please scroll down for English


Yn dilyn adroddiadau o linosod y mynydd yn cael eu gweld ger Twll Du yn Nant Ffrancon, penderfynodd grwp ohonom fynd i ymchwilio a chyfrif faint sydd yn y dyffryn.

Cwrddodd y grŵp, oedd yn cynnwys aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y BTO a’r RSPB, yng ngwaelod y dyffryn i astudio map oedd yn dangos y mannau arolygu hanesyddol a’r mannau lle welwyd yr adar ddiwethaf. Penderfynwyd rhannu mewn i barau i chwilio’r dyffryn am yr adar prin hyn.

Roedd graddau gwahanol o lwyddiant heb ddim adar i’w gweld mewn rhai mannau arolygu, tra mewn man arall gwelwyd 32 o linosod y mynydd diolch i gudyll coch wnaeth ddigwydd pasio gan ddychryn haid o’u cuddfan. Yn gyfan gwbl, gwelwyd rhwng 42-48 o linosod y mynydd, sydd yn addawol o ystyried pa mor hwyr oedd gwanwyn yn y mynyddoedd eleni.

Plîs rhowch wybod i ni os welwch chi unrhyw linosod y mynydd yn yr ardal yn y dyfodol er mwyn i ni fedru creu darlun gliriach o sefyllfa’r adar hyfryd hyn.  Gyrrwch eich lluniau i Facebook RSPB Cymru neu Trydar @RSPBCymru

 

-----------------------------------------------

Following last week’s reports of twite sightings near Devil’s Kitchen in the Nant Ffrancon Valley, a group of us went to investigate and count how many are in the valley.

The group, that compromised of members of the National Trust, BTO and the RSPB, met in the bottom of the valley to study maps showing historic surveying sights along side the latest reported sightings. They decided to split into pairs to survey the valley for these rare birds.

Admittedly, there were varying levels of success with a few surveying sights devoid of any twites, while in another sight at least 32 were seen due to a helpful passing kestrel that flushed the birds out of hiding. A grand total of 42-48 birds were seen, an encouraging number considering the late start to spring in the mountains this year.

Please send us any twite sightings you may have for the area in the future in order to for us to create a clearer picture of the situation of these lovely birds. Send them to our Facebook page RSPB Cymru or tweet @RSPBCymru