English version available here.
Gyda llawer yn awyddus i gael penderfyniad cyn gynted â phosibl, mae Llywodraeth Cymru’n awr wedi addo gwneud cyhoeddiad yn ystod wythnos gyntaf Mehefin.
Yr hyn a wyddom hyd yma
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ddechrau Mehefin a fydd yn gwneud gorchmynion i fwrw ymlaen â’r ffordd – rhoi caniatâd cynllunio, i bob pwrpas. Os caiff hyn ei ganiatáu, bydd dadl wedyn yn y Cynulliad a phleidlais i benderfynu a ddylid caniatáu arian ar gyfer datblygu’r M4.
O gofio’r ymrwymiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i warchodaeth amgylcheddol a’r datganiad o argyfwng hinsawdd a gefnogwyd gan y Senedd, bydd yn siom enbyd i ni os bydd y Prif Weinidog yn rhoi caniatâd i’r cynllun dinistriol hwn. Ond mae’n bosibl o hyd y gallai pleidleisiau Aelodau Cynulliad fod yn allweddol i achub Gwastadeddau Gwent.
Amcangyfrifir y bydd y prosiect yn costio £1.4bn. Mae llawer, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, wedi dadlau y byddai’n well buddsoddi’r arian hwn i drawsnewid system drafnidiaeth gyhoeddus Cymru, ac y byddai hyn yn cyd-fynd yn well ag nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Gydag un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, nid oes amheuaeth ei bod hi’n argyfwng ar natur. Bydd dinistrio cynefinoedd fel Gwastadeddau Gwent yn dwysau’r argyfwng hwn yn fawr.
Byddai’r cynllun yn torri ar draws dim llai na phedwar safle gwarchod natur o bwys cenedlaethol (SoDdGAau). Mae’r safleoedd hyn yn gartref i rai rhywogaethau rhyfeddol, gan gynnwys dyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, ystlumod, pathewod a’r cardwenyn fain prin. Byddai hefyd yn dinistrio cynefin y pâr cyntaf o aranod cyffredin i fridio yng Nghymru mewn 400 mlynedd. Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref hefyd i’r glas y dorlan, tylluanod gwynion a chornchwiglod.
Mae’r ddeiseb hon bellach wedi cael ei llofnodi gan dros 20,000 o bobl, sy’n dangos cymaint yw’r pryderon am ddyfodol y rhywogaethau sy’n dibynnu ar y Gwastadeddau.
Sut y gallwch chi helpu
Mae’r gefnogaeth rydym wedi’i chael gennych chi i’r hyn sydd bellach yn un o’n hymgyrchoedd hwyaf wedi bod yn anhygoel. Rydych wedi trydar, llofnodi a phrotestio ar ran bywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent, ac mae gennym yn awr gymwynas i’w gofyn. Mae’n dod wrth i ACau fwrw pleidlais ar y cynllun, ac rydym am weld cymaint â phosibl ohonynt yn pleidleisio #NoNewM4.
Fel etholwr, gall ychydig o anogaeth fynd ymhell. Anfonwch e-bost neu ysgrifennwch at eich AC yn gofyn iddynt achub bywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent ac i bleidleisio yn erbyn y cynllun. Bydd y penderfyniad terfynol ar yr M4 yn un allweddol ac efallai mai dyma fydd eich cyfle olaf i godi llais yn ei erbyn.
Os oes angen help arnoch i ganfod pwy yw eich AC, cliciwch yma.