Mae canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd 2020 ar gael!

English version available here

Yr arolwg Gwylio Adar yr Ardd yw’r arolwg bywyd gwyllt mwyaf yn y byd. Mae’n ffordd wych o annog pobl o bob oed a chefndir i neilltuo ychydig o amser i fwynhau bywyd gwyllt. Yn ystod y cyfnod cythryblus sydd ohoni, mae gweithgareddau fel hwn, sy’n ein helpu i gysylltu â natur, yn bwysicach nag erioed. Gall y bywyd gwyllt rydym yn ei weld drwy’r ffenestr yn ein gerddi cefn gynnig seibiant mawr ei angen oddi wrth y straen sydd o’n cwmpas.

Y peth da am yr arolwg hwn yw bod pawb yn gallu cymryd rhan, a dim ond awr mae’n ei gymryd. Gall pobl gyfrannu at yr arolwg gartref drwy edrych drwy’r ffenestr ar eu gerddi cefn, yn y swyddfa, neu mewn parc yn y ddinas. Mae’n syml, ac mae’n ffordd hawdd o gasglu data pwysig sy’n helpu i roi syniad i ni sut y mae adar yr ardd yn dod yn eu blaen ar hyd a lled y wlad.

Eleni, mae miloedd o bobl o bob cwr o Brydain wedi cymryd rhan. Yng Nghymru, bu dros 24,000 o bobl yn cymryd rhan, a gwelwyd cyfanswm o 462,109 o adar. Diolch i bawb a gymerodd ran, am eich amser a’ch brwdfrydedd dros natur. Mae eich canlyniadau’n werthfawr iawn ac yn hollbwysig ar gyfer ein gwaith cadwraeth.

Ar ôl derbyn yr holl daflenni canlyniadau, mae ein tîm o wyddonwyr cadwraethol wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni yn prosesu rhifau, yn craffu ac yn dadansoddi’r data y buoch chi’n helpu i’w casglu. Nid tasg hawdd yw crynhoi miloedd o daflenni data yn wybodaeth hawdd ei deall i bawb arall, felly diolch yn fawr iawn i’n tîm gwych o wyddonwyr!


Beth yw’r stori eleni?

Ar yr olwg gyntaf, does dim llawer o newid. Yr aderyn a welwyd amlaf eto eleni oedd aderyn y to. Roedd cyfran helaeth o’r deg uchaf – o’r pedwerydd i’r wythfed safle – yr un fath yn union, gyda’r fwyalch, y ji-binc a’r nico yn aros yn yr un lle.

Roedd ychydig o newidiadau wrth gwrs – gwelsom y ddrudwen yn symud o’r ail i’r trydydd safle, a’r titw tomos las yn cyrraedd yr ail safle y tro hwn. Gwelsom hefyd y robin yn symud o’r wythfed i’r nawfed safle, gan wthio’r bioden o’r nawfed safle i’r degfed. Nid yw’r canlyniadau hyn yn ymddangos yn ddramatig iawn, ond maent yn dal yn bwysig.

Y stori fawr o ganlyniadau eleni yw ailymddangosiad y titw cynffon hir yn y 10 uchaf o’r adar gardd a welwyd amlaf yn yr arolwg eleni. Roedd y niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn arolwg Gwylio Adar yr Ardd y llynedd. Aeth yr aderyn hyfryd hwn i lawr i’r 12fed safle, ac mae’n bosibl bod y tywydd gwael wedi cyfrannu at hynny. Ydych chi’n cofio’r Dihiryn o’r Dwyrain? Cafodd y storm eira ddychrynllyd hon yn 2018 effaith fawr ar fywyd gwyllt o bob math yn y DU, ac rydym yn dal i weld a dysgu am ei heffaith heddiw. Er hyn, mae’n ymddangos bod y titw cynffon hir yn adennill tir, gan ei fod wedi dychwelyd i’r wythfed safle, â chynnydd aruthrol o 46% yn y nifer a welwyd o’i gymharu â’r llynedd. Mae’n arwydd da iawn bod yr adar difyr hyn yn ymgynnull yn ein gerddi unwaith eto!

Er nad ydym wedi gweld llawer o newid yn nhrefn yr adar gardd sydd i’w gweld amlaf, gwelwyd newid mawr yn y niferoedd ar gyfer rhai rhywogaethau. Mae’r prif newidiadau arwyddocaol o ran canrannau is i’w gweld yn achos y ji-binc, sydd â gostyngiad dychrynllyd o 9.8% yn y niferoedd a welwyd. Cafwyd ystadegau pryderus tebyg ar gyfer y titw mawr, â gostyngiad o 8.8% yn y nifer a welwyd o’i gymharu â’r llynedd. Mae hyd yn oed gostyngiadau llai yn peri pryder, wrth i ni weld niferoedd y drudwennod a’r mwyeilch yn gostwng eto, gan barhau â’r dirywiad - rhwng 2006 a 2020 rydym wedi gweld niferoedd y ddwy rywogaeth yn gostwng tua 11.4%.


Enghraifft wych o wyddoniaeth dinasyddion

Mae’r arolwg Gwylio Adar yr Ardd yn ffordd wych o gyfuno gwyddoniaeth cadwraeth â gwylio bywyd gwyllt. Mae cymryd rhan yn ffordd wych o gysylltu â natur a hybu ein dealltwriaeth o ba adar sy’n cael anhawster a pha rywogaethau sy’n gwneud yn dda. Mae eich cymorth chi hefyd yn ein galluogi i ddeall yn well pa help sydd ei angen ar gyfer rhai o’r adar gardd sy’n ei chael hi’n anodd. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni ar gyfer yr arolwg Gwylio Adar yr Ardd nesaf!

Cliciwch yma i weld holl ganlyniadau Gwylio Adar yr Ardd RSPB ac i weld pa adar oedd yn ymweld â gerddi yn eich ardal chi.