngwybodaeth am fflorau a ffawna wedi gwella yn enfawr, yn ogystal â dysgu mwy am ba leoedd i ymweld â nhw er mwyn gwylio bywyd gwyllt.

Mae natur wedi dod yn bwysig i lawer o bobl wrth i’w bywydau nhw addasu i Covid-19.  Mae teithiau cerdded rheolaidd, amser i edrych trwy’r ffenestr a thrin yr ardd i gyd wedi ychwanegu at wylio natur.  Roedd Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yn llwyddiant anferth eleni hefyd, gyda miloedd o bobl yn cymryd rhan.

Roedd gweld yr eirlysiau cyntaf a chlywed cân yr adar i gyd yn rhoi hwb inni a gwneud inni feddwl am y gwanwyn, yr haf ac amseroedd cynhesach.  Mae natur yma drwy’r flwyddyn ac mae cymryd amser i edrych, gwylio a gwrando i gyd yn ychwanegu at eich llesiant a’ch hwyl yn gyffredinol. Mae gweld adar, mamaliaid, blodau, coed, ffwng, glöynnod byw a chennau yn gwella eich amser yn yr awyr agored.  Ie, mae gennym ni ffonau clyfar, cyfrifiaduron a llyfrau, ond nid ydyn nhw bob amser yn ymddangos yn cynnwys yr union beth yr ydych chi wedi’i weld.    Gall fod yn rhan o grŵp RSPB lleol eich helpu chi gyda hynny! 

Mae ymuno â grŵp (pan allwn ni fynd allan nesaf) o fudd i’r profiad – yn aml, mae mwy nag un pâr o lygaid yn golygu bod mwy yn cael ei weld, ei rannu a’i adnabod.  Gall trafodaethau ynglŷn â rhywogaethau ac adnabod rhywogaethau roi atebion cyflym a rhesymau i helpu gydag adnabod yn y dyfodol.  Yn ogystal, mae’r grŵp yn ymweld â gwahanol ardaloedd diddorol yn ôl y tymhorau ac rydych chi’n cynyddu eich gwybodaeth ynglŷn â’r lleoedd nad ydych chi efallai wedi ymweld â nhw o’r blaen.  Mae bod mewn grŵp hefyd yn helpu os nad ydych chi’n adnabod yr ardal ac ni fyddech chi wedyn yn ymweld â’r lle ar eich pen eich hun.

Mae llawer o bobl y meddwl bod gwylio adar yn ddiddordeb sy’n cael ei wneud gan ddynion – ond nid yw hynny’n wir.  Mae merched hefyd yn ymuno, gan wneud cymysgedd bywiog o bobl yn rhannu’r un diddordeb.  Felly, os ydych chi’n ferch, a’ch bod yn dymuno cael gwybod mwy am natur ac yn mwyhau ymweld â gwahanol leoedd i archwilio bywyd gwyllt, byddech chi’n cael croeso.

Gan obeithio y bydd y cyfyngiadau symud yn rhan o’r gorffennol yn fuan, ac y gallwch chi unwaith eto archwilio natur a bod yn rhan o’r grŵp.

Cliciwch yma er mwyn cael rhagor o wybodaeth a darganfod lle mae eich grŵp RSPB lleol agosaf.