English version available here.
Mae’n rhaid newid y sefyllfa hon, ond mae’r amser i wneud hynny’n brin. Bydd y degawd presennol hwn yn hollbwysig i ddyfodol byd natur yng Nghymru.
Mae angen i Gymru fod yn Natur Bositif erbyn 2030, yn unol â galwadau byd-eang am darged ar gyfer byd natur sy’n cyfateb i’r targed ‘sero net’ ar gyfer allyriadau carbon sydd wedi sbarduno gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Beth ydi bod yn Natur Bositif?
Mae bod yn Natur Bositif yn golygu atal a dechrau gwrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030, gyda’r adferiad yn parhau fel bod natur yn ffynnu ar draws tir a môr erbyn 2050. Gyda uwchgynhadledd fyd-eang fawr ar natur - y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 - yn cael ei chynnal yn Tsieina yn ddiweddarach eleni, rydyn ni am i Lywodraeth Cymru gefnogi Natur Bositif fel nod byd-eang a dangos arweiniad drwy ymrwymo i sicrhau Cymru Natur Bositif.
Sut mae sicrhau Cymru Natur Bositif?
Bydd dwy ddeddf newydd yng Nghymru yn hanfodol:
Mae arnom angen bil diogelu’r amgylchedd newydd i greu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol cryf, ac i osod targedau ar gyfer adferiad byd natur. Er gwaethaf llawer o addewidion yn dyddio’n ôl i 2018, Cymru bellach yw’r unig ran o’r DU sydd heb gorff annibynnol i oruchwylio’r gwaith o roi cyfreithiau amgylcheddol gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill ar waith, gan adael natur yn fwy agored i niwed a thanseilio hawliau dinasyddion Cymru i gael gafael ar gyfiawnder amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud addewid i osod targedau sy’n rhwymol yn gyfreithiol i adfer byd natur, ac mae hynny i’w groesawu. Gyda chytundeb byd-eang newydd ar gyfer byd natur ar y gorwel, nawr yw’r amser i weithredu er mwyn osgoi colli degawd arall o oedi a gweithredu annigonol. Bydd targedau sy’n rhwymol yn gyfreithiol yn hanfodol i sbarduno gweithredu i atal colli natur erbyn 2030, a dechrau gwrthdroi’r sefyllfa erbyn 2030.
Mae gan y Bil Amaethyddiaeth sydd ar y gweill potensial enfawr i helpu ffermwyr i wella byd natur ar eu tir, yn ogystal â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae dros 80% o dir Cymru yn cael ei ffermio a rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i sicrhau bod ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn creu diwydiant ffermio sy’n effeithlon, yn gadarn ac yn well i natur. Drwy ddarparu ‘Arian Cyhoeddus ar gyfer Nwyddau Cyhoeddus’ gall y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddarparu incwm i ffermwyr am adfer natur, a thrwy wneud hynny gall fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau pridd iach ac aer a dŵr glân ar eu tir. Gyda’r gefnogaeth briodol, gall natur a ffermio fynd law yn llaw i adfer bioamrywiaeth yng Nghymru.
Mae Llywodraethau ledled y byd yn dod at ei gilydd yng nghynadledd COP15 i gytuno ar dargedau uchelgeisiol ar gyfer adferiad byd natur dros y degawd nesaf. Rhaid i Gymru gamu i’r adwy ac ymrwymo i nodau a thargedau uchelgeisiol gartref hefyd, a nodi’r rhain mewn deddfwriaeth. Rydyn ni’n gwybod, heb gyfreithiau i sbarduno gweithredu a darparu atebolrwydd, bod Cymru wedi methu â chyrraedd targedau blaenorol ar gyfer natur.
Mae’n rhaid gweithredu ar unwaith – ni fydd ein byd naturiol yn cael ei diogelu a’i adfer nes bydd Llywodraeth Cymru yn camu i’r adwy ac yn ymrwymo i gyflwyno’r cyfreithiau hyn. Bydd y sefyllfa’n gwaethygu’n sylweddol os na fyddwn yn gweithredu.
Mae amser yn brin: os na fyddwn ni’n gweithredu nawr, bydd y bywyd gwyllt rydyn ni’n ei garu ac yn dibynnu arno ar gyfer ein llesiant, ein hysbrydoliaeth ac i gynnal bywyd, fel dŵr glân ac aer, yn cael eu colli.
Credit llun: Ben Andrew (rspb-images.com)