English version available here.
Mewn datganiad hir-ddisgwyliedig, dywedodd Mark Drakeford:
"Yn arbennig, rwy'n rhoi pwyslais mawr iawn ar y ffaith y câi'r prosiect effaith andwyol sylweddol ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent a'u rhwydwaith o ffosydd a'i fywyd gwyllt, ac ar rywogaethau eraill, ac y câi effaith andwyol barhaol ar dirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent”.
Does dim dwywaith y byddai bwrw ymlaen â'r gwyriad wedi bod yn drychinebus i'r bywyd gwyllt ar Wastadeddau Gwent. Yn ogystal â rhywogaethau prin fel y gardwenynen fain a'r llygoden ddŵr mae'r ardal hefyd yn gartref i lawer o adar gan gynnwys glas y dorlan, y dylluan wen a'r garan.
Ynghyd â gwrthwynebiad cryf gan nifer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys CALM (Ymgyrch yn erbyn Traffordd y Lefelau) ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent, fe gododd miloedd o gefnogwyr RSPB Cymru eu llais hefyd yn erbyn y gwyriad.
Derbyniodd ddeiseb gan 38 Degrees a oedd yn galw am atal y ffordd dros 20,200 o lofnodion, gyda'r nifer yn cynyddu'n gyflym yn yr wythnosau cyn penderfyniad Mark Drakeford.
Wrth sôn am y penderfyniad, dywedodd Cyfarwyddwraig RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton:
‘Mae'n rhyddhad enfawr gwybod nad yw'r draffordd newydd arfaethedig 14-milltir o hyd bellach yn bygwth dinistrio'r bywyd gwyllt prin sy'n byw ar Wastadeddau Gwent. Bywyd gwyllt fel y gardwenynen fain y mae ei phoblogaeth yng Ngwent yn un o ddau gadarnle sy'n weddill ar gyfer y creadur hwn yn y DU gyfan. Bywyd gwyllt fel y garan fonheddig sydd newydd ddychwelyd i nythu yma yng Nghymru wedi absenoldeb o dros 400 mlynedd.
‘Mae'r math yma o fywyd gwyllt yn brawf bod Gwastadeddau Gwent yn lle arbennig i natur, ond mae hefyd yn lle arbennig iawn i'r cymunedau sy'n byw yno - y mae eu lles a'u hiechyd yn cael ei adfer gan y man gwyrdd gwerthfawr hwn sydd mor agos at ddwy o'n dinasoedd mwyaf - ac am eu hanes anhygoel sy'n eu gwneud yn rhan mor bwysig o'n treftadaeth Gymreig.
‘Rydym yn teimlo'n galonogol iawn ac wedi'n hysbrydoli i wybod bod gan Gymru Lywodraeth sy'n cymryd datblygu cynaliadwy o ddifrif, gan ddal yn driw i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac i ddod o hyd i atebion i broblemau trafnidiaeth sy'n darparu buddion cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd i Gymru. Diolch i'r penderfyniad cyfrifol a blaengar hwn, rydym yn gwybod y bydd ein plant yn cael mwynhau harddwch, bywyd gwyllt, hanes a manteision iechyd Gwastadeddau Gwent am flynyddoedd lawer i ddod, ac am genedlaethau lawer wedi hynny’.
Er y byddem wedi dathlu'r penderfyniad beth bynnag, mae'r ffocws ar y difrod amgylcheddol y byddai'r ffordd wedi'i achosi yn ei gwneud yn fwy arwyddocaol fyth i ni. Mae'r penderfyniad beiddgar hwn i ganslo'r ffordd yn dangos bod Llywodraeth Cymru, o'r diwedd, yn ystyried dirywiad difrifol byd natur ac yn rhoi blaenoriaeth i greu Cymru fwy cynaliadwy.
Gyda'r cynlluniau ar gyfer y ffordd newydd hon wedi eu taflu o'r neilltu unwaith ac am byth, gallwn yn awr ddechrau gweithio tuag at Gymru gynaliadwy lle rydym yn cydweithio i wrthdroi dirywiad natur a sicrhau dyfodol gwell i ni ein hunain a chenedlaethau'r dyfodol.
Wrth i ni barhau i ddathlu, rydym am ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i ymgyrchu ar y mater hynod bwysig hwn. Heb eich cefnogaeth anhygoel, gallai canlyniad y penderfyniad fod wedi cael effaith ddinistriol ac ofnadwy ar fywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent. Yn ogystal ag arbed cartref nifer o rywogaethau anhygoel, mae'r penderfyniad hwn yn gosod cynsail ardderchog ar gyfer dyfodol ein bywyd gwyllt a'r Gymru y bydd ein plant, a phlant ein plant, yn eu hetifeddu.