Jinx, ci bioddiogelwch RSPB Cymru

English version available here

Yn RSPB Cymru rydyn ni’n gweithio fel rhan o’r prosiect Bioddiogelwch LIFE, sydd â’r nod o ddiogelu adar y môr sy’n nythu ar y tir ar rai o’n hynysoedd arfordirol yng Nghymru. Prynwyd Jinx fel rhan o’r cynllun hwn, wedi’i ariannu drwy gronfa Datblygu Gwledig Ewrop. Treuliodd ei ddwy flynedd gyntaf yn cael ei hyfforddi yn Lerpwl cyn dod i fyw gyda Greg, Rheolwr Safle Ynys Dewi, lle cafodd ei hyfforddi ymhellach cyn cael ei roi allan i weithio’n swyddogol. Mae defnyddio ci cadwraeth i fonitro achosion llygod mawr yn ddull newydd, cynaliadwy ac, yn wahanol i gŵn arogli eraill, mae wedi cael ei hyfforddi i ganfod llygod mawr yn benodol.

Unwaith y bydd ynysoedd yn rhydd ohonyn nhw, mae Jinx yn gyfrifol am weithio gyda gweithredwyr cychod lleol i sicrhau nad oes unrhyw lygod mawr newydd yn sleifio ar y cwch ac yn cael eu hailgyflwyno yn anfwriadol.  Dyma Jinx gyda'i golwg ei hun ar y gwaith y mae'n ei wneud i ni.

“Wel, roedd heddiw’n ddiwrnod MOR dda. Dechreuodd gyda’r mistar yn gwisgo ei wasgod arbennig ac yn fy rhoi yn fy harnais y peth cyntaf yn y bore. Dim ond newydd gael brecwast oedden ni! Hwre, roedd hyn fel arfer yn golygu ein bod yn cael mynd allan i ‘weithio’ ac nid dim ond mynd am dro arferol yn y bore! Dw i’n hoffi mynd am dro gyda’r mistar gan fy mod i’n meddwl bod angen ymarfer corff arno, ond mae’n well o lawer gen i pan fyddwn ni’n cael mynd allan i ‘weithio...’

Dim syniad lle’r ydyn ni’n mynd i weithio eto, dywedodd y mistar wrtha i, ond doeddwn i ddim wir yn deall yr hyn a ddywedodd o. Fe wnes i ysgwyd fy nghynffon ac eistedd yn llonydd, gan edrych ar y drws fel ei fod yn gwybod fy mod i’n barod i fynd. O, sbia! Mae wedi cael allweddi’r car! Pe bawn i’n neidio ychydig ac yn codi fy nghynffon hyd yn oed yn fwy, efallai y bydd yn brysio! Tyrd mistar! Dw i yma! Dw i’n barod! Helo?! Plîs, plîs gawn ni fynd....?

Dwi yn y car, yn ddiogel ac yn fodlon fy myd yn fy nghawell yng nghist y car. Does dim angen gwregys diogelwch arna i. Ar gyfer cŵn anwes sydd ddim yn arbennig mae'r rheini, ddim ar gyfer spaniels gweithio fel ni. Cocker Spaniel tri oed ydw i ac mae gen i swydd bwysig IAWN i’w gwneud – dod o hyd i le mae llygod mawr yn byw, A HEFYD cael danteithion blasus am wneud hynny. Pa mor wych ydy hynny? Dwi’n un o nifer dethol o gŵn canfod cadwraeth yn y wlad a fy ngwaith i yw cael gwared ar lygod mawr ond peidio â’u brifo, felly mae’n rhaid bod hynny’n fy ngwneud i’n arbennig iawn Blush.

Rydyn ni newydd stopio. Mae’n debyg bod hynny’n golygu ein bod ni wedi cyrraedd felly rydw i’n mynd i eistedd yma’n dawel nes bydd y mistar yn dod i’m nôl i...

Reit, dwi y tu allan (i’r ysgol), yn dal yn fy harnais ac mae e’n dal i wisgo’r wasgod – sy’n golygu ei bod hi’n amser gwaith! Amdani! Gwyliwch allan llygod mawr – os ydych chi yma, byddaf yn eich arogli!

