To read this blog in English please click here

"Mae bod yn Bencampwr Rhywogaethau yn creu ymdeimlad o gyfrifoldeb, a dyletswydd tuag at y gylfinir sydd dan fygythiad. Mae'n bwysig bod gennym bencampwyr rhywogaethau yn y Cynulliad gan eu bod yn rhoi llais unigol i’r rhywogaeth, a llais ar y cyd dros fywyd gwyllt sydd o dan fygythiad."


Yma yng Nghymru, Pencampwr Rhywogaethau ar gyfer y gylfinir yw’r Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth y gogledd, Mark Isherwood.. Ers iddo ymuno â'r project yn 2016, mae Mark wedi cymryd yr amser i ddysgu am y rhydwyr hyn ac wedi codi ymwybyddiaeth o'r rhywogaeth oddi fewn cymunedau lleol a’r Cynulliad.

Yn anffodus, mae pryder y gellid colli gylfinirod o Gymru yn yr ychydig ddegawdau nesaf os nad yw eu ffawd yn gwella. Mae nifer y gylfinirod yng Nghymru wedi gostwng 80% ers y 1980au, mae parau bridio bron â diflannu o ardaloedd o dir isel, ac er eu bod yn dal yn weddol gyffredin yn yr ucheldiroedd, mae eu niferoedd yn isel a dim ond i ddal ar mewn pocedi. Oherwydd y gostyngiad dramatig, mae gylfinirod bellach ar Restr Goch adroddiad Adar o Bryder Cadwraethol Cymru 3 - sy'n tynnu sylw pellach at yr angen i weithredu ar frys.

Yn fuan ar ôl derbyn y rôl fel Pencampwr Rhywogaethau, ymwelodd Mark â phroject rheoli treialon y gylfinir yn Ysbyty Ifan - un o chwe ardal astudiaeth yn y DU - i weld sut mae'r cynefin yn cael ei reoli'n benodol er budd y gylfinir. Y llynedd, I pwysleisiodd Mark fod angen gweithredu i ddiogelu’r gylfinir, trwy gyflwyno datganiad yn y Cynulliad, yn galw am gynlluniau amaeth-amgylcheddol a system gwell o fonitro adar sy’n bridio.

Llun: Gylfinir, Andy Hay rspb-images.com

Ar 1 Mehefin, bydd Mark yn mynychu Gŵyl y Gelli ble bydd yn rhan o banel sy’n cynnwys yr awdur a’r cadwraethwr Mary Colwell a Chyfarwyddwr Cadwraeth Fyd-eang yr RSPB Martin Harper. Bydd gwesteion yn mwynhau cyflwyniad o lyfr newydd Mary o’r enw Curlew Moon. Mae’r llyfr yn mynd â’r darllenydd ar daith ddarganfod, sy'n cyd-fynd â hanes naturiol y gylfinir sydd wedi ein hysbrydoli ers sawl mileniwm.

Un o hoff bethau Mark am y gylfinir ydy "ei chymeriad arallfydol a’i lais ethereal". Mae'n amlwg ei fod Mark yn eiriolwr gwych ar gyfer y rhywogaeth, a gall ei frwdfrydedd a’i lais fod yn allweddol i newid tynged y gylfinir er gwell.

Os hoffech fynd i ddigwyddiad Curlew Moon, gallwch brynu tocynnau drwy wefan Gŵyl y Gelli yn: bit.ly/CurlewMoon