Cyfarwyddebau Natur yw'r sylfaen ar gyfer cadwraeth yn y DU ac ar draws Ewrop. Maen nhw'n darparu'r lefel uchaf o warchodaeth ar gyfer unrhyw gynefinoedd neu rywogaethau ar hyn o bryd - ac maen nhw'n gweithio. Er gwaethaf hyn, maen nhw o dan fygythiad yn yr Undeb Ewropeaidd.
Er nad yw'r Cyfarwyddebau'n berffaith, mae'n hollbwysig nad ydyn nhw'n cael eu hadolygu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd arweinwyr Ewrop yn manteisio ar y cyfle i'w gwanhau. Mae'n debyg mai dyma fyddai'r trychineb mwyaf i fywyd gwyllt yn ystod ein hoes.
Heb y Cyfarwyddebau yng Nghymru...
Ni fyddai'r orgors ar y Berwyn ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig y Migneint wedi cael eu hadfer
Gwlithlys yng nghanol mwsogl y ffynhonnau (rspb-images)
Os byddwn yn gofalu am ein mawndiroedd, bydd pawb yn elwa. Mae mawn yn cloi carbon, yn helpu i gadw ein dyfroedd yn iach ac yn lleihau'r perygl o lifogydd.
Mae 12 - 15% o orgors y byd yn y DU, ac mae 4% yng Nghymru.
Mae mawnogydd yn gartref i'n bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr, gan gynnwys y grugieir duon, y bodaod tinwyn a'r cwtiaid aur.
Ni fyddai adar y môr yn cael eu gwarchod yng Nghymru
Adar dricyn Manaw (rspb-images)
Mae hanner poblogaeth adar drycin Manaw y byd yn bridio yma yng Nghymru. Heb y Cyfarwyddebau hyn, ni fydden nhw'n cael unrhyw warchodaeth ar y môr na lle maen nhw'n magu.
Hugannod Ynys Gwales (David Tipling: rspb-images)
Gwales yw'r drydedd ynys fwyaf yn y byd ar gyfer magu huganod - heb y Cyfarwyddebau hyn, ni fydden nhw'n cael eu gwarchod o gwbl.
Ni fyddai brain coesgoch yn cael eu gwarchod
Brain coesgoch (rspb.images)
Yn y DU, mae dwy ran o dair o boblogaeth y brain pig-goch, carismataidd hyn yng Nghymru - ni fydden nhw'n cael eu gwarchod, a byddai hynny'n fygythiad mawr i'r rhywogaeth hon sydd eisoes yn fregus.
Ni fyddai bodaod tinwyn yn cael eu gwarchod
Bod tinwen (Andy Hay: rspb-images.com)
Diolch i'r Cyfarwyddebau, crëwyd dwy Ardal Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer bodaod tinwyn yng Nghymru - Berwyn a Migneint-Arenig-Dduallt. Yma mae cartref y rhan fwyaf o'r boblogaeth yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 57 o barau magu yng Nghymru nawr.
Mae angen eich help ar natur nawr - GWEITHREDWCH i amddiffyn y deddfau hyn sy'n gwarchod yr uchod a llawer, llawer mwy!
A fyddech cystal ag ymateb i'r ymgynghoriad mewn un o ddwy ffordd (gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost yn y gwaith a'ch cyfrifiadur personol os ydych yn dymuno):
Rhaid i ni weithredu nawr er mwyn gwarchod ein cefn gwlad a'n bywyd gwyllt bendigedig.
Gyda'n gilydd gallwn #amddiffynnatur