Felly, ar iard yr ysgol mae llawer o wynebau’n fy ngwylio. Rhesi a rhesi o blant. Efallai fod yr ysgol gyfan yma hyd yn oed. Ond dim ots gen i, maen nhw’n arogli’n neis - ffrwythau, creision ac yn bwysicach, dydyn nhw ddim yn arogli fel llygod mawr! Mae’r mistar wedi rhoi llawer o’n potiau hyfforddi allan ar yr iard. Fel arfer, mae’n cuddio darn o fy nhegan ‘Kong’ neu faw llygoden mawr i mi ddod o hyd iddo gan fod gen i dderbynyddion arbennig yn fy nhrwyn sy’n golygu bod cŵn gwaith fel fi yn dda iawn am synhwyro pethau a dod o hyd i arogleuon penodol. Heddiw, mae ganddo chwech potyn hyfforddi, ond dim ond mewn un ohonyn nhw fydd y pethau da. Weithiau, mae’n rhaid i mi redeg o amgylch yr iard i ddod o hyd iddo gan fod llawer o arogleuon diddorol eraill o gwmpas. Ond nid y tro hwn, gan fy mod wedi dod o hyd iddo’n syth bin! Felly, y peth pwysig iawn i mi ei wneud nesaf yw eistedd yn llonydd wrth ymyl y pot hyfforddi (sy’n cynnwys arogl baw llygoden fawr ynddo) ac aros. Mae’r mistar wedi fy nysgu i i wneud hyn, fel nad ydw i ddim yn cyfarth ac yn tarfu ar yr holl adar swnllyd! Os ydw i’n cael pethau’n iawn, fel y gwnes i heddiw, mae’r mistar yn rhoi tegan arbennig i mi chwarae ag ef. Hwre! Dw i wrth fy modd. Tegan ‘Kong’ ar raff ydy o. Y ‘Kong’ coch ar raff yw fy hoff degan yn y BYD! Rydyn ni’n cael chwarae – mae’r mistar yn dal gafael arno ac rydyn ni’n chwarae gêm tynnu rhaff. Mae’n wych. Dwi’n tynnu ac yn tynnu arno tra bod y mistar yn gafael yn y pen arall. Dwi’n meddwl bod y mistar yn hoffi’r gêm hefyd, am ei fod yn gwenu pan rydyn ni'n chwarae.

Mae’r mistar wedi cuddio’r potiau hyfforddi eto. Y tro hwn mewn lle gwahanol. Fe wnaeth i mi aros rownd y gornel felly doeddwn i ddim yn gallu gweld lle’r oedd wedi cuddio’r un arbennig. Ond dydy hyn ddim yn broblem i mi, gan nad ydw i’n gi golwg fel milgi sydd yn rhedeg ar ôl y pethau y mae’n ei weld. Dwi’n chwilio am bethau yn ôl arogl ac yn gallu dod o hyd iddyn nhw’n hawdd. Er y tro hwn, ceisiodd y mistar fy nhwyllo gan nad oedd yn y potiau hyfforddi arferol. Y tro hwn roedd wedi’i guddio mewn crac bach ar un o’r pyst yn yr iard. Fe gefais i gryn dipyn o sylw am ddod o hyd i hwn.  A fy nhegan rhaff arbennig. Doeddwn i ddim eisiau ei roi’n ôl y tro hwn. Plîs mistar, gawn ni chwarae gyda’r rhaff am funud arall? Dw i’n mynd i’w ddal rhwng fy nannedd rhag ofn y gallwn ni.....grrr, hen dro. Mae wedi rhoi cyfarwyddyd i mi i'w ollwng felly mae’n well i mi ufuddhau! 

Mae’r mistar yn cadw’r tegan a’r potiau hyfforddi ac mae’n siarad erbyn hyn. Mae’n hoffi siarad ac yn gwneud i mi eistedd yn dawel tra mae’n gwneud hynny. Yn debyg iawn i’r holl blant hynny sy’n eistedd yn ddistaw yn fy ngwylio! Mae cryn dipyn o wenu a chlapio (a dwi’n cael mwy o sylw) felly dwi’n meddwl bod y mistar yn hapus gyda fy ngwaith heddiw.

Reit, rydyn ni wedi pacio nawr a dwi newydd gael fy rhoi yn ôl yn fy nghawell i ddod adref. Mae hyn yn syniad da, oherwydd - ydych chi wedi gweld y ffordd mae’r mistar yn gyrru?!

Dwi wedi blino nawr. Mae wedi bod yn ddiwrnod cyffrous. Dwi’n meddwl y gwna i orwedd yn fy ngwely am ychydig bach a chau fy llygaid...dim ond rhyw 5 munud o seibiant...yna, mi fydda i’n barod i fynd allan eto.